Mae Cyngor Caerdydd a Thîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro wedi gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu papur cyfarwyddyd ar y pwnc ‘Gordewdra, Allfeydd Bwyd Poeth a Chynllunio yng Nghaerdydd’ sy’n ymchwilio i weld a oes cysylltiad rhwng amddifadedd, allfeydd bwyd poeth a gordewdra yn ystod plentyndod.
Mae’r papur yn rhoi trosolwg o’r dull a ddilynwyd, yn amlygu’r sefyllfa bresennol yng Nghaerdydd, yn tynnu casgliadau o’r data lleol sydd ar gael ac yn darparu argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.
Dilynwch y linc hon i ddarllen y papur cyfarwyddyd yn llawn (ar gael yn Saesneg yn unig).
Rhannu’r erthygl hon