Heddiw mae uned cymorth HIA Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ‘Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd – Adolygiad a Diweddariad Cyflym’.
Mae hwn yn adroddiad dilynol atodol byr ac yn adeiladu ar ddadansoddiad manwl, Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Ionawr 2019, sy’n archwilio effeithiau posibl Brexit ar iechyd a llesiant tymor byr, canolig a thymor hir pobl sy’n byw yng Nghymru.
Gellir gweld yr adroddiad newydd yma ac mae’n tynnu sylw at effeithiau negyddol neu gadarnhaol posibl Brexit a’r grwpiau poblogaethau y gellid effeithio arnynt yn benodol.
Rhannu’r erthygl hon