O ganlyniad i’r penderfyniad i adael yr UE, bydd y DU yn datblygu ei bolisi masnach annibynnol am y tro cyntaf ers mwy na 40 mlynedd. Mae goblygiadau sylweddol yn ymwneud â hyn i ystod o benderfynyddion iechyd a llesiant yng Nghymru yn cynnwys safonau bwyd, diogelu’r amgylchedd, rheoliadau tybaco ac alcohol, yn ogystal ag amodau economaidd a gwaith.
Cynhaliodd WHIASU weithdy a dosbarth meistr gyda rhanddeiliaid aml-asiantaeth ar 7 Tachwedd 2019 fel rhan o weithredu camau Adroddiad Prif Ganfyddiadau Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd: Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechyd (2019). Un argymhelliad o’r HIA oedd y dylai’r system iechyd y cyhoedd ystyried sut i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a gallu i sicrhau bod iechyd a llesiant yn cael eu hystyried yn flaenllaw wrth ddatblygu polisi masnach newydd.
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Brif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Tracey Cooper, a’i nod oedd datblygu a rhannu gwybodaeth am yr amgylchedd polisi masnach newydd a’i oblygiadau posibl i iechyd a llesiant yng Nghymru a hefyd i archwilio’r ffordd y gall system iechyd y cyhoedd ymgysylltu â’r gwaith o ddatblygu polisi masnach newydd.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys gwneuthurwyr polisïau, academyddion ag arbenigedd mewn effaith masnach ar iechyd y boblogaeth ac anghydraddoldebau, iechyd y cyhoedd
Cliciwch yma am gopi o’r agenda.
Cyflwyniadau
Cyflwyniadau ar gael yn Saesneg yn unig
- Liz Green a Nerys Edmonds, Uned Gymorth HIA Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Goblygiadau Brexit i iechyd y cyhoedd: Ymagwed Asesu Effaith ar Iechyd – prif ganfyddiadau ac argymhellion ar fasnach, iechyd a llesiant”.
- Emma Edworthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Masnach, Llywodraeth Cymru: “Y cyd-destun newydd ar gyfer polisi masnach ar draws y DU: Peryglon a Chyfleoedd ar gyda datganoli a blaenoriaethau polisi yng Nghymru”.
- Dr. Courtney McNamara, Uwch Ymchwilydd ym Mhrifysgol Norwyeg Gwyddoniaeth a Thechnoleg: “Masnach ac iechyd y cyhoedd: trosolwg gyda ffocws ar farchnadoedd llafur a gwasanaethau iechyd”.
- Dr Andi Mabhala a Kristen Ward, PETRA, Prifysgol Caer: “Cyflwyno PETRA: atal clefydau anhrosglwyddadwy gan ddefnyddio cytundebau masnach”.
- Dr. Susan Lloyd, Arweinydd Polisi Gweithredol, Bwrdd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd: “Ymgysylltu a dylanwadu ar bolisi masnach: trafod polisi masnach ‘iach’ ar gyfer y DU”.
Nodiadau Trafod
Nodiadau trafod ar gael yn Saesneg yn unig.
Ystyriodd y cyfranogwyr y cwestiynau canlynol hefyd mewn trafodaethau bord gron:
- Beth yw’r blaenoriaethau iechyd a llesiant i Gymru y mae angen eu hystyried wrth i bolisi masnach newydd ddatblygu?
- Pa rwydweithiau ac arbenigedd sy’n bodoli yng Nghymru a allai gefnogi’r agenda hon?
- A oes angen i ni wneud mwy i ddatblygu ein gallu i ymgysylltu a dylanwadu ar bolisi masnach yng Nghymru? Os felly beth sydd ei angen?
- Pa offer, dulliau neu ymagweddau penodol dylid eu mabwysiadu i ddylanwadu ar bolisi masnach?
Gellir gweld nodiadau’r trafodaethau yma
Adnoddau a dolenni ychwanegol defnyddiol ar fasnach ac iechyd:
Adnoddau a dolenni ar gael yn Saesneg yn unig.
PETRA cymuned arbenigol ryngddisgyblaethol, yn archwilio’r ffordd y gall masnach ryngwladol wella iechyd dynol ac atal clefydau anhrosglwyddadwy
Camau Nesaf
Bydd deall goblygiadau polisi masnach newydd a chytundebau ar iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru a meithrin gallu yn system iechyd y cyhoedd ar gyfer datblygu polisi masnach iach yn rhan barhaus o gynllun gwaith WHIASU ar gyfer 2020-21. Cysylltwch â [email protected] am fwy o wybodaeth.