Mae’r rhan fwyaf o benderfyniadau ym maes datblygu polisi, gwasanaeth neu gyfathrebu yn cael eu gwneud gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr gwyddor ymddygiad, ac nid oes angen iddynt fod felly. Fodd bynnag, gall gwyddor ymddygiad ychwanegu gwerth at ymdrechion bron pob ymarferydd a lluniwr polisi – mae cefnogi’r datblygiad hwnnw yn nod mawr i’r Uned. Mae datblygu dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol gwyddor ymddygiad a sut i alluogi ei gymhwyso o fewn prosiect, tîm, neu sefydliad yn allweddol i gynyddu ei defnydd ar draws y system.


Mae diddordeb mewn gwyddor ymddygiad yn cynyddu’n gyflym, mae yna adnoddau, offer ac arweiniad gwych eisoes ar gael i chi ddysgu oddi wrthynt a’u cymhwyso yn eich ymarfer bob dydd. Yn ogystal â rhannu ein hadnoddau ein hunain, rydym wedi coladu’r hyn yr ydym wedi’i ganfod yn ddefnyddiol yn y tudalennau isod.


Rydyn ni wedi eu rhannu yn dibynnu ar ba gam yn y broses gwyddor ymddygiad rydych chi wedi’i gyrraedd, mae mwy o fanylion am y camau i’w cael yma.

Sylwer fod rhai o’r dolenni i wybodaeth bellach yn mynd â chi at wybodaeth gan sefydliadau eraill, lle nad oes fersiwn Gymraeg ar gael yn anffodus.  Ymddiheurwn am hyn.

Teitl Awdur Disgrifiad Adnoddau
7 Egwyddor GRAPHIC Dylunio Ffeithluniau Iechyd y Cyhoedd (Saesneg yn unig) Dr Catherine Stones a Dr Mike Gent Canllaw i unrhyw sefydliad neu ddylunydd sydd angen dylunio neu gomisiynu ffeithluniau iechyd y cyhoedd ar gyfer y cyhoedd Gweld yr adnodd
Adolygiad o Dechnegau Newid Ymddygiad: Astudiaethau Disgrifiadol (Saesneg yn unig) Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau Canllawiau sy'n esbonio sut i ddefnyddio adolygiad o dechnegau newid ymddygiad i werthuso eich cynnyrch iechyd digidol. Gweld tudalen we
Agweddau at Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) Addysg Iechyd Lloegr Fideo yn cyflwyno technegau newid ymddygiad Gweld tudalen we
Anogaethau er Llesiant Cymdeithasol: Awgrymiadau ymarferol a dysgu o raglen mewnwelediad ymddygiadol Cymdeithas Llywodraeth Leol (Saesneg yn unig) Cymdeithas Llywodraeth Leol Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at rai dysgu allweddol a nodwyd gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol drwy eu rhaglen mewnwelediad ymddygiadol. Gweld yr adnodd
Archwilio ffactorau sydd yn dylanwadu ar gymhwyso gwyddor ymddygiad mewn ymarfer iechyd y cyhoedd ar draws Cymru Uned Gwyddor Ymddygiad Adroddiad i archwilio ffactorau sy'n dylanwadu ar gymhwyso gwyddor ymddygiad o fewn ymarfer iechyd y cyhoedd ledled Cymru. Gweld yr adnodd
Argyfwng Costau Byw yng Nghymru; Cymhwyso Gwyddor Ymddygiad (Uned Gwyddor Ymddygiad) Uned Gwyddor Ymddygiad Infograffeg yn esbonio sut y gellir defnyddio COM-B i gynyddu mynediad i wasanaethau Gweld yr adnodd
Behaviour Change Techniques and Their Mechanisms of Action: A Synthesis of Links Described in Published Intervention Literature (Saesneg yn unig) Carey RN, Connell LE, Johnston M, Rothman AJ, de Bruin M, Kelly AS, Michie S.                   Er gwaethaf datblygiadau mewn gwyddor ymddygiad, nid oes dealltwriaeth gyffredin o’r “mecanweithiau gweithredu” (MoAs) y mae technegau newid ymddygiad unigol yn cael effaith arnynt. Gellid gwella cynnydd cronnus o ran datblygu, gwerthuso a chyfosod ymyriadau ymddygiadol trwy nodi'r MoAs y credir bod BCTs yn eu defnyddio i achosi newid. Nod yr astudiaeth hon oedd nodi'r cysylltiadau rhwng BCTs a MoAs a ddisgrifiwyd gan awduron corpws o lenyddiaeth gyhoeddedig Gweld tudalen we
Beth Sydd Gan Wyddor Ymddygiadol i’w Wneud Gyda Fi? (Saesneg yn unig) Prifysgol Sheffield Hallam Fideo byr yn cyflwyno gwyddor ymddygiad, a sut mae'n berthnasol i'ch rôl Gweld tudalen we
Canllaw cyflym TAP: llawlyfr ymarferol ar gyfer gweithredu rhaglenni wedi’u teilwra ar gyfer ymwrthedd gwrthficrobaidd (Saesneg yn unig) Sefydliad Iechyd y Byd Mae’r Canllaw Cyflym Teilwra Rhaglenni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (TAP) wedi’i ddatblygu i gynorthwyo Aelod-wladwriaethau i gychwyn ac ymgymryd â phrosiectau i fynd i’r afael â lledaeniad ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn eu gwledydd. Mae Hysbysiad Hwylus TAP wedi'i gynllunio i gynorthwyo gweithgorau TAP lefel genedlaethol i ddefnyddio dull mewnwelediad ymddygiadol i nodi ymyriadau priodol ac ymarferol i ddechrau mynd i'r afael ag AMB yn eu cyd-destunau. Gweld tudalen we
Canllaw Cymorth Ail-ddelweddu (Saesneg yn unig) Nesta, Cymorth Canser Macmillan, British Heart Foundation, Canolfan Newid Ymddygiad UCL Dull seiliedig ar dystiolaeth o helpu pobl i gyrraedd eu nodau - rhyngweithiadau iechyd a llesiant wedi'u llywio gan ymchwil newid ymddygiad Gweld yr adnodd
Creu Set Ddata Personol (Saesneg yn unig) Y Swyddfa Ystadegau Gwladol Adeiladwch setiau data pwrpasol i ddod i adnabod eich poblogaeth yn well trwy ddata cyfrifiad (gan gynnwys Cymru). Gweld tudalen we
Cyflawni Newid Ymddygiad: Canllawiau i Lywodraeth Genedlaethol (Saesneg yn unig) Iechyd Cyhoeddus Lloegr (Public Health England) Canllaw i gymhwyso gwyddor ymddygiad ar gyfer llywodraethau cenedlaethol Gweld yr adnodd
Cyflawni Newid Ymddygiad: Canllawiau i Lywodraeth Leol (Saesneg yn unig) Iechyd Cyhoeddus Lloegr (Public Health England) Canllaw i gymhwyso gwyddor ymddygiad ar gyfer llywodraethau lleol Gweld yr adnodd
Cyflogi Rolau Newid Ymddygiad mewn Awdurdodau Lleol (Saesneg yn unig) Chadwick P, Constable M, a McManus J Canllaw i ddeall yr ystyriaethau allweddol i’w gwneud wrth recriwtio ar gyfer rolau newid ymddygiad o fewn awdurdodau lleol gan gynnwys mathau o setiau sgiliau, disgrifiadau swydd a rhestrau gwirio. Gweld yr adnodd
Cyflwyniad Byr i Fodel Ymddygiad COM-B a Damcaniaeth Cymhelliant PRIME (Saesneg yn unig) Robert West a Susan Michie Erthygl cyfnodolyn yn cyflwyno'r model COM-B a theori cymhelliant PRIME Gweld yr adnodd
Cyfraniad gwyddor ymddygiad at fynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol ac ehangach iechyd: adolygiad o dystiolaeth (Saesneg yn unig) Sefydliad Iechyd y Byd Comisiynwyd yr adroddiad hwn gan yr Uned Mewnwelediadau Ymddygiad. Mae'n trafod cyfraniad y gwyddorau ymddygiad, a ddiffinnir yn fras, at fynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol ac ehangach iechyd, ac yn disgrifio canfyddiadau am wahaniaethau a thebygrwydd rhwng y ddau ddull.  Gweld tudalen we
Datblygu Cyfathrebiadau ar Sail Ymddygiad (Uned Gwyddor Ymddygiad) Uned Gwyddor Ymddygiad Offeryn rhyngweithiol i'ch helpu i fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar ymddygiad wrth ddylunio'ch cyfathrebiadau Gweld yr adnodd
Deall Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) Health Education England Casgliad o adnoddau/darllen pellach sy'n amlinellu pam mae newid ymddygiad yn ganolog i hybu iechyd a lles a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Gweld tudalen we
Defnyddio Gwyddor Ymddygiad i wella a diogelu iechyd yng Nghymru Uned Gwyddor Ymddygiad Mae’r offeryn hwn wedi’i gynllunio i gasglu astudiaethau achos o’r modd y defnyddiwyd gwyddor ymddygiad i sicrhau’r effaith fwyaf bosibl. Gweld yr adnodd
Diagnosis Ymddygiadol – Dewis mathau o ymyriadau Yr Uned Gwyddor Ymddygiad (BSU) Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i'ch helpu i ystyried pa fathau o weithredu a allai fod yn fwyaf priodol ar gyfer cyflwyno'r ymyriad a ddewiswyd gennych. Gweld yr adnodd
Diagnosis ymddygiadol: Mapio mewnwelediadau a dewis swyddogaethau ymyrryd Yr Uned Gwyddor Ymddygiad (BSU) Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i'ch helpu i flaenoriaethu pa rwystrau a/neu hwyluswyr i'w targedu yn seiliedig ar fewnwelediad ymddygiadol, cyn archwilio pa swyddogaethau ymyrryd a allai fod yn fwyaf priodol i'w mabwysiadu. Gweld yr adnodd
Diagnosis Ymddygiadol: Sut i gasglu mewnwelediadau ymddygiadol Uned Gwyddor Ymddygiad Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i'ch helpu i ddatblygu dealltwriaeth systematig o'r hyn sy'n dylanwadu ar eich ymddygiad targed, yn eich poblogaeth darged. Gweld yr adnodd
Dylunio a Gwerthuso Ymyriadau Newid Ymddygiad: Yr Ymagwedd 5 Cam at Werthuso (Saesneg yn unig) Llywodraeth yr Alban Adnodd gwerthuso wedi'i anelu at ddarparwyr gwasanaethau a chyllidwyr sy'n ceisio hybu newid ymddygiad. Gweld tudalen we
Egwyddorion Newid Ymddygiad Cyfathrebu (Saesneg yn unig) Swyddfa'r Cabinet Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut y gall cyfathrebwyr y llywodraeth ddefnyddio dull ymddygiadol i gynllunio a gweithredu ymgyrchoedd cyfathrebu effeithiol Gweld tudalen we
Fframwaith EAST (Saesneg yn unig) Tîm Mewnwelediadau Ymddygiad Gwybodaeth am sut i wneud newid ymddygiad yn hawdd, yn ddeniadol, yn gymdeithasol ac yn amserol (EAST). Gweld tudalen we
Fframwaith Seicoleg Newid IHI (Saesneg yn unig) Y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd Mae'r papur hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall seicoleg sylfaenol newid a throsoli ei bŵer i effeithio ar ymdrechion gwella ansawdd Gweld yr adnodd
Fingertips yn gasgliad data iechyd cyhoeddus mawr. Trefnir data yn broffiliau â thema (Saesneg yn unig) Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau Mae Fingertips yn gasgliad data iechyd cyhoeddus mawr. Trefnir data yn broffiliau â thema Gweld tudalen we
Galluogi newid ymddygiad (Saesneg yn unig) Yr Adran Drafnidiaeth Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu rhai o'r materion allweddol i'w hystyried wrth ddatblygu mentrau sy'n ceisio galluogi newidiadau yn ymddygiad teithio pobl. Maent yn cynnig awgrymiadau ymarferol wrth ystyried opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â rhwystrau i ymddygiad cynaliadwy. Gweld yr adnodd
Goblygiadau gwyddor ymddygiad ar gyfer polisi hinsawdd effeithiol (Saesneg yn unig) Pwyllgor Newid Hinsawdd Mae’r adroddiad hwn yn adolygu ymchwil sy’n bodoli eisoes am effeithiolrwydd gwahanol ymyriadau i hybu ymddygiadau carbon isel ar draws wyth maes allweddol. Gweld tudalen we
Good Practice Principles for Ethical Behavioural Science in Public Policy (Saesneg yn unig) Organisation for Economic Co-Operation and Development Mae’r canllaw arferion da hwn yn cynnig arweiniad cam wrth gam i ymarferwyr a llunwyr polisi i’w hannog i ystyried sut i ddefnyddio gwyddor ymddygiad yn foesegol ar gyfer polisi cyhoeddus. Fe'i cynlluniwyd i fod yn adnodd ymarferol i hyrwyddo'r defnydd cyfrifol o wyddor ymddygiad yn y sector cyhoeddus. Gweld tudalen we
Gwella Iechyd Pobl: Cymhwyso Gwyddorau Ymddygiad a Chymdeithasol i Wella Iechyd a Lles y Boblogaeth yn Lloegr (Saesneg yn unig) Iechyd Cyhoeddus Lloegr (Public Health England) Canllaw i gymhwyso gwyddor ymddygiad a chymdeithasol Gweld yr adnodd
Gwella Lechyd a Llesiant: Canllaw i Ddefnyddio Gwyddor Ymddygiad mewn Polisi ac Ymarfer (Uned Gwyddor Ymddygiad) Uned Gwyddor Ymddygiad Canllaw i ymarferwyr a llunwyr polisi yn egluro sut y gellir defnyddio gwyddor ymddygiad a’i chymhwyso’n ymarferol Gweld yr adnodd
Gwerthusiad Gwell (Saesneg yn unig) Menter Gwerthuso Byd-eang Cydweithio byd-eang gyda'r nod o wella ymarfer a theori gwerthuso trwy gyd-greu, curadu a rhannu gwybodaeth Gweld tudalen we
Gwerthusiad mewn Iechyd a Llesiant (Saesneg yn unig) Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau Canllaw i helpu i gynyddu gwybodaeth, dealltwriaeth a gallu wrth werthuso prosiectau iechyd a llesiant Gweld tudalen we
Gwerthuso Cynhyrchion Iechyd Digidol (Saesneg yn unig) Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau Canllaw i helpu unrhyw un sy'n datblygu neu'n rhedeg cynnyrch iechyd digidol i gynnal gwerthusiad Gweld tudalen we
Gwerthuso Ymyraethau Newid Ymddygiad Uned Gwyddor Ymddygiad Wedi'i ysgrifennu mewn cydweithrediad â'r Tîm Gwerthuso Canolog ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae hwn yn offeryn ymarferol a rhyngweithiol sy'n nodi pwyntiau allweddol i'w hystyried wrth i chi gynllunio sut i brofi a gwerthuso eich ymyriad newid ymddygiad. Gweld yr adnodd
Gwerthuso Ymyriadau Iechyd ar Sail Gwybodaeth am Ymddygiad a Diwylliant mewn Lleoliadau Cymhleth (Saesneg yn unig) Sefydliad Iechyd y Byd Fframwaith ar gyfer gwerthuso ymyriadau iechyd mewn lleoliadau cymhleth Gweld tudalen we
Gwrthweithio Camwybodaeth (Saesneg yn unig) Cymdeithas Llywodraeth Leol Amrywiaeth o adnoddau gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol gyda'r nod o fynd i'r afael â chamwybodaeth. Gweld tudalen we
Gwyddor ymddygiad ac arweiniad seicolegol atal clefydau: Annog hylendid dwylo yn y gymuned Cymdeithas Seicolegol Prydain Crynodeb (8 tudalen) o fewnwelediadau yn seiliedig ar COM-B ac yn barod i gymryd camau ar sut i gynyddu ymddygiad golchi dwylo yn y gymuned gyda ffocws ar Covid-19 Gweld yr adnodd
Gwyddor ymddygiad ac atal clefydau: Arweiniad seicolegol (Saesneg yn unig) Cymdeithas Seicolegol Prydain Mae canllaw 6 tudalen yn darparu dadansoddiad ymddygiadol o ymddygiad brechu gan ddefnyddio Covid-19 fel enghraifft. Yn berthnasol yn bennaf i bolisi a chyfathrebu mae Gweld yr adnodd
Hwb Tystiolaeth Ymddygiad (Saesneg yn unig) Hwb Tystiolaeth Ymddygiad Ystorfa o brosiectau newid ymddygiad, adnoddau a rhestrau gwirio Gweld tudalen we
Hyfforddiant Tacsonomeg Technegau Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) Canolfan Newid Ymddygiad UCL Hyfforddiant ar dacsonomeg techneg newid ymddygiad Gweld tudalen we
Mae pawb yn gwybod beth yw ymddygiad ond nid ydynt yn cytuno arno (Saesneg yn unig) Adam J. Calhoun ac Ahmed El Hady Disgrifio arolwg a ganiataodd nodi sut mae'r term ''ymddygiad'' yn cael ei ddefnyddio, a beth mae'n ei olygu mewn gwahanol gymunedau academaidd, gan ddangos gwahaniaethau pwysig sy’n bodoli a rhannu chwe chlwstwr ymddygiad a saith clwstwr archdeip. Gweld yr adnodd
Mapio Effeithiau Tonnog (Saesneg yn unig) Cydweithrediad Ymchwil Gymhwysol NIHR y Gorllewin Hyfforddiant ar-lein yn ymdrin â beth yw mapio effeithiau crychdonni, pam y gall fod yn fuddiol a sut i gymhwyso'r fethodoleg yn ymarferol Gweld tudalen we
MINDSPACE (Saesneg yn unig) Tîm Mewnwelediadau Ymddygiad Mae’r ddogfen hon yn nodi naw dylanwad cadarn ar ymddygiad, sydd wedi’u cynnwys mewn mnemonig - MINDSPACE - y gellir ei ddefnyddio fel rhestr wirio gyflym wrth lunio polisïau. Gweld tudalen we
Newid Ymddygiad a’r Amgylchedd (Saesneg yn unig) Cymdeithas Llywodraeth Leol Tudalen we yn cynnwys adnoddau defnyddiol i gefnogi cyflawni prosiect newid ymddygiad yn yr hinsawdd gyda lleoliadau llywodraeth leol. Gweld tudalen we
Nodi a Chymhwyso Technegau Newid Ymddygiad Uned Gwyddor Ymddygiad Offeryn ymarferol, rhyngweithiol sy'n cyflwyno Technegau Newid Ymddygiad, a ystyrir yn 'gynhwysion gweithredol' ymyriadau newid ymddygiad. Mae'r offeryn yn eich tywys trwy sut i nodi a chyflwyno Technegau Newid Ymddygiad, gan ddefnyddio'r model COM-B a'r Olwyn Newid Ymddygiad. Gweld yr adnodd
NOMIS (Saesneg yn unig) Y Swyddfa Ystadegau Gwladol Mae Nomis yn wasanaeth a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), cynhyrchydd ystadegau swyddogol annibynnol mwyaf y DU sy'n cyhoeddi ystadegau sy'n ymwneud â phoblogaeth, cymdeithas a'r farchnad lafur ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae'r rhain yn cynnwys data o gyfrifiadau cyfredol a blaenorol. Gweld tudalen we
O Theori i Fframweithiau: Rhoi Gwyddor Ymddygiad ar Waith (Saesneg yn unig) Y Labordy Penderfynu Mae'r erthygl hon yn trafod y damcaniaethau a'r fframweithiau poblogaidd a ddefnyddir mewn gwyddor ymddygiad. Gweld tudalen we
Offer ac Adnoddau Cyfweld Ysgogiadol (Saesneg yn unig) Offer Seicoleg Roedd yr offer yn canolbwyntio ar egwyddorion MI, pedair proses mewn MI, a sgiliau craidd mewn MI Gweld tudalen we
Offer System ar gyfer Systemau Iechyd Cymhleth (Saesneg yn unig) Cynghrair ar gyfer Polisi Iechyd ac Ymchwil Systemau Gwybodaeth am pam mae meddylfryd systemau yn bwysig, a sut i ddatblygu diagramau dolen achosol i helpu i nodi pwyntiau trosoledd allweddol o fewn system iechyd gymhleth Gweld tudalen we
Offeryn Adnabod Rhwystrau (Saesneg yn unig) Tîm Mewnwelediadau Ymddygiad Offeryn rhyngweithiol i nodi a chategoreiddio'r rhwystrau i ymddygiad yr ydych yn ceisio ei newid Gweld tudalen we
Offeryn Darganfod Ymddygiad Uned Gwyddor Ymddygiad Offeryn ymarferol, ar-lein i'ch tywys trwy'r ystyriaethau hanfodol i ddeall a dylanwadu ar ymddygiadau a allai fod ar waith yn eich mater iechyd gwell. Gweld tudalen we
Offeryn Theori a Thechnegau (Saesneg yn unig) Canolfan Newid Ymddygiad UCL Adnodd rhyngweithiol i ddeall y cysylltiadau rhwng technegau newid ymddygiad (BCTs) a'u mecanweithiau gweithredu (MoAs). Gweld tudalen we
Optimeiddio’r nifer sy’n cael eu brechu ar gyfer Covid-19 (Saesneg yn unig) Cymdeithas Seicolegol Prydain Cipolwg seicoleg iechyd lefel uchel (4 tudalen) ar optimeiddio polisïau a chyfathrebu ar atal clefydau trosglwyddadwy gyda ffocws ar COVID 19 Gweld yr adnodd
Pecyn Cymorth Ehangu Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) Prifysgol Monash a Behaviour Works, Awstralia Pecyn cymorth i helpu ymarferwyr i ehangu eu hymyriadau Gweld tudalen we
Penderfynu ar ymddygiad targed a phoblogaeth darged – offeryn ymarferol Uned Gwyddor Ymddygiad Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i'ch helpu i ystyried a diffinio eich ymddygiad targed a phoblogaeth darged, wrth i chi greu 'manyleb ymddygiadol'. Gweld yr adnodd
Podlediad Iechyd yn Ewrop: Cadernid Meddwl: Dylanwad Ffactorau Ymddygiadol a Diwylliannol ar Ganlyniadau Iechyd (Saesneg yn unig) Sefydliad Iechyd y Byd Mae mewnwelediadau ymddygiadol a diwylliannol yn defnyddio'r gwyddorau cymdeithasol i fynd i'r afael â materion iechyd parhaus. Yn y sgwrs hon siaradodd Bhanu Bhatnagar, Swyddog y Wasg a Chysylltiadau â’r Cyfryngau yn Swyddfa Ranbarthol Ewrop WHO, â Dr Saad Omer, Cyfarwyddwr Sefydliad Iechyd Byd-eang Yale, i ddarganfod mwy am pam mae mewnwelediadau ymddygiadol a diwylliannol yn bwysig i iechyd y cyhoedd. Gweld tudalen we
Podlediad: Anogaethau er Lles Cymdeithasol (Saesneg yn unig) Cymdeithas Llywodraeth Leol Podlediad yn clywed gan swyddogion cynghorau am eu hawgrymiadau ac enghreifftiau ymarferol ar ddefnyddio technegau mewnwelediad ymddygiad mewn amrywiol wasanaethau'r cyngor Gweld tudalen we
Podlediad: Dylunio Ymddygiad (Saesneg yn unig) Aline Golzwarth a Samuel Salzer Podlediad yn archwilio gwyddor ymddygiad cymhwysol a dylunio ar gyfer newid ymddygiad Gweld tudalen we
Podlediad: Gwyddor Ymddygiadol y Byd Go Iawn (Saesneg yn unig) Stu King Podlediad yn archwilio sut mae gwyddorau ymddygiad a chymdeithasol yn cael eu defnyddio yn y byd go iawn i helpu i newid iechyd y cyhoedd Gweld tudalen we
Podlediad: Tîm Economeg Ymddygiadol (Saesneg yn unig) Llywodraeth Awstralia Podlediad yn trafod economeg ymddygiad a mewnwelediadau gydag ystod o academyddion, arbenigwyr ac ymarferwyr Gweld tudalen we
Prosiectau Mewnwelediad Ymddygiadol (Saesneg yn unig) Cymdeithas Llywodraeth Leol Ystorfa o astudiaethau achos a ariennir gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, newid yn yr hinsawdd, plant a phobl ifanc, diogelwch cymunedol a mwy Gweld tudalen we
RESIST 2 Pecyn Cymorth Anwybodaeth (Saesneg yn unig) Gwasanaeth Sifil Bydd y pecyn cymorth hwn yn helpu i gefnogi llywodraethau a chyfathrebwyr i leihau effaith cam-wybodaeth a gwybodaeth anghywir yn effeithiol trwy gyfathrebu strategol. Ystyr RESIST yw Adnabod cam-wybodaeth ac anwybodaeth, Rhybudd cynnar, Mewnwelediad sefyllfaol, Dadansoddiad effaith, Cyfathrebu strategol, Tracio effeithiolrwydd. Gweld tudalen we
Rheoli gwybodaeth ffug mewn argyfyngau iechyd: pecyn cymorth gweithredol (Saesneg yn unig) Sefydliad Iechyd y Byd Mae’r pecyn cymorth hwn yn darparu gweithdrefnau ar gyfer canfod a thrin gwybodaeth ffug, gan ddefnyddio proses gam wrth gam sy’n cynnwys canfod signal, dilysu, asesu risg, dylunio ymateb ac allgymorth. Adnodd gwerthfawr i helpu i hwyluso rheolaeth infodemig weithredol, hyrwyddo lledaenu gwybodaeth gywir a phenderfyniad iechyd cyhoeddus gwybodus. Gweld tudalen we
Rheoli pwysau’r teulu: newid technegau ymddygiad (Saesneg yn unig) Iechyd Cyhoeddus Lloegr Mae’r canllaw hwn yn crynhoi gwaith i archwilio’r technegau newid ymddygiad (BCTs), a ddylai gael eu cynnwys mewn dulliau i gefnogi teuluoedd â phlant oed ysgol gynradd (4-11 oed) ar daith pwysau iach. Mae dulliau o'r fath yn cyd-fynd â dull systemau cyfan lleol sy'n seiliedig ar hybu pwysau iach. Daw’r technegau newid ymddygiad y cyfeirir atynt yn y canllaw o Behaviour Change Centre Techniques Taxonomy Version 1 (BCTT.v1) Gweld tudalen we
Rhwydwaith Iechyd y Cyhoedd Gwyddor Ymddygiad a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Saesneg yn unig) Cymorth Penderfynu ar gyfer Fframweithiau Gwyddor Ymddygiad a Chymdeithasol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd Mae’r offeryn wedi’i gynllunio ar gyfer ymarferwyr a llunwyr polisi sy’n gweithio ym maes iechyd y cyhoedd sydd eisiau defnyddio fframweithiau neu ddulliau o’r gwyddorau ymddygiad neu gymdeithasol i wella gwasanaethau neu brosesau lle gallai ymddygiad chwarae rhan. Fe'i cynlluniwyd yn bennaf ar gyfer y rhai heb wybodaeth arbenigol am y gwyddorau ymddygiad a chymdeithasol, er y gobeithir y bydd yn ddefnyddiol i bob ymarferydd. Matrics un dudalen yw'r offeryn cefnogi penderfyniadau, a gynlluniwyd i'w gadw wrth law i gyfeirio ato pryd bynnag y byddwch yn gweithio ar rywbeth a allai elwa o gymhwyso Gwyddor Ymddygiad. Mae'n cynnig modelau a fframweithiau y gellir eu defnyddio ar gamau amrywiol yn natblygiad ymyriad. Gweld yr adnodd
Sbardunau ymddygiadol a chymdeithasol brechu: offer a chanllawiau ymarferol ar gyfer sicrhau nifer uchel sy’n cael eu brechu (Saesneg yn unig) Sefydliad Iechyd y Byd Sbardunau ymddygiad a chymdeithasol brechu: offer a chanllawiau ymarferol ar gyfer sicrhau bod nifer uchel yn cael eu brechu.  Gweld tudalen we
Tacsonomeg Techneg Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) Canolfan Newid Ymddygiad UCL Manylion 93 o dechnegau newid ymddygiad (BCTs) gyda labeli, diffiniadau ac enghreifftiau. Gweld tudalen we
Templedi mewnwelediad ymddygiadol, llythyrau ac offer (Saesneg yn unig) Cymdeithas Llywodraeth Leol Casgliad o offer gwyddor ymddygiad y mae awdurdodau lleol wedi'u defnyddio i ddylanwadu'n llwyddiannus ar ymddygiad preswylwyr. Gweld tudalen we
Theori Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) Choosing Wisely (Awstralia) Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r theori newid ymddygiad, a’r camau y mae angen i chi eu cymryd i’w rhoi ar waith yn ymarferol Gweld yr adnodd
WISER: Fframwaith ar gyfer Gwella Ffurflenni Llywodraeth (Saesneg yn unig) Tîm Economeg Ymddygiadol, Llywodraeth Awstralia Ffactorau i'w hystyried wrth lunio ffurflenni sefydliadol Gweld yr adnodd
Y Llyfr Dull (Saesneg yn unig) Prifysgol Monash a Behaviour Works, Awstralia Canllawiau ar y dulliau a’r offer y mae Behaviour Works yn eu defnyddio i newid ymddygiad Gweld tudalen we
Y Pecyn Cymorth SYLFAENOL: Offer a Moeseg ar gyfer Gwyddor Ymddygiad Gymhwysol (Saesneg yn unig) Arsyllfa ar gyfer Arloesi yn y Sector Cyhoeddus Methodoleg sy'n edrych ar ymddygiadau, dadansoddiadau, strategaethau, ymyriadau a newid (BASIC) Gweld yr adnodd
Y Pecyn Cymorth SYLFAENOL: Offer a Moeseg ar gyfer Gwyddor Ymddygiad Gymhwysol (Saesneg yn unig) Arsyllfa ar gyfer Arloesi yn y Sector Cyhoeddus Methodoleg sy'n edrych ar ymddygiadau, dadansoddiadau, strategaethau, ymyriadau a newid (BASIC) Gweld yr adnodd
Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd: Defnyddio Gwyddor Ymddygiad (Uned Gwyddor Ymddygiad) Uned Gwyddor Ymddygiad Canllaw a gynlluniwyd i gefnogi llunwyr polisi a gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i greu ymyriadau effeithiol i ymateb i'r argyfwng hinsawdd Gweld yr adnodd
Yr i-frame a’r s-frame: Sut mae canolbwyntio ar yr atebion ar lefel unigol wedi arwain polisi cyhoeddus ymddygiadol ar gyfeiliorn (Saesneg yn unig) Chater N a Loewenstein G Mae'r awduron yn tynnu sylw at rôl gwyddor ymddygiadol wrth greu newid ar lefel system. Gweld tudalen we
Yr Olwyn Newid Ymddygiad (Saesneg yn unig) Susan Michie, Lou Atkins, Robert West Canllaw i ddylunio ymyriadau a pholisïau newid ymddygiad, gan gyfuno 19 o fframweithiau newid ymddygiad. Gweld tudalen we