Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol gan gynnwys strategaethau i helpu i atal y cynnydd mewn gordewdra yng Nghymru.

Mae ‘Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach’ yn gyfres o ddogfennau sydd wedi’u datblygu gan arbenigwyr iechyd i gynorthwyo swyddogion polisi cynllunio a rheoli datblygu awdurdodau lleol, ymarferwyr tîm iechyd cyhoeddus cenedlaethol a lleol, cynrychiolwyr iechyd amgylcheddol, eiriolwyr cenedlaethol a llunwyr polisi ar gyfer cynllunio ac iechyd, a datblygwyr yng Nghymru i gyfrannu at greu amgylcheddau iach, gan gynnwys pwysau iach.  

Mae’n rhoi cyd-destun a gwybodaeth am y rhwystrau presennol i greu amgylcheddau iach, polisi cynllunio perthnasol a dulliau gwahanol ar gyfer cyflawni’r amgylcheddau hyn yn genedlaethol ac yn lleol, a chyfres o astudiaethau achos sy’n defnyddio enghreifftiau o Gymru a’r Deyrnas Unedig (DU) ac awdurdodau lleol (ALl) sydd eisoes wedi defnyddio camau arloesol ac ymarferol i oresgyn yr heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu o ran cynnal ffyrdd iach o fyw. 

Mae’r adnodd yn darparu templed ymarferol ar gyfer Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG) ar gyfer Amgylcheddau Pwysau Iach, gan ddarparu’r cyd-destun a’r wybodaeth i gyfrannu at bolisïau defnydd tir lleol a Chynlluniau Datblygu Lleol a’u cefnogi. 

Mae ar gyfer y rhai sy’n dymuno defnyddio’r system gynllunio i weithio tuag at greu amgylcheddau sy’n cyflawni nodau cynllunio ac iechyd cyhoeddus i fynd i’r afael â gordewdra, deiet, gweithgarwch corfforol, cydlyniant cymdeithasol a llesiant meddyliol. 

Dyma’r chwe elfen i gynllunio amgylcheddau pwysau iach:  

  1. Symud a mynediad 
  2. Mannau agored, chwarae a hamdden 
  3. Bwyd iach  
  4. Mannau cymdogaeth a seilwaith cymdeithasol 
  5. Adeiladau, a’r 
  6. Economi leol. 

Gellir dod o hyd i’r adnodd llawn yma:

Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach Prif Adnodd

Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach Templed Canllaw Cynllunio Atodol (CCA)

Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach Astudiaethau Achos

Cael gwybod mwy