Cynhaliom ein hail ddigwyddiad ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM ar 4 Gorffennaf 2023; roedd y digwyddiad yn cynnwys astudiaethau achos o wyddor ymddygiad cymhwysol a lansiad dau adnodd ymarferol newydd a ddatblygwyd gan yr Uned Gwyddor Ymddygiad.
Adnodd 1: Penderfynu ar ymddygiad targed a phoblogaeth darged
Adnodd 2: Diagnosis Ymddygiadol: Sut i goladu mewnwelediadau ymddygiadol
Rhannwyd yr astudiaethau achos canlynol yn ystod y digwyddiad a gellir gweld y sleidiau a’r recordiad yma:
- Cadw Cymru’n Ddiogel: Ymddygiadau COVID-19: Charlotte Cullum, Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, BIPCTM
- Defnyddio Gwyddor Ymddygiad i Gynyddu’r Nifer o Blant 2 Flwydd Oed sy’n Derbyn Brechiadau Ffliw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Charlotte Todd, Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, BIPCTM
- Defnyddio Dull Gwyddor Ymddygiad i Gynyddu’r Nifer sy’n Derbyn Profion Sgrinio’r Fron. Naomi Morgan, Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, BIPCTM
- Dull Gwyddor Ymddygiad at Gasglu Mewnwelediadau: Astudiaeth Achos Cadw Cymru’n Ddiogel. Rhian Meaden, Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, BIPCTM