Mae’r cwrs e-ddysgu Cyflwyniad i Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) sy’n rhad ac am ddim bellach ar gael mewn lleoliad newydd. Mae’r cwrs bellach ar gael ar y platfform Dysgu@Cymru, ble y gall UGAEIC drefnu cyfrifon i ddefnyddwyr gael mynediad at y cwrs.

Gall unrhyw un gael mynediad at y cwrs. Mae wedi’i anelu at y rhai sydd heb gynnal HIAs o’r blaen, y rhai sydd â diddordeb ynddynt neu sydd am integreiddio iechyd mewn asesiadau eraill o effaith a’r rhai sy’n awyddus i ddysgu mwy. Mae’r cwrs wedi’i anelu at y rhai sy’n gweithio gyda gweithlu iechyd cyhoeddus ehangach a’r sector polisïau iechyd a’r rhai nad ydynt yn rhai iechyd yng Nghymru, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, y Trydydd Sector, cymunedau, comisiynwyr a dinasyddion preifat.

Er mwyn cael mynediad at y cwrs e-ddysgu:

  • Os oes gennych gyfrif Dysgu@Cymru eisoes: Dylech fewngofnodi i safle Dysgu@Cymru a chwilio am y cwrs Cyflwyniad i HIA yn y tab ‘GIG’ a chlicio ar y dudalen ‘UGAEIC Iechyd Cyhoeddus Cymru’. Cysylltwch â [email protected] a byddwn yn anfon e-bost atoch i roi mynediad i chi.
  • Os nad oes gennych gyfrif Dysgu@Cymru: cysylltwch â [email protected] i wneud cais am gyfrif a byddwn yn anfon e-bost atoch i roi mynediad i chi.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen e-ddysgu WHIASU yma.