Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru yn dathlu 20 mlynedd: 14 Tachwedd 2024 13:00 – 15:00
Mae’r dirwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) wedi newid yn aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi bod yn rhan ganolog o HIA ers sefydlu’r uned yn 2004. Bydd y weminar hon yn gyfle i’r rhai sy’n bresennol edrych ar sut mae WHIASU wedi datblygu fel Uned dros yr 20 mlynedd diwethaf. Rhoddir diweddariad ar ddatblygiadau diweddaraf y Rheoliadau HIA gan gynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, ceir golwg gyntaf ar ddogfen astudiaethau achos HIA ar gyfer cyrff cyhoeddus gyda dwy enghraifft fyw, yn ogystal â thrafodaeth banel yn edrych ar ble y gallai HIA fod mewn 20 mlynedd arall. Bydd cyfle hefyd i’r rhai sy’n bresennol ofyn unrhyw gwestiynau yn ymwneud â HIA i’r panel o arbenigwyr.
Gallwch gofrestru trwy’r ddolen YMA.
Os ydych yn gwybod am unrhyw un arall a allai fod â diddordeb mewn mynychu, a fyddech cystal ag anfon manylion y gweminar ymlaen, diolch.