Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://phwwhocc.co.uk/?lang=cy
Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym ni eisiau i gynifer o bobl ag sy’n bosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
- chwyddo mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar ymylon y sgrin
- llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor hawdd i’w deall ag sy’n bosibl. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Caiff hygyrchedd ar y wefan hon ei lywio gan safonau’r llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (Web Content Accessibility Guidelines / WCAG) (Saesneg yn unig). Caiff WCAG eu derbyn yn helaeth fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.
Er mai ein nod yw gwneud y wefan hon yn hygyrch i bob defnyddiwr a sicrhau lefel cydymffurfiaeth ‘AA’ WCAG; rydym yn gweithio’n barhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau y cedwir at lefel cydymffurfiaeth ‘A’ o leiaf.
Os cewch unrhyw anhawster o ran hygyrchedd ar y wefan hon neu os oes gennych unrhyw sylwadau, gofynnwn ichi gysylltu â ni ar https://phwwhocc.co.uk/cysylltwch/?lang=cy
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Nid oes gan rai botymau a dolenni ddisgrifiadau hygyrch
- Ar rai tudalennau ceir penawdau nad ydynt mewn trefn resymegol
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes arnoch angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu Braille, gofynnwn ichi gysylltu â ni yn y lle cyntaf a byddwn yn trosglwyddo eich cais i’r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 10 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gofynnwn ichi gysylltu â ni.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Equality and Human Rights Commission / EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (Equality Advisory and Support Service / EASS) (Saesneg yn unig).
Gwybodaeth dechnegol ynghylch hygyrchedd y wefan hon
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws o ran cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (Saesneg yn unig) safon AA, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth a’r esemptiadau a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd
Er ein bod yn ymdrechu i fodloni ‘WCAG 2.1 AA’ mae gennym yr anawsterau / problemau diffyg cydymffurfio canlynol:
- Mae rhai dewislenni, a rhannau o rai tudalennau, wedi’u marcio mewn ffordd a allai eu gwneud yn ddryslyd pan gânt eu cyrchu gan ddefnyddio Technolegau Cynorthwyol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1
- Nid yw’r penawdau ar rai tudalennau mewn trefn nythu resymegol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 Info and Relationships Level A
- Mae gan rai elfennau drefn ffocws afresymegol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.3 Focus Order Level A
Baich anghymesur
Mae rhai rhannau o’n gwefan o natur dyluniad, nad ydynt mor hygyrch ar hyn o bryd ag y gallent fod.
Ar gyfer yr agweddau hyn, byddwn yn canfod yr achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth ac wrth i’r wefan gael ei diweddaru neu ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau y caiff hygyrchedd digidol ei ystyried.
- Hunaniaeth brand
- Darluniau / gwaith celf sy’n cynnwys testun yn y llun
- Llywio deuol yn yr olwg cydraniad dyfeisiau symudol
Llywio a chyrchu gwybodaeth
- Nid oes ffordd o hepgor y cynnwys a ailadroddir ym mhennawd y dudalen (er enghraifft, dewis ‘hepgor a mynd i’r prif gynnwys’).
- Nid yw’n bosibl bob amser newid gogwydd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anos gweld y cynnwys.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF dogfennau eraill
Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau neu rannu gwybodaeth. Erbyn rhowch y mis a’r flwyddyn , rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML neu ffurflenni ar-lein hygyrch yn eu lle.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol inni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ym mis Mehefin 2021. Cafodd ei adolygu ym mis Mehefin 2021.