Gweler isod am ein hadnoddau dan sylw

Pam mae Rhywedd yn Bwysig: Tlodi Plant ac Anghydraddoldebau Iechyd
Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywedd yn hanfodol i wella iechyd a llesiant. Mae’r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol John Moores Lerpwl yn archwilio sut mae profiadau rhyweddol ar draws cwrs bywyd yn cyfrannu at anghydraddoldebau a thlodi plant a rôl croestoriadedd (megis rhoi gofal, aelwydydd rhiant sengl, teuluoedd mwy, teuluoedd ifanc, anabledd, ethnigrwydd ac incwm) wrth lunio profiadau. Mae’r adroddiad yn nodi opsiynau polisi i Gymru allu ymateb yn fwy effeithiol i’r heriau hyn. Dengys yr adroddiad hefyd feysydd ar gyfer gweithredu. Mae’n nodi bod mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhywedd yn gofyn am gamau sy’n ymatebol i rywedd ar draws y system sy’n cysylltu ar draws polisïau’n ymwneud â’r farchnad lafur, gofal ac amddiffyn cymdeithasol.

Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025: Canllaw i gyrff cyhoeddus yng Nghymru
Mae’r canllaw hwn yn rhoi cymorth cam wrth gam i gyrff cyhoeddus sy’n gorfod cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o dan reoliadau Cymru. Mae’r canllaw yn: • Egluro’r gofynion cyfreithiol a phryd mae angen Asesiad o’r Effaith ar Iechyd. • Nodi proses glir i’w dilyn, o’r dechrau i’r diwedd. • Yn cynnwys offer ymarferol, templedi, ac enghreifftiau i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth a thryloywder.

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Canllaw ymarferol ar gyfer arferion gorau gwirfoddol yng Nghymru
Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau ac ymarferwyr sy’n dymuno cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’u gwirfodd fel rhan o arfer da. Mae’r canllaw yn: • Annog y defnydd rhagweithiol o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan ddilyn yr arfer gorau, i gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau ac o ystyried anghydraddoldebau. • Nid yw wedi’i gyfyngu i benderfyniadau strategol yn unig, mae’n addas ar gyfer ystod o benderfyniadau. • Mae’n amlinellu’r broses o gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ynghyd â dulliau hyblyg y gallwch eu haddasu i brosiectau, polisïau neu gynlluniau o unrhyw raddfa. • Mae’n hyrwyddo dull cyfranogol trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi ystod eang o effeithiau cadarnhaol a rhai anfwriadol negyddol.
