
Mae’r adroddiad Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol hwn yn archwilio tystiolaeth fyd-eang ar ymyriadau ataliol a mecanweithiau diogelu cyllidebau a’u symud tuag at atal.
Mae enghreifftiau o’r Almaen, Estonia, y Ffindir a De Korea yn dangos bod buddsoddiad cyson mewn gwaith ataliol yn bosibl pan gaiff ei gefnogi gan lywodraethu cryf, offerynnau ariannu pwrpasol, aliniad a chydweithio traws-sector, a systemau mesur cadarn.
Negeseuon Allweddol
* Mae mecanweithiau ariannu hirdymor, wedi’u diogelu, yn hanfodol i gynnal gwariant a buddsoddiad mewn gwaith ataliol.
* Gall mesur gwariant a chanlyniadau gwaith ataliol yn well gryfhau’r achos dros fuddsoddi.
* Mae gwaith ataliol yn darparu buddion y tu hwnt i iechyd, sy’n cynnwys enillion economaidd, cymdeithasol a thegwch.
* Mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos y gall cyllid, deddfwriaeth a phartneriaethau traws-sector pwrpasol gynyddu cyllid a buddsoddiad mewn gwaith ataliol yn llwyddiannus.
* Mae angen gweithredu ar frys i sicrhau bod gwariant ar waith ataliol yn tyfu ac yn parhau i fod yn gynaliadwy er mwyn gwella iechyd y boblogaeth a lleihau’r galw am wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.
