Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gallai dylanwadau cyfunol Brexit, Coronafeirws a newid hinsawdd weld cymunedau gwledig yng Nghymru yn profi adeg o newid mawr, gyda chyfleoedd ac effeithiau negyddol i’w llywio.
Mae’r Papur Sbotolau hwn yn canolbwyntio ar y materion y gall cymunedau gwledig eu hwynebu yn awr ac yn y dyfodol a sut y gall hyn effeithio ar iechyd a llesiant yng nghyd-destun yr Her Driphlyg yng Nghymru.
Mae’r papur yn ceisio mynd i’r afael â bwlch yn y dystiolaeth bresennol sy’n dangos iechyd a llesiant gwledig fel y prif ffocws ac sy’n nodi bod angen rhagor o ymchwil i gefnogi’r gwaith o ddatblygu polisïau iechyd gwledig a datblygu rhaglenni.