Ar 17 Ionawr 2023, cawsom ein digwyddiad rhwydweithio cyntaf a fynychwyd gan dros 100 o bobl yn cynrychioli iechyd y cyhoedd, Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a’r byd academaidd. Canolbwyntiodd y diwrnod ar feithrin sgyrsiau a chysylltiadau ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau gan:

  • Yr Athro Robert West – Athro Emeritws Seicoleg Iechyd, Canolfan Newid Ymddygiad, Coleg Prifysgol Llundain
  • Dr Megan Elliott – Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Dr Paul Chadwick – Seicolegydd Clinigol ac Iechyd Ymgynghorol, Athro Cyswllt Anrhydeddus, Cyfarwyddwr Canolfan Newid Ymddygiad UCL, Behaviour is Everything
  • Jodie Phillips – Rheolwr Cyfathrebu ar gyfer y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW)
  • Dr Michelle Constable – Pennaeth Uned Newid Ymddygiad, Cyngor Sir Hertford

Gallwch weld y selidiau o’r cyflwyniadau hyn. Isod mae’r ymatebion ysgrifenedig i’r cwestiynau a ofynnwyd i’r Athro Robert West ac Ashley Gould yn ystod y digwyddiad.

Holi ac Ateb gyda’r Athro Robert West ac Ashley Gould

A fydd cyflwyniadau’n cael eu rhannu?

Byddant, gellir dod o hyd i’r cyflwyniadau yma.

Ble alla i gael mynediad i’r canllaw yn ddigidol?

Mae’r canllaw i’w weld ar ein tudalen we fel rhan o’n  cadwrfa ar-lein.

Beth yw cenhadaeth gyffredinol yr Uned Gwyddor Ymddygiad?

Ein cenhadaeth yw ‘Darparu arbenigedd arbenigol ar wyddor ymddygiad, a datblygu ei chymhwysiad, i wella iechyd a llesiant yng Nghymru.’

Rydym yn darparu cymorth rhagweithiol ac ymatebol i randdeiliaid ar draws y system iechyd y cyhoedd, er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl ar iechyd a llesiant a lleihau annhegwch.  Rydym yn cynnig arbenigedd arbenigol, a chysylltiad â rhwydwaith o bartneriaid academaidd ac ehangach.  Mae rhwydweithio, cydweithio a deall anghenion rhanddeiliaid yn ein galluogi i danategu gweithgarwch i feithrin gallu, cyfleoedd a chymhelliant i ddefnyddio gwyddor ymddygiad fel mater o drefn. 

Sut ydych chi’n ystyried canlyniadau anfwriadol? hy, mae Bws Cerdded yn golygu traffig cyflymach (llai o draffig) a phlant mewn dillad gwelededd uchel yn edrych fel bod cerdded yn beryglus.

Mae meini prawf APEASE yn ysgogi ystyriaeth o ganlyniadau cadarnhaol a negyddol anfwriadol y tu hwnt i’r effaith a ddymunir ar yr ymddygiad targed. Gellir defnyddio APEASE ar unrhyw gam yn y broses datblygu ymyrraeth lle mae angen gwneud penderfyniad p’un a yw’n penderfynu pwy i’w dargedu, pa ymddygiad(au) i’w dargedu, a yw’n well canolbwyntio ar allu, cyfle neu gymhelliant, pa fath(au) o ymyriad i’w mabwysiadu, pa opsiwn(opsiynau) gweithredu i’w mabwysiadu neu fanylion yr ymyriad

Ceir rhagor o wybodaeth am APEASE a rhestr wirio i gefnogi ystyried holl feini prawf APEASE yn ‘Gwella iechyd a llesiant: Canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn polisi ac ymarfer.’

Sut byddech chi’n diffinio ymddygiad?

Rydym yn diffinio ymddygiad fel gweithred arsylladwy a mesuradwy.

Sut ydych chi’n nodi ymddygiadau sy’n effeithio ar iechyd meddwl yn ogystal ag iechyd corfforol?

Mae sawl dull o nodi ymddygiadau sy’n berthnasol i’r broblem yr ydych yn ceisio mynd i’r afael â hi, a bydd y dull a gymerir yn cael ei bennu gan yr amser a’r adnoddau sydd ar gael i chi fel y nodir isod:

  • Cynhyrchwch restr o ymddygiadau/poblogaethau perthnasol ar y llwybr achosol i’ch canlyniad dymunol, gan ddefnyddio gwybodaeth bresennol am y broblem. 
  • Cewch sgwrs ag arbenigwyr pwnc, rhanddeiliaid allweddol, a/neu’r boblogaeth yr ydych yn ceisio dylanwadu ar ei hymddygiad.
  • Gwnewch arolwg cyflym ag arbenigwyr pwnc, rhanddeiliaid allweddol, a/neu’r boblogaeth yr ydych yn ceisio dylanwadu ar ei hymddygiad.
  • Cynhaliwch adolygiad o’r llenyddiaeth i nodi’r ymddygiadau/poblogaethau sy’n gysylltiedig â’r broblem yr ydych yn ceisio mynd i’r afael â hi.
  • Ymgymerwch ag ymgysylltiad strwythuredig mwy trwyadl ag arbenigwyr pwnc, rhanddeiliaid allweddol, a/neu’r boblogaeth yr ydych yn ceisio dylanwadu ar ei hymddygiad i gynhyrchu rhestr o ymddygiadau perthnasol.
  • Ymgymerwch/comisiynwch mapio systemau ymddygiad i nodi’r ymddygiadau, y bobl sy’n cyflawni’r ymddygiadau hynny, a’r dylanwadau ar yr ymddygiadau. Gall hyn helpu i nodi’r pwynt ymyrryd mwyaf effeithiol yn y system a’r ymddygiad targed gorau.
Sut ydych chi’n asesu’r agweddau COM-B yn eich poblogaeth? Trwy sgyrsiau gyda rhanddeiliaid? Arolygon?

Gellir cael mewnwelediadau gan boblogaeth benodol gan ddefnyddio model COM B mewn sawl ffordd gan gynnwys cyfweliadau, grwpiau ffocws, arolygon a holiaduron, ac arsylwadau. Bydd y dull yn dibynnu’n fawr ar yr ymddygiad a’r boblogaeth o ddiddordeb a’r amser a’r adnoddau sydd ar gael. Gall cynnal adolygiad tystiolaeth i archwilio ysgogwyr yr ymddygiad targed fod yn fuddiol a helpu i lywio sut i gael mewnwelediad gan eich poblogaeth benodol.

Mae’r canllaw yn darparu enghreifftiau o gwestiynau y gellir eu haddasu a’u cymhwyso i archwilio ymddygiad o ddiddordeb gyda’ch poblogaeth darged.

A allwch chi argymell mwy o ddarllen ar wahân i Nudge y rhifyn terfynol?

Byddem yn argymell y canllaw a gyhoeddwyd yn ddiweddar a ddatblygwyd gan yr Athro Robert West a’r Uned Gwyddor Ymddygiad.

Mae’r llyfr Behaviour Change Wheel yn rhoi arweiniad pellach ar ddefnyddio’r model COM B i ddylunio ymyriadau.

Gallaf weld sut y gallwch ddefnyddio’r model i annog ymddygiadau yr hoffech weld mwy ohonynt, ond a allwch ei ddefnyddio hefyd i leihau ymddygiadau nad ydynt yn iach? Neu a oes angen ymddygiad amgen cadarnhaol arnoch bob amser?

Gellir cymhwyso model COM B i ddylanwadu ar ymddygiadau mewn sawl ffordd gan gynnwys dechrau ymddygiad newydd, atal ymddygiad, a chynyddu neu leihau ymddygiad.

Sut mae rhoi COM-B i staff iechyd y cyhoedd er mwyn defnyddio COM-B yn y gwaith? (Cael arweinwyr gwasanaeth/timau i fuddsoddi yn BeSci pan maen nhw mor brysur yn ymdrin â phroblemau)

Gall model COM B helpu i ystyried yr hyn y gallai fod ei angen ar staff i gymhwyso gwyddor ymddygiad yn ymarferol:

Mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad, mewn cydweithrediad ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor, wedi gwneud rhywfaint o waith yn ddiweddar i archwilio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar gymhwyso gwyddor ymddygiad ledled Cymru gan ddefnyddio model COM B fel fframwaith. Cyhoeddir adroddiad yn crynhoi’r dulliau, y canfyddiadau allweddol a’r argymhellion ym mis Mehefin 2023.
Ar ba gam ydych chi’n cynnal adolygiad systematig o ymyriadau effeithiol i arwain datblygiad yr ymyriad?

Gellir cwblhau adolygiadau systematig o’r llenyddiaeth unrhyw bryd drwy gydol y broses. Er enghraifft, efallai y byddwch am gynnal adolygiad i nodi ffactorau penodol a allai ddylanwadu ar yr ymddygiad(au) o ddiddordeb pan fyddwch yn cwblhau eich diagnosis ymddygiad. Os ydych chi’n edrych yn benodol ar ymyriadau effeithiol yn ystod eich adolygiad, mae’n syniad da diffinio’ch ymddygiad, a chwblhau’ch diagnosis ymddygiad yn gyntaf er mwyn i chi allu chwilio am y math cywir o ymyriadau. Mae’n bosibl y bydd eich diagnosis ymddygiad yn datgelu bod rhwystrau’n ymwneud â gallu seicolegol, a gallai hynny eich arwain i adolygu ymyriadau sy’n canolbwyntio ar addysg, hyfforddiant a galluogi yn unig.

Pa mor bwysig yw tystiolaeth wrth ddatblygu ymyriadau mewnwelediad ymddygiad a sut bydd hyn yn cael ei ymgorffori yng ngwaith eich tîm?

Rydym yn annog eraill i adolygu’r dystiolaeth wrth ddatblygu eu hymyriadau newid ymddygiad, ac felly rydym yn ceisio cadw tystiolaeth yn ganolog i bopeth a wnawn hefyd. Mae gwyddoniaeth ymddygiad yn ddisgyblaeth sy’n tyfu’n gyflym ac mae’r llenyddiaeth wyddonol i gefnogi ein gwaith yn tyfu hefyd. Fel tîm, rydym yn adolygu’r dystiolaeth yn rheolaidd i helpu i lywio gwaith. Gallai hyn fod pan fyddwn yn cwblhau diagnosis ymddygiad, neu pan fyddwn yn chwilio am ymyriadau sydd wedi targedu technegau newid ymddygiad tebyg i’r rhai yr hoffem eu defnyddio. Rydym hefyd yn defnyddio’r llenyddiaeth pan fyddwn yn chwilio am fframweithiau a modelau, megis y model COM-B a’r Behaviour Change Wheel.

Syniadau da ar gyfer gwreiddio gwyddor ymddygiad yn ymarferol

Dechreuwch yn fach! Gwnewch ychydig o’r hyn rydych chi’n ei wybod gyntaf. Gallai hynny olygu diffinio ymddygiad neu adolygu’r llenyddiaeth i weld a oes unrhyw fewnwelediad i ymddygiad yr ydych eisoes yn gweithio arno. Po fwyaf y byddwch chi’n ymarfer, y mwyaf medrus y byddwch chi wrth gymhwyso gwyddor ymddygiad yn rheolaidd … a pheidiwch â’i wneud ar eich pen eich hun! Rhannwch eich gwaith gyda chydweithwyr, neu gyda ni os hoffech chi. Gall rhannu eich syniadau ag eraill neu drafod y camau nesaf fel tîm helpu i gael eglurder o ran eich meddwl. Estynnwch allan i bobl eraill rydych chi’n eu hadnabod a allai fod yn gwneud rhywbeth tebyg, efallai rhywun y gwnaethoch chi gysylltu â nhw yn y rhwydwaith – Os nad ydych chi’n gwybod pwy allai hynny fod, rydyn ni’n fwy na pharod i geisio eich rhoi mewn cysylltiad os gallwn ni!

A ellir defnyddio’r dull hwn ar lefel sefydliadol?

Gellir.  Mewn brawddeg – byddai angen i strwythurau, strategaeth, systemau, sgiliau, arddulliau, staff (cymelledig) a gwerthoedd a rennir (wedi’u haddasu o 7S Mckinsey) fod yn eu lle i danategu’r dull. Yn y pen draw, byddai’n wych cael sefydliadau sydd wedi’u galluogi/eu llywio o ran ymddygiad lle mae gwybodaeth a sgiliau ynghylch gwyddor ymddygiad yn wasgaredig, lle mae prosesau’n adlewyrchu’r wybodaeth/sgiliau hyn ac yn cefnogi’r defnydd ohonynt, a lle mae’r gweithlu’n credu bod gwyddor ymddygiad yn ychwanegu at eu hymdrechion.

Mae’r canllaw yn ardderchog. Unrhyw awgrymiadau ar sut i wreiddio o fewn sefydliad?

Mae cymhwyso gwyddor ymddygiad yn rheolaidd yn dibynnu ar lefelau digonol o allu (pobl â gwybodaeth a sgiliau); cyfle (systemau, prosesau a normau); a chymhelliant (cred bod hyn yn ychwanegu at ein hymdrechion) – mae’r rhain yn ‘sylfeini’ hynod o fach i adeiladu arnynt.   

Mae cymesuredd (y gallu i wneud) yn bwysig – mae’r canllaw yn disgrifio (ar dudalen 11) graddfa symudol o ddefnydd – o ddefnyddio dealltwriaeth bersonol o wyddor ymddygiad – a allai ddigwydd (ac mae’n debyg ei fod eisoes yn digwydd mewn rhai mannau) yn ddyddiol; i gomisiynu cyngor, adroddiadau neu ymchwil gwyddor ymddygiad annibynnol – a allai fod angen cyllideb (a manyleb dda!) ar eu cyfer.  Mae datblygu gallu, cyfle a chymhelliant i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i’r eithaf ar hyd y raddfa symudol honno yn allweddol.

A ddylai fod: cysylltiadau â fframweithiau iechyd y cyhoedd, fframwaith taclusach, fframweithiau MRC wedi’u diweddaru wrth  werthuso. Ee, ar Werthuso ymyriadau cymhleth, arbrofion naturiol, gweld Peter Craig ac ati yn dileu ffocws ar RCTs?

Diolch am atgyfnerthu’r cysylltiadau, ac yn wir, dylai fod amrywiaeth o ffyrdd o fesur effaith ymyriadau wedi’u llywio gan ymddygiad – mae’r canllaw yn eiriol dros “ddefnyddio’r dulliau gorau sy’n ymarferol ac yn fforddiadwy, gyda ffocws clir ar fesur yr ymddygiad targed yn y boblogaeth darged” – nid RCT yw hynny bob amser, mae gan dudalen 35 restr gychwynnol o opsiynau.  

Sut bydd tîm BeSci yn datblygu eu ffordd o feddwl ac yn gweithio wrth werthuso ymyriadau a ddatblygir o ran gwyddor ymddygiad?

Mewn cydweithrediad ag unedau tebyg, academyddion, llunwyr polisi ac ymarferwyr; gyda chydnabyddiaeth glir o foeseg; ac mewn ffordd agored a thryloyw.

Sut y gellir cynyddu ymyriadau ar gyfer newid system gyfan?

Mae BCW yn dangos bod ‘ymyriadau’ yn cynnwys polisïau y gellir eu gweithredu gan lywodraethau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol, yn ogystal â chan sefydliadau fel y GIG. Mae rhai opsiynau polisi BCW yn naturiol yn gweithredu ar lefel system gyfan, megis polisïau cyllidol, ymgyrchoedd cyfathrebu ac ymgyrchoedd marchnata, rheoleiddio, ac ati. O ran eraill megis darparu gwasanaethau neu gynhyrchion, mae’n fater o sicrhau bod yr adnoddau a’r seilwaith yn bresennol neu y gellir eu datblygu. Enghraifft lwyddiannus iawn o hyn yw’r gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu, ond mae digon o enghreifftiau eraill ac mae’n bwysig cofio bod darpariaeth addysgiadol a’r system cyfiawnder troseddol yn y bôn yn ymyriadau newid ymddygiad.

Sut allwn ni ddangos gwerth BS i gyllidwyr? A oes gwerthusiadau safonol y gallwn eu cynnwys pan fyddwn yn cychwyn?

Y ffordd brofedig o wneud hyn yw trwy gyfrifo’r Elw ar Fuddsoddiad (ROI). Mae hwn yn ddull datblygedig o lunio polisïau a gofal iechyd. Gall fod yn eithaf technegol pan fydd rhywun yn amcangyfrif buddion sy’n cronni sawl blwyddyn yn ddiweddarach ac yn dibynnu ar ba baramedrau y mae rhywun am eu defnyddio i ddiystyru buddion nad ydynt yn digwydd ar unwaith, ond mae’r egwyddorion yn eithaf syml, ac mae’n ffordd dda o ganolbwyntio sylw ar yr opsiynau gwerth gorau.

Rydym yn clywed llawer am ysgogiadau ymddygiad llwyddiannus, ond a oes gennych unrhyw enghreifftiau lle mae ymyriadau wedi cael canlyniadau negyddol, a chyngor ar gyfer symud ymlaen pan fydd hynny’n digwydd?

Un enghraifft oedd ymgyrchoedd addysg cyffuriau mewn ysgolion a oedd i’w gweld yn cynyddu’r defnydd o gyffuriau. Mae ymddygiad dynol yn debycach i’r tywydd na chylched drydanol – nid yw bob amser yn rhagweladwy hyd yn oed gyda’r wyddoniaeth orau oherwydd bod cymaint o rannau symudol. Dyna pam ei bod mor bwysig bob amser i fonitro effaith ymyriadau a bod yn barod i wneud newidiadau os yw’n ymddangos nad yw pethau’n mynd yn unol â’r cynllun. Dyna un o’r gwersi mawr o gymhwyso gwyddor ymddygiad: cymhwyso’r dulliau gorau sydd ar gael i gasglu data a pharhau i’w gasglu yn ôl yr angen i lunio ymyriadau yng ngoleuni cyd-destunau sy’n newid.

Ai COM-B yw’r unig fodel? Neu a yw eraill yn fwy addas mewn amgylchiadau penodol?

Ymddengys mai COM-B yw’r unig un hyd yn hyn sy’n ymdrin yn llythrennol â phopeth sy’n sail i ymddygiad. Mae yna lawer o fodelau mwy penodol sy’n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar gymhelliant neu ddylanwad cymdeithasol neu ragfarn wybyddol ac ati. Ond mae COM-B yn fodel cyffredinol iawn ac ni fydd yn ddigon ar ei ben ei hun – bydd angen i chi ymchwilio i fanylion y senario newid ymddygiad (gan ddefnyddio COM-B fel canllaw) i ddatblygu’r dull ymyrryd. Er enghraifft, nid yw COM-B yn dweud wrthych a yw varenicline neu NRT yn well am helpu i roi’r gorau i ysmygu – mae llenyddiaeth gyfan ar hynny, ond gall dadansoddiad COM-B ei gwneud yn glir mai mynd i’r afael â chwant yw’r allwedd i roi’r gorau iddi’n llwyddiannus.

Pa negeseuon allweddol am y pwnc a/neu ei gymhwyso y gallaf eu trosglwyddo gennych chi i’n myfyrwyr Gwyddor Newid Ymddygiad ym Mhrifysgol Aberystwyth, os gwelwch yn dda?

Rhif un: Trin ‘gwyddor’ mewn ‘gwyddor ymddygiad’ o ddifrif. Mae hynny’n golygu meddwl bob amser am sut rydych chi’n defnyddio’r modelau a’r damcaniaethau gorau sydd ar gael i strwythuro’ch casglu data a defnyddio data i ddiweddaru neu roi’r gorau i’ch cyffredinoliadau, modelau a damcaniaethau. Rhif dau: Peidiwch â gadael i chi’ch hun fod yn gysylltiedig â chyffredinoliadau neu ddamcaniaethau. Triniwch bopeth fel rhagdybiaeth y mae gennych rywfaint o hyder yn ei chylch a byddwch yn barod i adolygu eich hyder a’ch damcaniaethau wrth i ddata newydd ddod i’r amlwg.

A yw newidiadau BeSci unigol yn ddigon i gael effeithiau sylweddol ar bethau fel newid yn yr hinsawdd a heriau costau byw? (yn erbyn system/deddfwriaeth)

Mae’n well meddwl am newid ymddygiad yn nhermau lefelau lluosog o actorion gydag unigolion ar y gwaelod, yna grwpiau cymdeithasol fel teuluoedd a grwpiau cyfoedion, y grwpiau strwythurol fel ysgolion, sefydliadau ac yn y blaen yr holl ffordd i fyny at boblogaethau cyfan. Mae’r lefelau hyn yn rhyngweithio fel bod, er enghraifft, hoffterau unigol ar gyfer gwahanol fathau o fwyd yn dylanwadu ar sefydliadau i ddarparu ar gyfer y dewisiadau hynny a marchnata eu cynhyrchion mewn ffordd sy’n cynyddu’r galw ymhlith unigolion. Dyna pam y dylai unrhyw ymyriad newid ymddygiad fod yn fan cychwyn yn gyffredinol ar fap systemau ymddygiad fel y gallwch weld ble ac ar ba lefelau i ymyrryd.

Gyda heriau o ran ymarferoldeb a dibynadwyedd gwerthuso, sut ydyn ni’n dangos gwerth ymyriad yn effeithiol? Beth yw’r opsiynau eraill?

Nid oes dim byd i gymryd lle gwerthuso. Yr unig gwestiwn yw beth yw’r gwerthusiad mwyaf trwyadl a defnyddiol sy’n ymarferol ac yn fforddiadwy ac i wneud hynny, ac yna i addasu eich hyder yn y canlyniadau yn ôl trylwyredd y gwerthusiad. Er enghraifft, os mai’r unig beth y gallwch chi ei wneud yw cymhariaeth cyn ac ar ôl rhwng sampl o bobl yr hoffech newid eu hymddygiad, ceisiwch wneud yn siŵr bod eich sampl mor gynrychioliadol â phosibl, cadwch lygad am unrhyw beth a allai fod wedi digwydd ar yr un pryd â’ch ymyriad a allai fod wedi cael dylanwad, a byddwch yn briodol ofalus yn eich casgliadau ynghylch pa fath o effaith y gallai’r ymyriad fod wedi’i chael. Yn fy mhrofiad i, mae tueddiad i or-ddehongli canfyddiadau gwerthusiadau.

Sut – os o gwbl – y gall hyn gysylltu â damcaniaethau eraill. Er enghraifft, ffactorau dynol a marcwyr ymddygiad da a drwg ar gyfer ymarferwyr?

Nod COM-B yw darparu fframwaith lle gallwch chi lenwi a chymharu damcaniaethau eraill a gweld ble mae bylchau a’r ffordd orau i’w llenwi.

Beth yw eich methiant mwyaf wrth weithredu BI a beth ddysgoch chi ohono?

Fel ymchwilydd rwy’n datblygu ac yn gwerthuso ymyriadau ac felly mae’r pwyslais ar ddarganfod a ydynt yn gweithio neu pa mor dda y maent yn gweithio. Un a fethodd â gweithio oedd un lle hyfforddwyd bydwragedd i roi cyngor byr ar roi’r gorau i ysmygu i ysmygwyr beichiog. Yr hyn a ddysgais yw ei bod yn hanfodol cynnwys y rhai a fyddai’n cyflwyno’r ymyriad yn y broses ddatblygu.

Sut gallwn ni annog uwch dimau rheoli amheus i archwilio manteision gwyddor ymddygiad a bod yn agored i arbrofion?

Trwy ei thrin fel problem newid ymddygiad. Meddyliwch am yr hyn sydd angen ei newid i’w cael i gymryd rhan o ran, er enghraifft, eu dealltwriaeth o’r costau a’r buddion (gallu) a sut y gellir ei ymgorffori yn y llif gwaith mewn ffordd a fyddai’n hawdd (cyfle) ac yn darparu enillion cyflym iddynt yn eu rôl fel rheolwyr (cymhelliant). Peidiwch ag addo gormod ond hefyd tynnwch sylw at enghreifftiau sy’n agos i’ch cartref lle mae cymhwyso gwyddor ymddygiad wedi sicrhau gwell ymyriadau.

Sut ydych chi’n datblygu fframwaith gwerthuso sy’n dal yr effaith gan ystyried yr heriau gyda data?

Mae bob amser yn ymwneud â chael y data gorau posibl o dan yr amgylchiadau ac yna bod yn ofalus iawn wrth ddehongli’r data hynny. Os yn bosibl, ewch am farcwyr ymddygiad gwrthrychol a chynnwys cymharydd.

A oes enghreifftiau lle mae COM-B wedi hwyluso ymyriadau i blant a theuluoedd ee i wella diet a PA?

Oes.  Rhoddais eich ymholiad yn Chat.GPT fel arbrawf a dyma’r hyn a ddeilliodd ohono!

Beth yw’r prif beth y dylid ei ddysgu o’r canllaw?

Mae’n ddefnyddiol ac yn gymharol hawdd ymgorffori mwy o feddylfryd gwyddor ymddygiad wrth ddatblygu ymyriadau newid ymddygiad ar gyfer iechyd a llesiant. Y peth allweddol yw: 1) parchu’r data bob amser a pha bynnag ymchwil sydd wedi’i wneud hyd yma sy’n berthnasol, a 2) defnyddio dull systematig o gymhwyso’r wyddoniaeth mewn modd cam wrth gam gan fynd o fanyleb y broblem i werthuso datrysiad.

Rydych yn sôn am systemau – pa mor bwysig yw defnyddio ‘meddwl systemau cymhleth’ wrth ddatblygu eich gwaith BeSci?

Mae meddwl trwy systemau yn hanfodol, ac mae’r canllaw yn rhoi syniad o sut i’w gymhwyso gan ddefnyddio dull mapio systemau ymddygiad.