Mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) wedi nodi 20 mlynedd o helpu i “lunio Cymru iachach a thecach”.

Dathlodd yr uned, sy’n darparu arweiniad, hyfforddiant, adnoddau a gwybodaeth mewn perthynas â chynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd, y garreg filltir ar 14 Tachwedd drwy gynnal gweminar mewn partneriaeth â Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ystod y sesiwn, a ddenodd gyfranogwyr o wahanol sectorau, bu’r rhai a oedd yn bresennol yn myfyrio ar ddatblygiad UGAEIC dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn ogystal â hyn, bûm yn archwilio sut mae rhoi asesiadau o’r effaith ar iechyd ar waith, ac yn trafod ei ddyfodol – yn enwedig o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau ynghylch cynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd.

Yn ystod y digwyddiad, cyflwynwyd dau adnodd newydd:

  • Mae ffeithlun WHIASU@20 yn tynnu sylw at lwyddiannau’r uned wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed.


Bu’r panel hefyd yn ystyried dyfodol asesu’r effaith ar iechyd ymhen 20 mlynedd arall, o ystyried y newidiadau sylweddol a fu yn y maes dros y ddau ddegawd diwethaf.

Dywedodd Liz Green, Cyfarwyddwr Rhaglen HIA, UGAEIC: “Ugain mlynedd ers ei sefydlu, mae UGAEIC yn dyst i rym Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd i lunio Cymru iachach a thecach.

“Wrth inni edrych tua’r dyfodol, mae ein hymrwymiad i newid sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn parhau’n gryf. Rydym yn adeiladu ar wersi’r gorffennol ac yn datblygu arferion sy’n rhoi iechyd, llesiant a thegwch wrth wraidd polisi cyhoeddus, yn enwedig wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r rheoliadau Asesu’r Effaith ar Iechyd yn 2025.”

Ewch i dudalen tîm WHIASU am ragor o wybodaeth.