Mae’r cwrs e-ddysgu Cyflwyniad i Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd gan UGAEIC ar gael ar wefan Dysgu@Cymru.
Cwrs am ddim yw hwn, a gall unrhyw un gael mynediad ato. Mae wedi’i anelu at y rhai sydd heb gynnal HIA o’r blaen, y rhai sydd â diddordeb ynddynt neu mewn cynnwys iechyd mewn asesiadau eraill o effaith a’r rhai sy’n awyddus i ddysgu mwy. Mae’r cwrs wedi’i anelu at y rhai sy’n gweithio gyda gweithlu iechyd cyhoeddus ehangach a’r sector polisïau iechyd a’r rhai nad ydynt yn ymwneud ag iechyd yng Nghymru, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, y Trydydd Sector, cymunedau, comisiynwyr a dinasyddion preifat.
Mae’r cwrs yn cymryd oddeutu awr i’w gwblhau a bydd tystysgrif cwblhau ar gael i’w lawrlwytho ar ôl gorffen y cwrs.
Mae’r cwrs yn cynnwys adrannau ar:
• HIA yng Nghymru
• Beth yw HIA?
• Iechyd, Llesiant ac Egwyddorion HIA
• Y Broses a’r Offer
• Sicrhau Ansawdd mewn Adroddiad HIA
• Rhoi HIA ar Waith yn Ymarferol
Er mwyn cael mynediad i’r cwrs e-ddysgu:
- Os oes gennych gyfrif Dysgu@Cymru eisoes: Dylech fewngofnodi i safle Dysgu@Cymru a chwilio am y cwrs Cyflwyniad i HIA yn y tab ‘GIG’ a chlicio ar y dudalen ‘UGAEIC Iechyd Cyhoeddus Cymru’. Cysylltwch â [email protected] a byddwn yn anfon e-bostio atoch i roi mynediad i chi.
- Os nad oes gennych gyfrif Dysgu@Cymru: cysylltwch â [email protected] i wneud cais am gyfrif a byddwn yn anfon e-bostio atoch i roi mynediad i chi.