Gweler isod am ein hadnoddau dan sylw
Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais
Gan gydnabod pwysigrwydd cynnwys pawb yn yr ateb, mae Uned Atal Trais Cymru wedi lansio’r ‘Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais’, mewn partneriaeth â Plan International UK. Mae’r Pecyn Cymorth hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth academaidd ac arbenigedd proffesiynol er mwyn helpu i ddatblygu rhaglenni cynhwysol, hygyrch a diddorol i ddynion a bechgyn.
Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Penderfynyddion Masnachol Iechyd: Plant a Phobl Ifanc Adroddiad 49
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd. Mewn ffocws: Penderfynyddion Masnachol Iechyd: Plant a Phobl Ifanc
Y Siarter ar gyfer Partneriaethu Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru Pecyn Cymorth Gweithredu
Mae pecyn cymorth ar gael i staff y mae eu gwaith yn ymwneud ag iechyd rhyngwladol a gweithio gyda rhanddeiliaid ar draws y byd. Bydd y pecyn cymorth gweithredu yn helpu staff mewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG i drosi’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru yn arferion gweithredol.