Gweithio tuag at ddyfodol lle gall pobl a’r blaned ffynnu drwy helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymgorffori cynaliadwyedd ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Sefydlwyd y Hyb yn ôl yn 2016 i gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru, fel corff cyhoeddus yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, i weithredu’r Ddeddf sy’n cynnwys cyfrannu at bob un o’r nodau llesiant, a chymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy (pum ffordd o weithio), i ddod yn sefydliad enghreifftiol sy’n hyrwyddo ac yn gynaliadwy.

Mae’r Hyb yn cefnogi’r gymuned iechyd cyhoeddus ehangach i helpu i wella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau trwy weithredu ar gynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd.

Gwaith diweddar

Adnoddau a chefnogaeth

Mae’r Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd yn cynnal llu o adnoddau allweddol gyda’r nod o gefnogi sefydliadau partner a chydweithwyr ym maes gofal iechyd i ymgorffori ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio. Mae crynodeb o’r rhain ar gael yma – Adnoddau ar gyfer Iechyd Cynaliadwy. Gallwch hefyd ddod o hyd i ddetholiad isod ac yn yr adran Adnoddau.

Mynd i’r afael a Phlastic Untro a Gwastraff yn Labordai Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr eitemau plastig untro a gwastraff sydd â’r mwyaf o allyriadau carbon a ddefnyddir yn Labordai Microbioleg ICC ac mae’n nodi argymhellion o ran newid i ddewisiadau amgen mwy cynaliadwy. Gellir ailadrodd y datrysiadau a nodwyd ar draws y sector gofal iechyd ehangach.

Ymchwil i effaith pandemig COVID-19 a symud i fwy o weithio ystwyth ar ôl troed carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r adroddiad yn edrych ar effaith pandemig COVID-19 a symud i fwy o weithio ystwyth ar ôl troed carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ganolbwyntio ar allyriadau gweithio gartref staff ac allyriadau gweithredol. Mae’r adroddiad yn ymdrin â phedwar maes allweddol, sef allyriadau caffael, teithio, busnes/safle a gweithio gartref. Mae’r allyriadau ar gyfer pob maes wedi’u cyfrifo ar gyfer 2019/20 a 2020/21 i gymharu’r gwahaniaeth rhwng y ddwy flynedd, gan nodi’r effaith ar ein hôl troed carbon ar gyfer pob maes allweddol, ynghyd â mewnwelediadau ac argymhellion allweddol.

Deall effaith COVID-19 ar Allyriadau Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r pum ffeithlun yn rhannu canfyddiadau ac argymhellion allweddol y prosiect ymchwil a edrychodd ar effaith pandemig COVID-19 a symud i fwy o weithio ystwyth ar Ôl Troed Carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r ffeithluniau’n ymdrin â’r canfyddiadau cyffredinol a’r effaith ar allyriadau ar gyfer y pedwar maes allweddol, sef allyriadau caffael, teithio, busnes/safle a gweithio gartref. Maent yn cynnwys manylion am yr argymhellion cyffredinol ar gyfer ICC, ynghyd ag awgrymiadau ar sut y gall unigolion helpu i leihau eu hallyriadau carbon.

Adnoddau ar gyfer Iechyd Cynaliadwy

Helpu sefydliadau ac unigolion i ystyried yr amgylchedd naturiol ac iechyd y blaned a phobl ym mhopeth a wnânt. Mae’r e-gatalog Adnoddau ar gyfer Iechyd Cynaliadwy yn rhoi crynodeb byr o’r holl adnoddau a gynhyrchwyd gan yr Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd. Bydd yr adnoddau a hyrwyddir yn yr e-gatalog yn helpu timau ac unigolion i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a newid hinsawdd, ac yn annog ymddygiad cynaliadwy yn eu bywyd gwaith a chartref fel ei gilydd. Mae’r adnoddau yn gymysgedd o e-friffiau, adroddiadau a phecynnau cymorth, sy’n dwyn ynghyd ymchwil, syniadau, awgrymiadau a chamau gweithredu ymarferol. Mae rhai wedi’u hanelu at lefel unigol neu dîm, rhai ar lefel polisi sefydliadol, cenedlaethol neu ryngwladol, i gefnogi cynaliadwyedd, gwella iechyd a llesiant, helpu i wreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a lleihau ein heffaith ar y blaned.

SIFT HEM – Modiwl Amgylchedd Iach Gwelliannau Cynaliadwy ar gyfer

Mae gweithdy ar-lein SIFT HEM yn gyfle i dimau nodi eu heffeithiau amgylcheddol a gwneud rhywbeth i’w lleihau. Mae nid yn unig yn edrych ar weithgaredd y tîm cyfan ond hefyd ar weithgaredd unigolion sydd yn ffurfio’r tîm. Mae SIFT HEM yn seiliedig ar bedair thema strategol (datgarboneiddio, bioamrywiaeth, dim gwastraff a newid hinsawdd) i alluogi timau i ddatblygu cynllun gweithredu i leihau effaith amgylcheddol a chyfrannu at unrhyw systemau rheoli amgylcheddol presennol yn eu sefydliad.

Ni yw’r Newid – Caffael nad yw’n costio’r ddaear

Mae caffael yn gostus. Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario £7 biliwn ar gaffael. Caffael achosodd 62% o ôl troed carbon GIG Cymru yn 2018/19. Gall caffael cynaliadwy olygu peidio â phrynu pethau o gwbl, prynu nwyddau sy’n defnyddio ynni ac adnoddau yn effeithlon, nwyddau moesegol fel coffi Masnach Deg, neu gynhyrchion a gwasanaethau lleol sy’n cefnogi busnesau lleol. Gall hefyd helpu i gyflawni blaenoriaethau sefydliadol ac amcanion llesiant, ac yn y pen draw wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Mae’r e-ganllaw yn rhoi cyngor ar sut y gallwn weithredu wrth brynu nwyddau a gwasanaethau gan ystyried yr hyn sydd ei angen arnom, o ble y daw, pa mor hir y bydd yn para a’r effaith a gaiff ar bobl, natur a’r blaned.

Lleihau Allyriadau Carbon

Mae’r ffeithlun hon yn esbonio pam fod newid yn yr hinsawdd yn fygythiad sylweddol i iechyd. Mae’n cynnwys ffeithiau am newid hinsawdd ac yn awgrymu camau y gall pob un ohonom eu cymryd i leihau ein heffaith i helpu i ddiogelu iechyd pobl yn ogystal ag iechyd y blaned.

Her Nodau Llesiant Byddwch y Newid

Mae’r Her Nodau Llesiant yn nodi chwe newid ymddygiad gwahanol sydd yn ein hysbrydoli i weithredu i fyw’n fwy cynaliadwy. Maent wedi eu dylunio i gael eu gwneud ar eich pen eich hun, gydag aelodau o’ch tîm neu fel her rhwng timau. Gan ddefnyddio Nodau Llesiant Cymru a Nodau Datblygu Cynaliadwy ehangach y Cenhedloedd unedig, mae’r heriau yn canolbwyntio ar Ffasiwn Araf, Deiet Planhigion, Tuag at Ddim Gwastraff, Teithio Iach, Defnyddiwr Moesegol a Chefnogi Bywyd Gwyllt, gyda chamau cynaliadwy yn cael eu darparu i’ch tywys ar daith eich her.

Helpu Natur i Ffynnu

Mae Natur yn dirywio yn fyd-eang ar gyfraddau digynsail yn hanes bodau dynol ac mae cyfraddau difodiant rhywogaethau yn cynyddu, gydag effeithiau difrifol bellach yn debygol i bobl ar draws y byd. Mae ein hiechyd a’n llesiant yn dibynnu ar amgylchedd iach, sydd yn cynnwys defnyddio ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy a chefnogi bioamrywiaeth.

Tîm Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd:

Rebecca Masters

Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd

Rebecca yw’r ymgynghorydd arweiniol ar gyfer y Canolbwynt Iechyd a Chynaliadwyedd ac mae’n arwain Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y flaenoriaeth strategol newid hinsawdd – Mynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd y cyhoedd.

Dr Eurgain Powell

Pennaeth Datblygu Cynaliadwy ac Iechyd

Mae Eurgain yn arwain gwaith yr Hyb ar newid hinsawdd, gan gefnogi’r flaenoriaeth strategol newydd a helpu staff i ddeall beth mae newid hinsawdd yn ei olygu i’w rolau.

Ann Jones

Pennaeth Datblygu Cynaliadwy ac Iechyd

Mae Ann yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel fframwaith galluogi i’n helpu i weithio tuag at Gymru gynaliadwy a thecach, gan arwain at iechyd a llesiant da, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Tracy Evans

Uwch Swyddog Datblygu Cynaliadwy

Mae Tracy yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynaliadwyedd a helpu staff i leihau eu hallyriadau carbon, fel rhan o raglen waith yr Hyb ac i gefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio ICC.

Helen Bradley

Swyddog Cefnogi Prosiect

Mae Helen yn helpu i gydlynu a chefnogi gwaith y tîm yn enwedig o ran cyfathrebu, ymgysylltu â staff, mesur effaith a bioamrywiaeth.