Mae adroddiad ymchwil newydd wedi canfod bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn cynnig cyfle allweddol i sicrhau bod y system gynllunio yn cefnogi iechyd a llesiant pobl a chymunedau ledled Cymru.
Archwiliodd yr adroddiad, ‘Cyflawni Blaenoriaethau Iechyd a Llesiant y Cyhoedd drwy Gynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru’ a baratowyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru gan Brifysgol Caerdydd, dair astudiaeth achos o Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Chonwy. Nododd sut mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn ymgorffori iechyd a llesiant fel blaenoriaethau o fewn penderfyniadau cynllunio lleol.
Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at sut y gall cynlluniau datblygu lleol fod yn effeithiol wrth gefnogi cyflawni blaenoriaethau iechyd a llesiant drwy hyrwyddo ffyrdd o fyw egnïol, mynediad at wasanaethau, mannau gwyrdd ac amgylcheddau bwyd iach.
Canfu hefyd gyfleoedd i gryfhau dylanwad y system gynllunio ar iechyd ymhellach. Roedd hyn yn cynnwys cydlynu seilwaith gofal iechyd gwell, newidiadau polisi cenedlaethol i reoli’r amgylchedd bwyd a lleoedd cludfwydydd poeth, a defnydd ehangach o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd wrth gynllunio.
Dywedodd Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd a Chyfarwyddwr Rhaglen Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) yng Nghymru yn allweddol i lunio ein lleoedd lleol, ac yn darparu cyfeiriad ar gyfer datblygu ac ar gyfer penderfyniadau cynllunio, felly maent yn cynnig cyfle sylweddol i ddylanwadu ar iechyd a llesiant ein cymunedau lleol.
“Mae’r gwaith hwn wedi nodi’r ffyrdd y mae’r cysylltiad rhwng cynllunio gofodol ac iechyd yn cael ei gryfhau ar draws tair ardal wahanol yng Nghymru ac mae’n gwneud rhai argymhellion clir ynghylch sut y gellir gwella’r cysylltiad hwnnw ymhellach.”
Mae’r adroddiad yn rhoi tystiolaeth ac argymhellion ymarferol i gynllunwyr, byrddau iechyd lleol a llunwyr polisi ac yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio parhaus rhwng gweithwyr proffesiynol cynllunio ac iechyd y cyhoedd.