Mae amrywiaeth o dystiolaeth a data y gellir eu canfod o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys timau iechyd y cyhoedd lleol ac awdurdodau lleol. Bydd y data hyn yn helpu i ddatblygu cynlluniau, dylunio gofodau a chreu lleoedd iach. Gall hyn gynnwys data o ffynonellau amrywiol megis:
- Asesiadau Seilwaith Gwyrdd
- Asesiadau Lleoedd Chwarae a Mannau Agored
- Datganiadau Ardal
- Asesiadau Ansawdd Aer
- Data teithio llesol a thrafnidiaeth
- Asesiadau Effaith gan gynnwys HIA
- Cynghorau Tref a Chymuned gan gynnwys cynlluniau lleoedd
- Mapio GIS
- Llenyddiaeth academaidd
- Cynlluniau ac adroddiadau Byrddau Iechyd Lleol
Mae’r tablau cwymplen canlynol yn darparu dolenni i dystiolaeth a data perthnasol. Nid yw hon yn rhestr gyflawn.
Mae gwybodaeth a thystiolaeth bellach ar gael yma.
Data poblogaeth
| Teitl | Disgrifiad | Adnoddau |
|---|---|---|
| Map Data Cymru (Llywodraeth Cymru) | Data a mapiau sector cyhoeddus (gwybodaeth ddaearyddol a gwasanaethau cysylltiedig) | |
| Y Swyddfa Ystadegau Gwladol | Ystadegau poblogaeth (Cyfrifiad, cyfraddau cyflogaeth, tueddiadau poblogaeth ac ati) | |
| Stats Cymru (Llywodraeth Cymru) | Data swyddogol ar gyfer Cymru (gan gynnwys addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, poblogaeth a mudo a’r amgylchedd) | |
| Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (Llywodraeth Cymru) | Mesurau amddifadedd ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru | |
| Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Tueddiadau’r Dyfodol (Llywodraeth Cymru) | Adroddiad ar dueddiadau’r dyfodol mewn 4 maes allweddol: | |
| Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Dangosyddion Cenedlaethol (Llywodraeth Cymru) | Data a chrynodebau ar gyfer pob un o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol | |
| Arolwg Cenedlaethol Cymru (Llywodraeth Cymru) | Arolwg poblogaeth cenedlaethol ar ystod eang o bynciau gan gynnwys llesiant, cyllid, tai, chwaraeon a diwylliant | |
| Data Cymru (CLlLC) | Yn darparu mynediad i ystod eang o ddata a chymorth i ddefnyddio data ac ymchwil | |
| Nomis (ONS) | Ystadegau cyflogaeth a’r farchnad lafur | Nomis – Official Labour Market Statistics (nomisweb.co.uk) (Ar gael yn Saesneg yn Unig) |
Data iechyd
| Teitl | Disgrifiad | Adnoddau |
|---|---|---|
| Arsyllfa Iechyd y Cyhoedd – Iechyd yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru) | Data canlyniadau iechyd y boblogaeth (disgwyliad oes, cyflyrau cronig, ymddygiadau ffordd o fyw, lles meddyliol ac ati) | |
| Data Rhaglen Mesur Plant (Iechyd Cyhoeddus Cymru) | Mesur taldra a phwysau plant yn y flwyddyn Derbyn. Mesur allweddol ar gyfer gordewdra ymysg plant a phlant sydd dros bwysau. | Rhaglen Mesur Plant Cymru – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru) |
| Data iechyd y cyhoedd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) | Data iechyd y cyhoedd ar amrywiaeth o bynciau (sgrinio, imiwneiddiadau, clefydau a heintiau, canser ac ati) |
Data amgylcheddol
| Teitl | Disgrifiad | Adnoddau |
|---|---|---|
| Cyfoeth Naturiol Cymru | Porth gwybodaeth amgylcheddol Cymru (llifogydd, ansawdd aer, cynefinoedd ac ati) | Cyfoeth Naturiol Cymru / BETA: porth gwybodaeth amgylcheddol Cymru (naturalresources.wales) Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2020 (naturalresources.wales) Cyfoeth Naturiol Cymru / Datganiadau Ardal (naturalresources.wales) |
| Data amgylcheddol Iechyd y Cyhoedd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) | Gwybodaeth Iechyd yr Amgylchedd i gefnogi byrddau iechyd wrth wneud sylwadau ar geisiadau neu ganiatâd cynllunio | https://publichealthwales.shinyapps.io/EnvironmentalIndicatorsV1/(Ar gael yn Saesneg yn unig) |
Tystiolaeth a Phecynnau Cymorth Cynllunio ac Iechyd (Amgylchedd a Phoblogaeth)
| Teitl | Disgrifiad | Adnoddau |
|---|---|---|
| Creu lleoedd a mannau iachach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol (Iechyd Cyhoeddus Cymru) | Crynodeb o dystiolaeth am chwe maes blaenoriaeth yr amgylchedd naturiol ac adeiledig ac effaith ar iechyd | |
| Adeiladu Lleoedd Gwell (Llywodraeth Cymru) | Y System gynllunio yn sicrhau dyfodol cydnerth a mwy disglair: creu lleoedd a’r adferiad COVID-19 | |
| Adolygiad tystiolaeth o gynllunio gofodol ar gyfer iechyd (Public Health England) | Mae’r adolygiad yn rhoi egwyddorion sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer dylunio lleoedd iach i gynllunwyr iechyd y cyhoedd a chymunedau lleol | Adolygiad tystiolaeth o gynllunio gofodol ar gyfer iechyd (Public Health England) (Ar gael yn Saesneg yn unig) |
| Cynllunio gofodol ac iechyd – rhoi ymchwil ar waith (GRIP) (Public Health England) | Astudiaeth yn archwilio cyfleoedd a heriau o gymhwyso egwyddorion ‘Cynllunio Gofodol ar gyfer Iechyd’ | Cynllunio gofodol ac iechyd – rhoi ymchwil ar waith (GRIP) (Public Health England) (Ar gael yn Saesneg yn Unig) |
| Dementia a chynllunio trefol (RTPI) | Nodyn ymarfer ar sut y gall cynllunio trefol weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i greu amgylcheddau gwell i bobl sy’n byw gyda dementia | Dementia a chynllunio trefol (Ar gael yn Saesneg yn unig) |
| Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach: ymgorffori templed ar gyfer polisi cynllunio (Iechyd Cyhoeddus Cymru) | Yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau amgylcheddol a chymdeithasol ehangach sy’n effeithio ar iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau. Yn cynnwys templed Canllawiau Cynllunio Atodol | |
| Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer (Iechyd Cyhoeddus Cymru) | Pecyn cymorth i gefnogi’r defnydd o HIAs wrth ddatblygu CDLl | Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) |
| Cynlluniau ac Asesiadau Llesiant Lleol (Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru) | Mae asesiadau llesiant yn nodi sut y bydd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyflawni cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol | |
| Cynllun Gweithredu Adfer Natur (Llywodraeth Cymru) | Mae Strategaeth ar gyfer Natur yn nodi ymrwymiad i wrthdroi colli bioamrywiaeth yng Nghymru | |
| Gwybodaeth am Gymru ar gyfer atebion sy'n seiliedig ar natur (WINS) (Cyfoeth Naturiol Cymru) | Offeryn mapio ar gyfer ardaloedd o amddifadedd i nodi cyfleoedd i dargedu llifogydd / llygredd sŵn ac ati. Gall awdurdodau lleol a datblygwyr ddefnyddio’r data | Gwybodaeth am Gymru ar gyfer atebion sy’n seiliedig ar natur (WINS) (arcgis.com) |
| Pecyn Cymorth Prisio Seilwaith Gwyrdd (Ecosystems Knowledge Network) | Set o offer cyfrifo i asesu gwerth ased gwyrdd neu fuddsoddiad gwyrdd arfaethedig | Pecyn Cymorth Prisio Seilwaith Gwyrdd (Ecosystems Knowledge Network) (Ar gael yn Saesneg yn unig) |
| Nodau Datblygu Cynaliadwy (Cenhedloedd Unedig) | 17 nod datblygu cynaliadwy | Nodau Datblygu Cynaliadwy (Cenhedloedd Unedig) (Ar gael yn Saesneg yn unig) |
| Fframwaith mesur gwerth cymdeithasol cenedlaethol Cymru (Tasglu Gwerth Cymdeithasol Cenedlaethol) | Fframwaith yn seiliedig ar gamau gweithredu i alluogi asesiad o gyfraniad gwerth cymdeithasol i’r Ddeddf Llesiant | Fframwaith mesur gwerth cymdeithasol cenedlaethol Cymru (Tasglu Gwerth Cymdeithasol Cenedlaethol) (Ar gael yn Saesneg yn unig) |
