Mae’r Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) yng Nghymru yn nodi’r gofynion cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod ar gyfer asesu sut y gall penderfyniadau strategol arfaethedig effeithio ar iechyd a lles pobl. Maen nhw wedi’u cynllunio i sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ystyried effeithiau posibl ar iechyd – boed yn gadarnhaol neu’n anfwriadol negyddol  – cyn cymryd camau a’u bod yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau. Nod arall yw sicrhau bod anghydraddoldebau iechyd hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o’r penderfyniadau hyn.

Cyflwynwyd y Rheoliadau fel rhan o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, sy’n nodi’r gofyniad am Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd statudol gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru mewn amgylchiadau penodol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn berthnasol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn unig.

Mae rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

Os oes gennych ymholiad penodol am y Rheoliadau cysylltwch â Llywodraeth Cymru: [email protected]

Sut all Iechyd Cyhoeddus Cymru eich cefnogi?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a WHIASU yn darparu ystod o gymorth sy’n cynnwys canllawiau HIA yn ogystal ag offer, hyfforddiant a chymorth adeiladu capasiti i helpu cyrff cyhoeddus i ddeall pwrpas HIA a’i gymhwyso.

Nid oes gennym rôl reoleiddio, cymeradwyo na gorfodi o dan y Rheoliadau. Mae cyfrifoldeb am gydymffurfio â’r Rheoliadau yn nwylo’r cyrff cyhoeddus perthnasol.

Y cymorth sydd ar gael:

Mae derbyn unrhyw geisiadau am gymorth yn amodol ar gapasiti. Canllaw yn unig yw’r gefnogaeth a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a WHIASU ac nid yw’n gyfystyr â chyngor cyfreithiol nac yn ddehongliad pendant o’r gyfraith. Dylai sefydliadau gyfeirio at y Rheoliadau yn llawn a cheisio cyngor annibynnol lle bo’n briodol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan: https://icccgsib.co.uk/whiasu/

Ni all Iechyd Cyhoeddus Cymru a WHIASU wneud y canlynol:

Cyfrifoldeb cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Rheoliadau:

Ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol lle bo angen.

Mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) wedi cyhoeddi dau ganllaw ymarferol i gynorthwyo:

  1. cyrff cyhoeddus wrth iddynt gynnal Asesiadau statudol o’r Effaith ar Iechyd (HIAs)  yng Nghymru, a’r
  2. rhai sy’n dymuno cynnal HIAs gwirfoddol a thynnu sylw at arferion gorau i gefnogi ac ategu’r canllaw statudol.

Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu proses strwythuredig sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi’i chynllunio i gefnogi arferion HIA cyson ac effeithiol. Mae pob canllaw yn cynnwys templedi, rhestrau gwirio, a dolenni i adnoddau ychwanegol i hwyluso’r broses HIA.

Mae’r Canllaw i Gyrff Cyhoeddus yn darparu canllawiau cam wrth gam i gyrff cyhoeddus y mae’n ofynnol iddynt gynnal HIAs o dan y Rheoliadau Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru. Ochr yn ochr â’r canllaw, mae animeiddiad hefyd wedi’i ddatblygu i amlinellu’r gofynion allweddol ar gyfer cyrff cyhoeddus.

Mae’r Canllaw Gwirfoddol yn disodli’r ddogfen flaenorol, sef:Asesu’r Effaith ar Iechyd: Canllaw Ymarferol, a gynhyrchwyd gan UGAEIC yn 2012, ac mae’n amlinellu camau arferion gorau ar gyfer cynnal HIAs gwirfoddol.

Mae ein hadnoddau i gefnogi’r camau yn y broses HIA hefyd wedi cael eu hadnewyddu. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

Gellir defnyddio’r holl adnoddau uchod ochr yn ochr â’n cwrs e-ddysgu wedi’i ddiweddaru, ‘Y Broses Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): ‘HIAs Gwirfoddol ac Arferion Gorau’, i gefnogi’r gwaith o gwblhau HIAs effeithiol o ansawdd uchel. Mae’r cwrs diwygiedig hwn yn cyflwyno dysgwyr i asesu’r effaith ar iechyd yng Nghymru, gan gynnwys y mathau o HIAs, eu hamseru a’u hegwyddorion, yr agweddau iechyd a llesiant arnynt, y broses HIA a’r offer cysylltiedig, yn ogystal â darllen pellach ac enghreifftiau o astudiaethau achos. Fe’i cynlluniwyd i ategu’r Canllaw HIA Gwirfoddol. ‑Bydd cwrs e-Ddysgu ychwanegol i ategu’r Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus yn cael ei lansio yn hydref 2026.

I gael mynediad at y cwrs e-Ddysgu: