Mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad (BSU) wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’, Y Gyfarwyddiaeth Polisi a Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym yn darparu arbenigedd arbenigol ar wyddor ymddygiad, ac yn hyrwyddo ac yn galluogi ei chymhwyso’n gynyddol fel mater o drefn, i wella iechyd a llesiant yng Nghymru.
Ein Tîm
Ashley Gould
Mae Ashley yn Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen yr Uned. Mae’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol a chydlynu gwaith yr Uned, gan ddarparu polisi arbenigol, cymorth technegol ac ad-hoc a datblygu gallu a chapasiti systemau wrth ddefnyddio gwyddor ymddygiad i wella iechyd a llesiant. Mae’n Gyd-Gadeirydd Is-grŵp Cyfathrebu Risg a Mewnwelediadau Ymddygiad Grŵp Cynghori Technegol COVID-19 Llywodraeth Cymru, ac mae wedi bod yn aelod o’r grŵp drwy’r ymateb acíwt i’r pandemig. Yn flaenorol, Ashley oedd yn arwain system rheoli tybaco Cymru, a gyflawnodd bum mlynedd o dwf yn olynol yng nghyfran yr ysmygwyr a ddewisodd roi’r gorau iddi gyda chymorth y GIG – a gyflawnwyd yn rhannol drwy ymgyrchu ar sail ymddygiad a gwella systemau. Y tu allan i’r gwaith, mae ganddo bedwar o blant….mae’n byw ym Mharc Cenedlaethol y Bannau, ac yn hyfforddi rygbi ieuenctid.
Jonathan West
Mae Jon yn rheoli’r tîm, gan arwain ein rhaglen ymchwil a’n rhwydwaith academaidd, gan ddefnyddio a chysylltu arbenigedd ac adnoddau gwyddor ymddygiad lle gellir eu defnyddio i wella effaith er budd pobl Cymru. Mae Jon yn falch o fod yn Aelod o Gyfadran Iechyd y Cyhoedd trwy Ragoriaeth i gydnabod bron i 25 mlynedd o wasanaeth i iechyd y cyhoedd mewn amrywiaeth o rolau iechyd cyhoeddus craidd yng Nghymru a Lloegr, ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae wedi gweithio ar nifer fawr o brosiectau newid ymddygiad poblogaeth o gasglu mewnwelediad, trwy ddatblygu a gweithredu ymyriadau i werthuso. Cyn y swydd hon roedd Jon yn Bennaeth Newid Ymddygiad a Gwybodaeth Gyhoeddus yn Is-adran Gwella Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddarparu arbenigedd newid ymddygiad ar draws ystod o bynciau. Yn ystod y pandemig darparodd Jon gymorth gwyddor ymddygiad arbenigol i ymdrechion atal a rheoli heintiau ar draws y GIG a Llywodraeth Cymru ac roedd yn aelod o is-grŵp Cyfathrebu Risg a Mewnwelediadau Ymddygiad TAG.
Emma Evans-Smith
Dechreuodd Emma gyda’r tîm yn ddiweddar fel Cynorthwyydd Personol i Ashley Gould a Chymorth Prosiect i’r tîm ehangach. Mae ganddi gefndir mewn cyllid, cynorthwyo prosiectau a gweinyddu. Mae gan Emma ddiddordeb mawr mewn ymchwil yn ymwneud â chael diagnosis hwyr o niwroamrywiaeth ac anghydraddoldebau iechyd meddwl. Mae hi hefyd yn eiriolwr dros yr amgylchedd. Mae hi’n hoffi cerddoriaeth, creu celf, ffilmiau a chathod.
Dr Nicky Knowles
Ymunodd Dr Nicky Knowles â PIH WHO CC ym mis Chwefror 2022 ac ar hyn o bryd mae’n gweithio yn yr Uned Gwyddor Ymddygiad fel Prif Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad. Mae Nicky yn Seicolegydd Iechyd Cofrestredig gyda’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd (HCPC) ac yn Seicolegydd Siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain. Mae rôl Nicky yn canolbwyntio ar gynyddu gallu a chapasiti gwyddor ymddygiad ar draws y system gyda’r bwriad o gynyddu i’r eithaf effaith polisïau, gwasanaethau a chyfathrebu iechyd y cyhoedd. Mae Nicky hefyd yn arwain Cymuned Ymarfer Gwyddor Ymddygiad Cymru gyfan. Mae gan Nicky dros ugain mlynedd o brofiad yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio i nifer o ddarparwyr, mewn amrywiaeth o leoliadau, a chyda phoblogaethau amrywiol, mewn rolau gweithredol a strategol. Ym maes iechyd y cyhoedd, mae portffolio Nicky wedi cynnwys Rheoli Tybaco, Camddefnyddio Sylweddau a Dulliau System Gyfan tuag at Ordewdra. Drwy’r profiad hwn mae Nicky wedi datblygu, cyflwyno a gwerthuso ystod o ymyriadau a pholisïau newid ymddygiad, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar lefelau unigol, cymunedol a phoblogaeth. Yn ei hamser hamdden, mae Nicky wrth ei bodd ag ioga, cerdded, a mynd allan i’r awyr agored.
Alice Cline
Ymunodd Alice ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Uwch Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad ym mis Chwefror 2022, gan weithio i ddechrau ym maes diogelu iechyd gan ganolbwyntio ar y niferoedd sy’n cael brechlynnau – symudodd Alice i’r Uned Gwyddor Ymddygiad ym mis Awst ac mae bellach yn cefnogi gwaith sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach a meithrin gallu. Mae Alice wedi gweithio ar ystod eang o bynciau gan gynnwys cynyddu’r nifer sy’n cael y brechlyn HPV, gwella mynediad at wasanaethau fel ymateb i’r Argyfwng Costau Byw, rhagnodi gwrth-fiotigau yn ddiogel mewn lleoliadau gofal iechyd, a chymhelliant rheoli pwysau a gosod nodau. Cyn Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu Alice yn gweithio mewn llywodraeth leol tra’n cwblhau ei PhD, a oedd yn archwilio sut y gellid defnyddio gwyddor ymddygiad i helpu i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol o fewn ystafelloedd dosbarth ysgolion cynradd. Mae ei diddordebau’n cynnwys ymchwil ansoddol, gwerthuso ac effaith, dylunio ymyriadau, a’i spaniel sbrocer Hugo.
Paulina Kuczynska
Ymunodd Paulina ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Uwch Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad ym mis Mawrth 2023. Bydd Paulina yn arwain y ddarpariaeth o gefnogaeth gwyddor ymddygiad arbenigol i Ddiogelu Iechyd yn y swydd ar y cyd hon rhwng yr Uned Gwyddor Ymddygiad a’r Tîm Hyfforddiant ac Arweiniad Diogelu Iechyd. Cyn hynny, bu Paulina yn gweithio mewn rôl gwyddor ymddygiad i Gyngor Sir Suffolk. Yn y swydd hon datblygodd gwricwlwm gwyddor ymddygiad a dylunio a chyflwyno cyfres o sesiynau dysgu gwyddor ymddygiad i gynyddu gallu staff i ddefnyddio gwyddor ymddygiad yn eu gwaith. Yn ogystal, mabwysiadodd Paulina ddull cydweithredol o ddatblygu offer pwrpasol ar gyfer staff megis sgript sy’n seiliedig ar ymddygiad a Chyfweld Ysgogiadol mewn hyfforddiant petruster brechu ar gyfer y Tîm Cyswllt. Mae gan Paulina brofiad strategol sylweddol yn arwain ar yr agenda diogelu iechyd ym mwrdeistrefi Llundain gan weithio gyda rhanddeiliaid lluosog a chymunedau ethnig amrywiol. Yn ogystal, mae hi wedi cael profiad rheng flaen pwysig yn gweithio ym maes iechyd meddwl acíwt a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol mewn carchardai, sy’n ei helpu i ddeall darpariaeth gwasanaethau a phroblemau ymddygiad ‘ar lawr gwlad’. Mae Paulina wrthi’n cwblhau ei Doethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Iechyd yn City, University of London, a fydd yn ei harwain i ddod yn Seicolegydd Iechyd Siartredig ar ôl cymhwyso. Mae seicolegwyr iechyd yn arbenigwyr mewn cyfathrebu rhwng cleifion â meddygon, canfyddiad symptomau cleifion, ymddygiad ceisio gofal iechyd, ymlyniad wrth feddyginiaeth, rheoli salwch hirdymor, newidiadau ffordd o fyw ac ati. O bryd i’w gilydd, mae Paulina yn darparu addysgu academaidd ar fodelau newid ymddygiad i staff a myfyrwyr ym maes seicoleg, nyrsio, fferylliaeth, deintyddiaeth, seicoleg ac ati. Pwyles yw Paulina ac er ei bod yn byw yn Lloegr ar hyn o bryd, roedd hi’n arfer byw ac astudio yng Nghaerdydd yn ystod ei hastudiaethau israddedig, felly mae gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn teimlo fel dod yn ôl adref iddi.
James Smolinski
Mae James yn Seicolegydd Iechyd dan Hyfforddiant sy’n ymgymryd â Doethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Ymunodd â’r WHO CC ym mis Gorffennaf 2023 fel Uwch Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad yn yr Uned Gwyddor Ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae James yn angerddol am wella iechyd meddwl, iechyd corfforol a chysylltiadau cymunedol/cymdeithasol. Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau teithio, ffilmiau, cerddoriaeth a darllen.
Jason Roberts
Ymunodd Jason ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Medi 2022, ac ymunodd â’r Uned Gwyddor Ymddygiad ym mis Gorffennaf 2023 fel Uwch Swyddog Ymchwil a Gwerthuso Gwyddor Ymddygiad. Ar hyn o bryd, mae wrthi’n cwblhau ei draethawd PhD yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd. Mae ei draethawd yn archwilio ymddangosiad darparwyr newyddion sy’n bleidiol wleidyddol. Mae ganddo hefyd MSc mewn Dulliau Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol a BA mewn Astudiaethau Newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys archwilio gwrthwynebiad i newid ymddygiad a mentrau Iechyd y Cyhoedd eraill, yn ogystal â dadansoddi disgwrs ym maes cyfathrebu digidol. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau mynd i gigs a gwyliau o bob math, yn ogystal â cherdded a seiclo ym myd natur.