Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ffeithluniau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd effaith newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, ac i gefnogi cyrff cyhoeddus a busnesau i gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw effeithiau.

Wedi’i lansio i gyd-fynd â Chynhadledd y Partïon 26 (COP26), mae’r ffeithluniau’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng yr amgylchedd naturiol ac iechyd, y grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt a rhai o effeithiau allweddol iechyd a llesiant newid yn yr hinsawdd a’r grwpiau poblogaeth hynny y gellid effeithio arnynt. Sef:

  • Pobl – Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bawb, ond bydd yr effeithiau’n cael eu teimlo’n anghymesur gan rai grwpiau. Mae’r ffeithlun hwn yn amlygu effeithiau iechyd a llesiant newid yn yr hinsawdd ar grwpiau poblogaeth gwahanol gan gynnwys plant a phobl ifanc; oedolion hŷn; pobl anabl a chyflyrau iechyd hirdymor a phobl sy’n byw ar incwm isel. Mae cynllunio addasu effeithiol yn cynnwys meddwl am grwpiau gwahanol a sut yr effeithir arnynt.
  • Lleoedd – Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar iechyd a llesiant yn y mannau lle rydym yn byw, yn gweithio ac yn chwarae. Mae angen mwy o weithredu ar gyfer mwy o wres yng Nghymru, ac mae’r ffeithlun hwn yn ceisio tynnu sylw at leoedd lle mae angen cynlluniau er mwyn addasu i dymheredd uwch gan gynnwys: gweithleoedd; ysgolion; cartrefi; ysbytai a chartrefi gofal.
  • Bwyd – mae maeth da yn hanfodol ar gyfer twf a datblygiad iach mewn plant, cynnal iechyd pan yn oedolion a lleihau’r risg o glefydau fel canser. Mae’r ffeithlun hwn yn trafod effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ddiogelwch bwyd a bwyta’n iach.
  • Natur ac iechyd – Mae’r amgylchedd naturiol yn cefnogi iechyd a llesiant y boblogaeth, o’r aer y mae pobl yn ei anadlu, i’r bwyd sy’n cael ei fwyta, treulio amser cymdeithasol, egnïol a gorffwys mewn mannau naturiol gwyrdd a glas.  Mae’r ffeithlun hwn yn crynhoi manteision natur i iechyd a llesiant corfforol, cymdeithasol a meddyliol, a hefyd yn rhoi rhai syniadau ar gyfer camau gweithredu ar sut y gall pawb ofalu am natur.

Ffeithluniau

Cyfeiriadau Ffeithlun (Saesneg yn unig)

Cael gwybod mwy…

Gweminar: Newid Hinsawdd, Safbwynt Cymru – Dydd Iau 11 Tachwedd, 14:00: Cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn

Yn y weminar bydd Nerys Edmonds o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi trosolwg byr o’r Asesiad o Effaith Newid Hinsawdd ar Iechyd fydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn, yn esbonio rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn archwilio’r effeithiau ar iechyd a lles y mae angen mynd i’r afael â nhw wrth gynllunio ar gyfer, ac ymateb i newid hinsawdd.