Cymuned Ymarfer Gwyddor Ymddygiad Cymru
Mewn cydweithrediad â’r Rhwydwaith Gwyddor Ymddygiad ac Iechyd y Cyhoedd(Saesneg yn unig), rydym wedi sefydlu cymuned ymarfer gwyddor ymddygiad (CoP) i Gymru. Mae’r CoP ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella effaith polisïau, gwasanaethau a chyfathrebu trwy gymhwyso gwyddor ymddygiad fel mater o drefn. Mae’r CoP yn ymdrechu i wella gallu gwyddor ymddygiad trwy:
- Hwyluso rhannu gwybodaeth, arbenigedd, profiadau a dysgu
 - Nodi heriau cyffredin/nodau a rennir lle gallai gwyddor ymddygiad gefnogi cyflawni canlyniadau dymunol
 - Galluogi cysylltiadau a chydweithio ar brosiectau gwyddor ymddygiad
 - Darparu mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu i wella sgiliau a gwybodaeth gwyddor ymddygiad
 - Hwyluso mynediad at gyngor, arweiniad ac arbenigedd gwyddor ymddygiad
 - Nodi a lledaenu arfer nodedig
 - Cyd-greu offer a chynhyrchion gwyddor ymddygiad
 
Os hoffech chi ddod yn rhan o’r gymuned, ewch i Hyb Cymru | BSPHN (Saesneg yn unig).
    