« Cyfeiriadur staff

Mae Dr Dyakova yn Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ac yn Arweinydd Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ddirprwy gyfarwyddwr Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant. Mae hefyd yn Gymrawd Ymchwil Clinigol Anrhydeddus ym Mhrifysgol Warwick. Mae Mariana wedi gwneud ymchwil helaeth, sydd yn llywio polisi ac ymarfer, ym meysydd buddsoddi cynaliadwy a chyllid ar gyfer iechyd a llesiant; systemau iechyd a gofal integredig; asesu risg ac ataliaeth cardiofasgwlaidd; trosi tystiolaeth a chyfathrebu iechyd y cyhoedd a’r cyfryngau. Yn wreiddiol o Bwlgaria, mae wedi bod yn weithgar yn datblygu gallu iechyd y cyhoedd yn Ne Ddwyrain Ewrop ac mewn nifer o brosiectau iechyd Ewropeaidd. Mae Dr Dyakova wedi cael profiad ac arbenigedd fel academydd a gweithiwr iechyd y cyhoedd proffesiynol ar draws Lloegr a Rhanbarth Ewrop. Mae wedi bod yn gweithio gyda Swyddfa Ranbarthol WHO ar gyfer Ewrop, yn cefnogi Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, Strategaeth Iechyd 2020, y Rhwydwaith Rhanbarthau er Iechyd, a Dinasoedd Iach. Mae Mariana yn aelod o Gymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewropeaidd ac alumni Fforwm Iechyd Ewropeaidd Gastein.

Adnoddau diweddaraf Gweld yr holl