Sefydlwyd y Ganolfan Gymorth ACE, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, gan gydweithrediad gwirfoddol rhwng sefydliadau o’r enw Cymru Well, i helpu i greu newidiadau sy’n gwneud Cymru’n arweinydd o ran maes mynd i’r afael ag ACEs a’u hatal. Ein cenhadaeth yw rhannu syniadau a dysgu a herio a newid ffyrdd o gydweithio er mwyn i ni allu torri’r cylch ACEs gyda’n gilydd.

Ein 5 Nod

  • Rhannu gwybodaeth am ACEs, a gwrando a chydweithio gyda chymunedau, plant a theuluoedd i ganfod atebion a fydd yn gweithio.
  • Rhannu tystiolaeth am yr hyn y gall sefydliadau ei wneud yn wahanol i helpu i atal a lliniaru ACEs.
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau gweithwyr proffesiynol, darparu hyfforddiant er mwyn iddynt allu herio rhwydweithiau mewnol ac allanol ac ysgogi newid.
  • Dysgu oddi wrth ein gilydd, a rhannu gwybodaeth sy’n arwain at gamau gweithredu.
  • Ysgogi newid drwy herio ffyrdd o weithio, ar draws Cymru gyfan.

Hyd yma rydym wedi gweithio gyda nifer o wahanol sectorau gan gynnwys addysg, ieuenctid, chwaraeon, gofalwyr ifanc, tai a’r maes camddefnyddio sylweddau.

Yn 2020-2021 gallwch ddisgwyl ffocws ar gymuned a’r hyn y gallwn ei wneud yn ychwanegol i gefnogi datblygiad cryfder a dulliau gweithredu ar sail asedau sy’n gwneud gwahaniaeth ar lefel cymuned, yn ogystal â chyhoeddi rhagor o adnoddau i gynorthwyo sefydliadau i fod yn ymwybodol o ACEs ac yn wybodus am drawma wrth ymarfer, gan gynnwys mynediad at e-ddysgu, a phecyn offer parodrwydd sefydliadol.

Rydym hefyd yn parhau i ddatblygu model sydd trawma-wybodus ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach, treialu’r dull mewn Prifysgolion a Cholegau yng Nghymru yn ogystal â pharhau i ddarparu addysg a hyfforddiant chwaraeon.

I gale rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Gymorth ACE, ewch i’n gwefan: https://www.aceawarewales.com/croeso

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.