Mae’r Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn hysbysu, yn eirioli ac yn ysgogi i wneud y gorau o bolisïau ac arferion er mwyn gwella a diogelu iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a thu hwnt.

Gan weithio ar draws y sefydliad a chyda’n partneriaid, rydym yn helpu i sicrhau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru ar flaen y gad o ran arweinyddiaeth ac eiriolaeth, tystiolaeth ar gyfer gweithredu, yn ogystal â rhoi cymorth iechyd y cyhoedd uniongyrchol i randdeiliaid er mwyn gwella effeithiolrwydd ac ansawdd gweithgareddau iechyd y cyhoedd ledled Cymru a thu hwnt. Rydym yn cefnogi staff a’r system iechyd y cyhoedd ehangach i ennill yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau trwy feithrin galluogrwydd a gallu, a defnyddio’r cyfleoedd sydd ar gael i gymhwyso’r dystiolaeth a’r arferion gorau diweddaraf er mwyn llywio penderfyniadau. Ein nod yw sicrhau bod dysgu lleol, cenedlaethol a rhyngwladol o bolisïau, ymchwil ac arferion yn cael ei ddwyn ynghyd i gefnogi’r sefydliad ehangach a’n partneriaid yng Nghymru.

Dynodwyd y Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ ym mis Mawrth 2018, a chafodd ei hail-ddynodi am 4 blynedd arall ym mis Mawrth 2022. Dros raglen waith 4 blynedd, bydd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn datblygu, casglu a rhannu gwybodaeth ac offer ar y ffordd orau o fuddsoddi mewn gwell iechyd, lleihau anghydraddoldebau, adeiladu cymunedau cryfach a systemau cydnerth yng Nghymru, Ewrop a ledled y byd. Bydd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn llywio ac yn hyrwyddo polisïau mwy cynaliadwy, yn croesawu egwyddorion hawliau dynol, tegwch ac ymyriadau ar sail tystiolaeth; a helpu i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am gynllun gwaith Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC).

Uwch Dîm Rheoli Cyfeiriadur staff

Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisïau ac Iechyd Ryngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd

Dr Sumina Azam

Arweinydd Iechyd Rhyngwladol:

Dr Mariana Dyakova

Pennaeth Cynllunio a Chymorth Busnes

Tracy Black

Cyfarwyddwr Rhaglen (Polisi Iechyd Cyhoeddus)

Dr Rebecca Hill

Cyfarwyddwr Rhaglen

Joanne Hopkins

Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus ac Iechyd Rhyngwladol

Athro Jo Peden

Yn Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol/Cyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd

Liz Green

Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus

Rebecca Masters

Cyfarwyddwr Rhaglen – Uned Gwyddoniaeth Ymddygiadol / Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd

Ashley Gould

I gael rhagor o wybodaeth am y Gyfarwyddiaeth, cysylltwch â ni:

Caerdydd

Iechyd Cyhoeddus Cymru,
Rhif 2 Capital Quarter,
Stryd Tyndall,
Caerdydd
CF10 4BZ

Ffôn: +44 2920 227744
E-bost [email protected]
Gwefan: icccgsib.co.uk

Wrecsam

Iechyd Cyhoeddus Cymru,
Tŷ Clwydian,
Parc Technoleg Wrecsam,
Wrecsam,
LL13 7YP


E-bost [email protected]
Gwefan: icccgsib.co.uk

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.