{"id":611,"date":"2018-03-28T15:23:00","date_gmt":"2018-03-28T15:23:00","guid":{"rendered":"http:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/?p=611"},"modified":"2023-04-17T08:33:57","modified_gmt":"2023-04-17T08:33:57","slug":"press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/","title":{"rendered":"Datganiad I&#8217;r Wasg: Cymru &#8211; yn arwain y byd ar fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dynodi Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar \u2018Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r dynodiad yn cydnabod Iechyd Cyhoeddus Cymru fel un o&#8217;r awdurdodau sy&#8217;n arwain y byd ar gynorthwyo buddsoddi yn iechyd a llesiant pobl, ysgogi datblygu cynaliadwy a hyrwyddo ffyniant i bawb.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma&#8217;r Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd gyntaf yn y maes hwn o arbenigedd yn y byd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y Ganolfan Gydweithredol newydd yn datblygu, yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth newydd am y ffordd orau o fuddsoddi mewn gwell iechyd, lleihau anghydraddoldebau a meithrin cymunedau cryfach yng Nghymru, Ewrop a ledled y byd.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel rhan o&#8217;r datblygiad cydweithredol hwn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd wedi cytuno ar raglen pedair blynedd o waith.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd hyn yn llywio ac yn hyrwyddo polis\u00efau mwy cynaliadwy, yn croesawu egwyddorion hawliau dynol, tegwch ac ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth ac yn helpu i fynd i&#8217;r afael ag anghenion llesiant cenedlaethau&#8217;r presennol a&#8217;r dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Vaughan Gething, AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae hon yn garreg filltir ar gyfer Cymru gyfan. Er nad ydym yn wlad fawr rydym yn edrych tuag allan, yn dangos cyfrifoldeb byd-eang ac yn gwbl ymrwymedig i Gymru iach a chynaliadwy drwy ein Deddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol (Cymru) sy&#8217;n unigryw yn rhyngwladol.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Fel un o sylfaenwyr Rhwydwaith Rhanbarthau er Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd, mae&#8217;n bleser gennym allu rhannu ein profiad a&#8217;n harbenigedd \u00e2 gwledydd eraill a gweithio tuag at fyd mwy cyfartal, iach a chynaliadwy.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Gobeithio y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, a&#8217;i Chanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd gyntaf, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu ein strategaeth genedlaethol,&nbsp;<a href=\"http:\/\/gov.wales\/newsroom\/firstminister\/2017\/170919-new-national-strategy-for-a-more-prosperous-wales\/?skip=1&amp;lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Ffyniant i Bawb<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Gyda&#8217;n gilydd gallwn ddangos sut y gall buddsoddi mewn iechyd cyhoeddus a pholis\u00efau ataliol alluogi economi ffyniannus, deg a mwy cynaliadwy, yn ogystal \u00e2 system iechyd ddarbodus, sy&#8217;n canolbwyntio ar bobl, o ansawdd uchel a chydnerth yng Nghymru.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymuno \u00e2 rhwydwaith o dros 700 o ganolfannau cydweithredol sy&#8217;n cwmpasu gwahanol bynciau iechyd ac wedi&#8217;u lleoli mewn 80 wledydd ledled y byd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yn cynorthwyo Cymru i weithredu&nbsp;<a href=\"https:\/\/sustainabledevelopment.un.org\/post2015\/transformingourworld\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig ar Ddatblygu Cynaliadwy<\/a>&nbsp;a\u2019r hyn sy&#8217;n cyfateb iddi yn genedlaethol ac sy&#8217;n arwain y byd, sef&nbsp;<a href=\"http:\/\/gov.wales\/topics\/people-and-communities\/people\/future-generations-act\/?skip=1&amp;lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Deddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol (Cymru)<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Disgwylir y bydd y ganolfan gydweithredol newydd yn cael ei lansio&#8217;n ffurfiol ym mis Mai.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Dr Christoph Hamelmann, Pennaeth Swyddfa Ewrop Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu Sefydliad Iechyd y Byd a Swyddog Cyfrifol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer y Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd newydd:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae&#8217;n bleser gennym groesawu cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Canolfan Gydweithredol gyntaf Sefydliad Iechyd y Byd.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae&#8217;r arbenigedd a&#8217;r gwaith o safon uchel gan ein cydweithwyr yng Nghymru wedi bod yn ased gwerthfawr i Sefydliad Iechyd y Byd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ein gwaith ar y cyd diweddar i goladu gwybodaeth ynghylch&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.euro.who.int\/en\/publications\/abstracts\/investment-for-health-and-well-being-a-review-of-the-social-return-on-investment-from-public-health-policies-to-support-implementing-the-sustainable-development-goals-by-building-on-health-2020-2017\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">\u2018Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant\u2019<\/a>&nbsp;yn enghraifft dda o&#8217;n cydweithio buddiol.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydym yn edrych ymlaen at barhau \u00e2&#8217;n gwaith ar y cyd, gan gynorthwyo gwledydd ar draws Rhanbarth Ewrop a&#8217;r byd i ysgogi buddsoddi mewn iechyd, llesiant a thegwch a chyflawni econom\u00efau, cymdeithasau ac iechyd y blaned yn gynaliadwy.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae statws Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd o ganlyniad i bartneriaeth hirdymor rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd, gan ennill r\u00f4l arweiniol yn yr agenda iechyd a datblygu cynaliadwy byd-eang.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai&#8217;r Athro Mark A Bellis, Cyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol newydd Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cBydd dod yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn ein galluogi i adeiladu ar y blynyddoedd o waith llwyddiannus a wnaed gennym eisoes gyda Sefydliad Iechyd y Byd.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae llawer o wledydd yn y byd yn wynebu problemau tebyg o ran sicrhau y gall cenedlaethau olynol ddisgwyl bywydau iach, teg a ffyniannus.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cBydd gweithio gydag arbenigwyr blaenllaw&#8217;r byd yn Sefydliad Iechyd y Byd, a thrwy gydol eu rhwydweithiau rhyngwladol, yn ein helpu i ddeall pa bolis\u00efau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus sy&#8217;n gweithio orau i bobl Cymru ac i&#8217;r rhai mewn gwledydd eraill ledled y byd.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae Cymru eisoes yn arweinydd byd-eang ym maes polisi iechyd cyhoeddus. Rydym yn edrych ymlaen at rannu&#8217;r hyn yr ydym wedi&#8217;i ddysgu a dysgu oddi wrth eraill am sut i wneud Cymru yn lle hyd yn oed yn well i fyw, gweithio a magu teulu.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwyf wrth fy modd i ni gael ein gwahodd i ymuno \u00e2&#8217;r rhwydwaith byd-eang hwn o arbenigedd. Mae ein cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu rhyngwladol wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr i faes datblygu cynaliadwy a buddsoddi mewn iechyd cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae&#8217;n wych bod eu gwaith caled yn cael ei gydnabod.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwy&#8217;n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chydweithwyr ac arbenigwyr ledled y byd, i sicrhau manteision mwyaf posibl dysgu ac arloesedd rhyngwladol i bobl Cymru, yn ogystal \u00e2 gwella&#8217;n r\u00f4l yn yr agenda iechyd byd-eang a&#8217;n heffaith arni.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae canolfannau cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn cael eu cydnabod fel canolfannau rhagoriaeth sy&#8217;n arwain y byd yn eu maes.<\/p>\n\n\n\n<p>Ychwanegodd Jan Williams, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae aelodau Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymuno \u00e2 mi wrth longyfarch Mark Bellis a&#8217;i d\u00eem ar y cyflawniad rhagorol hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae&#8217;n gydnabyddiaeth haeddiannol ar gyfer eu gwaith arloesol ar draws yr agenda polisi iechyd cyhoeddus, ac mae&#8217;n rhoi Cymru wrth wraidd y mudiad iechyd cyhoeddus byd-eang.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru berthynas hirsefydlog \u00e2 Sefydliad Iechyd y Byd ac mae&#8217;r dyfarniad hwn yn ein helpu i adeiladu ar hynny, er budd gwella iechyd a llesiant pobl Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae ein haelodau Bwrdd yn edrych ymlaen at barhau i weithio&#8217;n agos gyda chydweithwyr Sefydliad Iechyd y Byd a gwneud y mwyaf o&#8217;r dyfarniad hwn i Gymru.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dynodi Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar \u2018Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant\u2019. Mae&#8217;r dynodiad yn cydnabod Iechyd Cyhoeddus Cymru fel un o&#8217;r awdurdodau sy&#8217;n arwain y byd ar gynorthwyo buddsoddi yn iechyd a llesiant pobl, ysgogi datblygu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":123,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_coblocks_attr":"","_coblocks_dimensions":"","_coblocks_responsive_height":"","_coblocks_accordion_ie_support":"","footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-611","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v19.2 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Datganiad I&#039;r Wasg: Cymru - yn arwain y byd ar fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant - Iechyd Rhyngwladol<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Datganiad I&#039;r Wasg: Cymru - yn arwain y byd ar fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant - Iechyd Rhyngwladol\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dynodi Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar \u2018Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant\u2019. Mae&#8217;r dynodiad yn cydnabod Iechyd Cyhoeddus Cymru fel un o&#8217;r awdurdodau sy&#8217;n arwain y byd ar gynorthwyo buddsoddi yn iechyd a llesiant pobl, ysgogi datblygu [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Iechyd Rhyngwladol\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2018-03-28T15:23:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-04-17T08:33:57+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"cowshed\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"cowshed\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/#website\",\"url\":\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/\",\"name\":\"Iechyd Rhyngwladol\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy#webpage\",\"url\":\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy\",\"name\":\"Datganiad I'r Wasg: Cymru - yn arwain y byd ar fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant - Iechyd Rhyngwladol\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/#website\"},\"datePublished\":\"2018-03-28T15:23:00+00:00\",\"dateModified\":\"2023-04-17T08:33:57+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/#\/schema\/person\/4d81a9d825360e7796cf93b6e63d1955\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Datganiad I&#8217;r Wasg: Cymru &#8211; yn arwain y byd ar fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant\"}]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/#\/schema\/person\/4d81a9d825360e7796cf93b6e63d1955\",\"name\":\"cowshed\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d4a16cb5f8a7eda5227b73c762c4cc7e1c497c1be9b9f49157265cb6119ec5a5?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d4a16cb5f8a7eda5227b73c762c4cc7e1c497c1be9b9f49157265cb6119ec5a5?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"cowshed\"},\"url\":\"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/author\/iht\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Datganiad I'r Wasg: Cymru - yn arwain y byd ar fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant - Iechyd Rhyngwladol","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Datganiad I'r Wasg: Cymru - yn arwain y byd ar fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant - Iechyd Rhyngwladol","og_description":"Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dynodi Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar \u2018Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant\u2019. Mae&#8217;r dynodiad yn cydnabod Iechyd Cyhoeddus Cymru fel un o&#8217;r awdurdodau sy&#8217;n arwain y byd ar gynorthwyo buddsoddi yn iechyd a llesiant pobl, ysgogi datblygu [&hellip;]","og_url":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy","og_site_name":"Iechyd Rhyngwladol","article_published_time":"2018-03-28T15:23:00+00:00","article_modified_time":"2023-04-17T08:33:57+00:00","author":"cowshed","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"cowshed","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/#website","url":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/","name":"Iechyd Rhyngwladol","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy#webpage","url":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy","name":"Datganiad I'r Wasg: Cymru - yn arwain y byd ar fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant - Iechyd Rhyngwladol","isPartOf":{"@id":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/#website"},"datePublished":"2018-03-28T15:23:00+00:00","dateModified":"2023-04-17T08:33:57+00:00","author":{"@id":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/#\/schema\/person\/4d81a9d825360e7796cf93b6e63d1955"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/2018\/03\/28\/press-release-wales-world-leading-on-investment-for-health-and-well-being\/?lang=cy#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Datganiad I&#8217;r Wasg: Cymru &#8211; yn arwain y byd ar fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant"}]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/#\/schema\/person\/4d81a9d825360e7796cf93b6e63d1955","name":"cowshed","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/phwwhocc.co.uk\/ih\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d4a16cb5f8a7eda5227b73c762c4cc7e1c497c1be9b9f49157265cb6119ec5a5?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/d4a16cb5f8a7eda5227b73c762c4cc7e1c497c1be9b9f49157265cb6119ec5a5?s=96&d=mm&r=g","caption":"cowshed"},"url":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/author\/iht\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/611","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/wp-json\/wp\/v2\/users\/123"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=611"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/611\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2045,"href":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/611\/revisions\/2045"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=611"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=611"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/icccgsib.co.uk\/ih\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=611"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}