Comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Alma Economics i adolygu’r dystiolaeth ymchwil ar effaith pandemig y Coronafeirws a mesurau cysylltiedig y llywodraeth ar lesiant meddyliol babanod, plant a phobl ifanc.
Cafodd ‘Effaith pandemig COVID-19 ar lesiant meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru: adolygiad llenyddiaeth’ ei gynnal gan ddefnyddio cyfres o ddata arolwg presennol ac astudiaethau ymchwil cyhoeddedig, i nodi heriau iechyd meddwl yr oedd pobl ifanc wedi’u profi a rhai o’r ffactorau amddiffynnol a helpodd i ddiogelu eu hiechyd meddwl drwy gydol y pandemig
Bydd yr adroddiad hwn, ynghyd â thystiolaeth o siarad â phobl ifanc ac athrawon yng Nghymru, yn helpu i lywio adroddiad manwl ar Asesiad Effaith ar Lesiant Meddyliol (MWIA), a fydd yn darparu argymhellion ac sydd i’w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Llesiant meddyliol plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig COVID-19 Adroddiad
Llesiant meddyliol plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig COVID-19 Briff Ymchwil