20 mlynedd o Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) a datblygiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) yng Nghymru |
Michael Fletcher, Kathryn Ashton, Laura Evans, Cheryl Williams, Abigail Malcolm, Catrin Lyddon, Lee Parry-Williams, Nerys Edmonds, Liz Green |
Mae 20 mlynedd ers sefydlu UGAEIC yn nodi dau ddegawd o ddatblygu HIA fel arf hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau iachach a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Wedi’i sefydlu yn 2004. Mae UGAEIC wedi arwain y ffordd wrth alluogi integreiddio HIA i mewn i bolisi ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae’r llinell amser yn amlygu cerrig milltir, dogfennau, a chyhoeddiadau allweddol yn hanes UGAEIC ac arfer HIA yng Nghymru. Gan edrych i’r dyfodol, bydd UGAEIC yn parhau i hyrwyddo HIA ac Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP), ac yn cefnogi cyrff cyhoeddus i roi rheoliadau HIA sydd ar y ffordd o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 ar waith. |
Gweld yr adnodd
|
Arweiniad ar asesu effeithiau cloddio glo brig ar iechyd a llesiant (2012) (Saesneg yn unig) |
Chloe Chadderton, Eva Elliott a Gareth Williams (WHIASU) |
Dogfen ganllaw arfer gorau sy'n cynnwys cyngor ar gynnal HIA ar waith glo brig arfaethedig a chyflwyno canfyddiadau adolygiad cynhwysfawr o lenyddiaeth ar ffurf y gellir ei defnyddio ar gyfer y rhai sy'n dymuno ymgymryd ag HIA |
Gweld yr adnodd
|
Asesiad o’r Effaith ar Anghydraddoldeb Iechyd: Cynllunio ar gyfer Effaith Gadarnhaol (Saesneg yn unig) |
Awdurdod Iechyd Bro Taf |
Dogfen sy'n cynnwys ymarfer tasgu syniadau ar anghydraddoldebau iechyd. |
Gweld yr adnodd
|
Asesiad o’r Effaith ar Lesiant Meddyliol: Pecyn cymorth ar gyfer llesiant (ar gael yn Saesneg yn unig) |
Anthea Cooke, Inukshuk Consultancy Lynne Friedli, Arbenigwr Hybu Iechyd Meddwl Tony Coggins, Ymddiriedolaeth Sylfaen GIG De Llundain a Maudsley Nerys Edmonds, Ymddiriedolaeth Sylfaen GIG De Llundain a Maudsley Juliet Michaelson, Sylfaen economeg n |
Mae'r pecyn cymorth MWIA hwn ar gyfer llesiant yn darparu fframwaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwella llesiant drwy brosesau comisiynu, cynllunio a darparu prosiectau a gwasanaethau, ymgysylltu â'r gymuned ac asesu effaith. Mae'n galluogi pobl a sefydliadau i asesu a gwella polisi, rhaglen, gwasanaeth neu brosiect i sicrhau ei fod yn cael yr effaith fwyaf teg ar lesiant meddyliol pobl, ac i nodi ffyrdd o fesur yr effeithiau hynny. |
Gweld yr adnodd
|
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Cwestiynau Cyffredin |
|
Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi creu’r ddogfen hon sy’n ceisio ateb eich cwestiynau am Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan gynnwys edrych ar y manteision, yr hyn y mae’n ei olygu a phryd y dylid cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, ynghyd â chwestiynau eraill. Ochr yn ochr â’n hadnoddau eraill, gall helpu i wella eich dealltwriaeth o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd. |
Gweld tudalen we
|
Asesu ansawdd adroddiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) (Saesneg yn unig) |
Liz Green |
Canllaw i gefnogi adolygu a sicrhau ansawdd adroddiadau HIA a gomisiynwyd. |
Gweld yr adnodd
|
Asesu’r Effaith ar Iechyd Canllaw Ymarferol |
Chloe Chadderton, Eva Elliott, Liz Green, Julia Lester, Gareth Williams |
Mae canllaw HIA Cymru yn esbonio popeth am Asesu'r Effaith ar Iechyd (HIA) gan cynnwys sut i gwneud un fel rhan o'ch gwaith. |
Gweld yr adnodd
|
Asesu’r effaith ar iechyd wrth lunio polisi’r lywodraeth: Datblygiadau yng Nghymru, Cyfres Cromlin Ddysgu Polisi, Rhif 6 (Saesneg yn unig) |
Breeze C and Hall R (2002) |
|
Gweld yr adnodd
|
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer |
Liz Green, Lee Parry-Williams, Edwin Huckle |
Lawrlwythwch Adobe Acrobat Reader cyn agor yr adnodd hwn er mwyn cael elwa ar ei swyddogaethau’n llawn.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer Asesiad o’r Effaith ar iechyd a fydd yn galluogi cynllunwyr i integreiddio iechyd yn hawdd yn eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol.
Wedi’i ddylunio i helpu i hyrwyddo’r cydweithio rhwng sectorau cynllunio ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae’r adnodd yn ceisio sicrhau’r canlyniadau iechyd a llesiant cadarnhaol mwyaf posibl drwy bolisïau cynllunio defnydd tir sy’n creu cymunedau iach, teg a chydlynus. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Adfywio – Llangeinwyr, Nantgarw (Saesneg yn unig) |
|
Yn 2002, penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA) ar gynllun arfaethedig i ailddatblygu tai yn Llangeinwyr, hen gymuned lofaol ddifreintiedig yn y Garw. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Coed Actif Cymru 2015 (Saesneg yn unig) |
Lee Parry Williams a Nerys Edmonds gyda diolch i Kate Hamilton a'r tîm Coed Actif |
Roedd Coed Actif yn adolygu ei dull gweithredu ac yn ystyried newid ffocws y prosiect i ddull ataliol yn hytrach na thargedu pobl â chyflyrau hirdymor presennol. Roeddent hefyd yn paratoi ceisiadau am gyllid yn y dyfodol ac yn adolygu eu hymagwedd at werthuso. I ddeall effeithiau'r newid arfaethedig hwn ar iechyd, cynhaliwyd ymarfer sgrinio HIA gan ddefnyddio offeryn sgrinio HIA oedd newydd gael ei ddatblygu i'w ddefnyddio'n benodol gyda'r sector amgylcheddol. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Cynllunio Gwastraff Rhanbarthol (Saesneg yn unig) |
|
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi yn Nodyn Cyngor Technegol 21 fod yn rhaid adolygu'r Cynlluniau Gwastraff Rhanbarthol bob tair blynedd, a bod yn rhaid cynnal HIA ar gyfer Strategaeth Wastraff Cymru a'r tri adolygiad 1af o asesiadau Llywodraeth Cymru (RWPRs). Felly, gwnaed HIA strategol cynhwysfawr i gefnogi a hysbysu'r RWPRs yng Nghymru, er mwyn sicrhau yr ystyriwyd ac y diogelwyd iechyd a llesiant yn ystod y broses cynllunio gwastraff rhanbarthol. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Gweithgarwch Corfforol – Canolfan Hamdden Bae Colwyn (Saesneg yn unig) |
|
Asesiad o'r effaith ar iechyd (HIA) ar y prosiect Canolfan Iechyd arfaethedig yng Nghanolfan Hamdden Colwyn. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth achos partneriaeth prosiect BRAND (Saesneg yn unig) |
|
Prosiect tair blynedd yw prosiect BRAND, gyda 75% yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy raglen Interreg IVA yr UE rhwng Iwerddon a Chymru 2007-2013. Menter gymunedol yw'r rhaglen sy'n ceisio cryfhau cydlyniad economaidd a chymdeithasol drwy hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol a thrawsffiniol. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Trafnidiaeth A483/A489 y Drenewydd (taflen astudiaeth achos) (Saesneg yn unig) |
Jacobs |
Comisiynodd Trafnidiaeth Cymru Jacobs i gynnal astudiaeth annibynnol i archwilio'r problemau trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â'r A483 a'r A489 sy'n mynd drwy'r Drenewydd. Diben Comisiwn Jacobs oedd nodi'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal a datblygu cyfres o Amcanion Cynllunio Drafft, y gellid asesu atebion eang yn eu herbyn a chynnal rhag-arfarniad i ddidoli'r opsiynau hyn a gynhyrchwyd. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Trafnidiaeth A483/A489 y Drenewydd Adroddiad HIA Cam 1 (Saesneg yn unig) |
|
Comisiynodd Trafnidiaeth Cymru Jacobs i gynnal astudiaeth annibynnol i archwilio'r problemau trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â'r A483 a'r A489 sy'n mynd drwy'r Drenewydd. Diben Comisiwn Jacobs oedd nodi'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal a datblygu cyfres o Amcanion Cynllunio Drafft, y gellid asesu atebion eang yn eu herbyn a chynnal rhag-arfarniad i ddidoli'r opsiynau hyn a gynhyrchwyd.
|
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth Achos Trafnidiaeth A483/A489 y Drenewydd Adroddiad HIA Cam 2 (Saesneg yn unig) |
Jacobs |
Comisiynodd Trafnidiaeth Cymru Jacobs i gynnal astudiaeth annibynnol i archwilio'r problemau trafnidiaeth sy'n gysylltiedig â'r A483 a'r A489 sy'n mynd drwy'r Drenewydd. Diben Comisiwn Jacobs oedd nodi'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal a datblygu cyfres o Amcanion Cynllunio Drafft, y gellid asesu atebion eang yn eu herbyn a chynnal rhag-arfarniad i ddidoli'r opsiynau hyn a gynhyrchwyd. |
Gweld yr adnodd
|
Astudiaeth HIA dan Arweiniad y Gymuned – Pwll Glo Brig Margam (taflen astudiaeth achos) (Saesneg yn unig) |
Kenfig Hill |
Archwiliodd yr asesiad cynhwysfawr o'r effaith ar iechyd effaith yr estyniad arfaethedig i Bwll Glo Brig Margam. |
Gweld yr adnodd
|
Atodiad Dau – Nodiadau Esboniadol |
Green L, Parry Williams L, Edmonds N |
Atodiad Dau - Nodiadau esboniadol ar gyfer maen prawf penodol yn unig. |
Gweld yr adnodd
|
Atodiad Un – Matrics Adolygu |
Green L, Parry Williams L, Edmonds N |
Atodiad Un – Matrics Adolygu |
Gweld yr adnodd
|
Bandoiler (Saesneg yn unig) |
|
Mae'r adran dystiolaeth yn casglu gwybodaeth o dan nifer o bynciau iechyd. Mae'r rhan fwyaf ohoni'n feddygol ond mae'r adran Byw'n Iach yn darparu tystiolaeth ar ymyriadau ffordd o fyw ac iechyd. |
Gweld tudalen we
|
Canllaw i adolygu tystiolaeth ar gyfer asesiadau o’r effaith ar iechyd (Saesneg yn unig) |
Dr J Biddulph, Coleg Prifysgol Llundain Ms A Boaz, Prifysgol Llundain y Frenhines Mary Ms A Boltong, Arsyllfa Iechyd Llundain yr Athro S Curtis, Prifysgol Llundain y Frenhines Mary Dr M Joffe, Coleg Imperial Llundain Dr K Lock, Ysgol Hylendid a Meddygaeth |
Mae'r canllaw hwn yn darparu fframwaith cam wrth gam i gynorthwyo ymarferwyr i adolygu llenyddiaeth i'w defnyddio mewn HIA |
Gweld yr adnodd
|
Canolfan Adolygiadau a Lledaenu’r GIG (CRD), Prifysgol Caerefrog (Saesneg yn unig) |
|
Yn darparu crynodebau o adolygiadau a gynhaliwyd gan CRD am yr hyn sydd eisoes yn hysbys am effeithiolrwydd ymyriadau i wella iechyd a mynd i'r afael ag afiechyd.
Mae'r rhan fwyaf yn ymwneud â thriniaethau meddygol ond mae'n cynnwys yr Evidence from Systematic Reviews of Research Relevant implementing the Wider Public Health Agenda cynhwysfawr (gweler yr adolygiadau a gynhaliwyd yn 2000). Mae hefyd yn cynnwys y Database of Abstracts of Reviews of Effects (DARE) sy'n darparu crynodebau o adolygiadau systematig a aseswyd o ran ansawdd. Mae rhai o'r rhain yn ymdrin â phenderfynyddion ehangach iechyd. |
Gweld tudalen we
|
Canolfan ESRC ar gyfer Polisi Iechyd y Cyhoedd yn Seiliedig ar Dystiolaeth (wedi’i lleoli yn Uned Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd MRC ym Mhrifysgol Glasgow) (Saesneg yn unig) |
|
Sefydlwyd i 'ymateb i'r galw cynyddol am ymyriadau polisi rhesymegol ac effeithiol yn seiliedig ar ddealltwriaeth wybodus o'r "hyn sy'n gweithio". Mae nifer o astudiaethau ar y gweill ar hyn o bryd. |
Gweld tudalen we
|
Comisiynu HIA a phenodi arbenigwr neu ymgynghorydd HIA (Saesneg yn unig) |
Liz Green |
Canllaw sy'n cynnwys cwestiynau i'w hystyried wrth gomisiynu HIA a phenodi arbenigwr neu ymgynghorydd HIA. |
Gweld yr adnodd
|
Cronfa ddata Trip (Saesneg yn unig) |
|
Chwilio dros 55 o safleoedd gyda gwybodaeth ac ymchwil o ansawdd da yn ymwneud â'r meddygol ac iechyd. Darparu mynediad i ddeunydd 'seiliedig ar dystiolaeth' ar y we yn ogystal ag erthyglau o gylchgronau meddygol ar-lein uchel eu parch megis y British Medical Journal. Er ei fod yn canolbwyntio ar y meddygol, mae'n bosibl cael gafael ar dystiolaeth sy'n ymwneud â phenderfynyddion ehangach iechyd. |
Gweld tudalen we
|
Cydweithrediad Campbell (Saesneg yn unig) |
|
Yn rhoi mynediad i dystiolaeth am effeithiau nifer o ymyriadau cymdeithasol, addysgol a chyfiawnder troseddol. |
Gweld tudalen we
|
Cyflwr yr Undeb. Ailuno Iechyd â Chynllunio i Hyrwyddo Cymunedau Iach (Saesneg yn unig) |
Michael Chang, Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA) |
Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi darlun o ba mor effeithiol yw'r cydweithio rhwng y sectorau cynllunio, iechyd cyhoeddus a gofal iechyd wrth i ni gyrraedd 2019. |
Gweld yr adnodd
|
Cyflwyniad Gweithdy Enghreifftiol |
Uned Cymorth Asesu Effaith Iechyd Cymru (WHIASU) |
Yn ymwneud â chanllawiau'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) (Saesneg yn unig) |
Gweld yr adnodd
|
Cyfranogiad dinasyddion mewn HIA lleol: Llywio penderfyniadau ar ddyfodol safle tirlenwi yng Nghymru (Saesneg yn unig) |
Elliott E, Golby A, a Williams GH (2007) yn M Wismar Blau J a Ernst K (gol) |
The Effectiveness of Health Impact Assessment: Scope and limitations of supporting decision-making in Europe. Brwsel: Sefydliad Iechyd y Byd. |
Gweld yr adnodd
|
Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach: Astudiaethau Achos |
Tom Johnson, Liz Green |
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol gan gynnwys strategaethau i helpu i atal y cynnydd mewn gordewdra yng Nghymru. |
Gweld yr adnodd
|
Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach: Prif Adnodd |
Tom Johnson, Liz Green |
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol gan gynnwys strategaethau i helpu i atal y cynnydd mewn gordewdra yng Nghymru. |
Gweld yr adnodd
|
Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach: Templed Canllaw Cynllunio Atodol |
Tom Johnson, Liz Green |
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol gan gynnwys strategaethau i helpu i atal y cynnydd mewn gordewdra yng Nghymru. |
Gweld yr adnodd
|
Cynllunio ar gyfer iechyd a lles gwell yng Nghymru |
TCPA, WHIASU a Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Cafodd y Briff hwn ei ysgogi gan y ddyletswydd a roddwyd ar gyrff cyhoeddus gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyfrannu at gyflawni nodau lles cenedlaethol, a thrwy gryfhau’r system gynllunio sy’n cael ei harwain gan gynlluniau, eto gyda gofyniad i gyfrannu at nodau lles, a sefydlwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae’r newidiadau deddfwriaethol hyn yn gyfle amserol i ddatblygu arweiniad ymarferol ar gyfer ymarferwyr cynllunio ac iechyd y cyhoedd a gwneuthurwyr polisïau, i’w helpu i ystyried iechyd a lles wrth lunio cynlluniau lles lleol a Chynlluniau Datblygu Lleol ac wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. |
Gweld yr adnodd
|
Cynllunio ar gyfer Iechyd a Llesiant Gwell – Canllawiau Cynllunio Atodol |
Cyngor Dinas Caerdydd |
Mae’r CCA hwn yn ategu polisïau yn Cynllun Datblygu Lleol (CDLL) mabwysiedig Caerdydd yn ymwneud ag iechyd a chynllunio ac mae wedi'i ddatblygu ar y cyd rhwng y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. |
Gweld yr adnodd
|
Cynnwys cynllunio posibl yn ystod y broses datblygu cynllun tymor canolig integredig (Saesneg yn unig) |
Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a WHIASU |
Mae'r adnodd hwn yn un o atodiadau'r ddogfen 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru'. |
Gweld yr adnodd
|
Cynnwys y Cyhoedd mewn Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Saesneg yn unig) |
Chloe Chadderton, Eva Elliott, Gareth Williams (WHIASU) |
Fel rhan o'i rôl ymchwil a gwerthuso, mae'r papur hwn yn adrodd ar astudiaeth ymchwil sy'n ymchwilio i ddulliau ac effaith aelodau o'r cyhoedd a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan mewn Asesu'r Effaith ar Iechyd. Mae'r fethodoleg yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o lenyddiaeth, ac astudiaethau achos yng Nghymru gan ddefnyddio cyfweliadau ansoddol a grwpiau ffocws gydag aelodau o'r cyhoedd a chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol a'r sector statudol. Mabwysiedir dull theori sylfaenol er mwyn nodi themâu sy'n ymddangos yn y data. |
Gweld yr adnodd
|
Dan Sylw – Iechyd, Llesiant a Thegwch gan Ddefnyddio Asesu’r Effaith ar Iechyd: Astudiaethau Achos o Gyrff Cyhoeddus yng Nghymru |
Mark Drane, Liz Green, Kathryn Ashton, Michael Fletcher, Sumina Azam |
Mae’r cyhoeddiad hwn yn canolbwyntio ar y defnydd o Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru fel proses a all gefnogi llunwyr polisïau a’r rhai sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau i wneud y mwyaf o fuddion llesiant, lleihau niwed i iechyd, ac osgoi ehangu anghydraddoldebau iechyd. Mae hefyd yn cefnogi cyrff cyhoeddus i gyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (2017). |
Gweld yr adnodd
|
Datblygu cymdeithaseg gyhoeddus drwy asesu’r effaith ar iechyd (Saesneg yn unig) |
Elliott E a Williams GH (2008) |
Dim ar gael |
Gweld yr adnodd
|
Effaith y dirywiad economaidd ar iechyd yng Nghymru: Adolygiad ac astudiaeth achos. Crynodeb Gweithredol (2010) (Saesneg yn unig) |
Eva Elliott, Emily Harrop, Heather Rothwell, Michael Shepherd a Gareth Williams |
Nod yr adolygiad hwn oedd casglu'r hyn a ddysgwyd o ymchwil i ddirwasgiadau blaenorol tra'n gosod y canfyddiad yng nghyd-destun Cymru heddiw. Dylid pwysleisio nad oedd hon yn astudiaeth gynhwysfawr, ond mae'n cynnig man cychwyn lle gall llunwyr polisi, ymarferwyr ac ymchwilwyr ddechrau rhoi ystyriaeth i gamau gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae'n darparu set o argymhellion ar sail tystiolaeth ar gyfer polisi ac ymarfer sy'n cynnwys awgrymiadau ynghylch pa grwpiau o'r boblogaeth a allai fod yn arbennig o agored i ddirwasgiad; yr angen i gyfuno adnoddau a chyfuno atebion yn enwedig mewn ardaloedd lle mae seilwaith gwasanaethau cymorth yn debygol o fod yn wan; yr angen am raglenni marchnad lafur gweithredol sy'n rhoi cymorth, yn magu hunan-barch ac yn creu rhwydweithiau cymdeithasol/cymunedol cefnogol (yn ogystal â chymorth chwilio am swyddi) ac i'r rhain gynnwys gwerthusiad o'u heffaith ar iechyd; i strategaethau cymorth gael eu datblygu mewn gweithleoedd i gefnogi gweithwyr a allai fod yn bryderus am statws eu swydd; ac ystyried effaith bosibl penderfyniadau gwario yn y dyfodol ar iechyd o ganlyniad i lai o wariant cyhoeddus. Yn ogystal, dylid diogelu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc sy'n agored i niwed, teuluoedd dan straen a phobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. |
Gweld yr adnodd
|
Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) |
Liz Green, Lee Parry-Williams, Nerys Edmonds, Gyda chyfraniadau gan Steinthora Jonsdottir |
Mae’r Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd hwn yn offeryn arfarnu hanfodol ar gyfer HIA. Ei nod yw sicrhau bod ymarfer HIA yng Nghymru’n parhau i adlewyrchu’r gwerthoedd, y safonau a’r ymagweddau pwysig sydd wedi bod yn sylfaenol i ddatblygu ymarfer HIA yn y wlad hyd yn hyn. |
Gweld yr adnodd
|
Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) – Cyfan |
Liz Green, Lee Parry-Williams, Nerys Edmonds |
Mae'r dogfen yma yn cynnwys y tri dogfen QA gwahannol mewn un. |
Gweld yr adnodd
|
Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) (2020 – rhyngweithiol) |
Liz Green, Lee Parry-Williams, Nerys Edmonds, Gyda chyfraniadau gan, Steinthora Jonsdottir |
I’w ddefnyddio fel ffurflen electronig yn unig.
Mae’r Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd hwn yn offeryn arfarnu hanfodol ar gyfer HIA. Ei nod yw sicrhau bod ymarfer HIA yng Nghymru’n parhau i adlewyrchu’r gwerthoedd, y safonau a’r ymagweddau pwysig sydd wedi bod yn sylfaenol i ddatblygu ymarfer HIA yn y wlad hyd yn hyn.
Mae’r Fframwaith wedi cael ei ysgrifennu i gefnogi a rhoi arweiniad i unigolion a sefydliadau i gynnal adolygiad sicrhau ansawdd o Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ac mae wedi ei ddylunio fel dogfen annibynnol. Ei nod yw rhoi arweiniad i gomisiynwyr ac adolygwyr HIA. |
Gweld yr adnodd
|
Fframwaith Hyfforddiant a Meithrin Gallu ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd – adroddiad technegol (Saesneg yn unig) |
Nerys Edmonds, Lee Parry-Williams, Liz Green (WHIASU) |
Mae’r adroddiad technegol yn gosod fframwaith cynhaliol am ddull WHIASU o gynllunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso’r hyfforddiant a meithrin gallu ar gyfer AEI dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r fframwaith yn ganlyniad 18 mis o ymchwil, datblygiad ac ymgysylltiad. Mae’r ddogfen dechnegol yn manylu ‘Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ar gyfer AEI’ a ‘Llwybr Datblygu AEI’ a ddatblygir yn ddiweddar ac sy’n medru cynorthwyo datblygiad y gweithlu a meithrin gallu. |
Gweld yr adnodd
|
Gostwng Troseddu (Saesneg yn unig) |
|
Yn anelu at ddarparu gwybodaeth a chyngor i ymarferwyr diogelwch cymunedol ac atal troseddu er mwyn lleihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu hardal leol. Yn cynnwys tystiolaeth ar amrywiaeth eang o bynciau o deledu cylch cyfyng i droseddau hiliol. |
Gweld tudalen we
|
Herio’r wyddoniaeth: gwybodaeth iechyd y cyhoedd a gweithredu mewn datblygiadau tir dadleuol, Cyfathrebu Risg ym maes Iechyd y Cyhoedd (Saesneg yn unig) |
Elliott E, Harrop E a Williams GH (2010) yn Bennett P, Calman K, Curtis S, a Smith D (gol) |
Mae dadleuon am risgiau i iechyd y cyhoedd yn ymddangos yn y newyddion yn rheolaidd, p'un ai am ddiogelwch bwyd, materion amgylcheddol, ymyriadau meddygol, neu risgiau 'ffordd o fyw' megis yfed. I'r rheini sy'n ceisio rheoli neu reoleiddio risgiau, mae ymateb y cyhoedd weithiau'n ymddangos yn rhyfedd. I'r cyhoedd, gall ymddygiad y rheini sydd i fod 'wrth y llyw' ymddangos yr un mor rhyfedd. Mae ymddiriedaeth yn hollbwysig yn hyn o beth. Mae'r rhifyn newydd hwn o Risk Communication and Public Health yn cynnwys y cefndir damcaniaethol ac ymchwil, ac yn cyflwyno ystod eang o astudiaethau achos cyfoes a'r profiadau dysgu o 'r rhain, a'r materion gwleidyddol, sefydliadol a threfniadol y maent yn eu codi. Mae'n cloi gyda dadansoddiad o'r gwersi a ddysgwyd ac yn rhoi awgrymiadau ar gyfer y dyfodol. Mae'r llyfr yn cynnig safbwyntiau rhyngwladol, ac mae'r cyfranwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau defnyddwyr yn ogystal ag ymarferwyr iechyd y cyhoedd ac academyddion. Mae'r rhifyn hwn wedi'i ddiweddaru'n sylweddol gyda deunydd newydd ac astudiaethau achos, ond mae'n cadw'r un ffocws: gwella cyfathrebu a hyrwyddo 'arfer da' mewn cyfathrebu risg, y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd ac mewn mannau eraill. |
Gweld tudalen we
|
HIA a gwblhawyd 1997-2015 (Saesneg yn unig) |
WHIASU |
HIA a gwblhawyd 1997-2015 |
Gweld yr adnodd
|
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
|
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cefnogi sawl HIA a gellir dod o hyd i fanylion a gwybodaeth ar y wefan hon. |
Gweld tudalen we
|
Labordy Ymchwil Trafnidiaeth (Saesneg yn unig) |
|
Ystod eang o waith ymchwil ar ddiogelwch ar y ffyrdd, effaith ar lif traffig a materion amgylcheddol fel swn ac allyriadau traffig. |
Gweld tudalen we
|
Llywodraeth Cymru |
|
Gwybodaeth o ran pob agwedd ar bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag iechyd a llesiant. |
Gweld tudalen we
|
Mae cytundeb masnach Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) yn fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd ac mae’n gwarantu asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA) (Saesneg yn unig) |
Courtney L McNamara, Liz Green, Pepita Barlow, Mark A Bellis |
|
Gweld tudalen we
|
Mannau agored cyhoeddus hamdden CCA (terfynol) (Cyngor Sir Ddinbych) (Saesneg yn unig) |
|
Mae'r ddogfen hon yn un o gyfres o nodiadau canllawiau cynllunio atodol (CCA) sy'n ymhelaethu ar gynllun datblygu lleol Sir Ddinbych 2006 – 2021 (CDLl) polisïau mewn fformat sy'n anelu at lywio proses, dyluniad ac ansawdd datblygiadau newydd.
Saesneg ar gael yn unig |
Gweld yr adnodd
|
Porth HIA (Saesneg yn unig) |
|
Gwybodaeth, adnoddau, astudiaethau achos, ffynonellau tystiolaeth a rhwydweithiau i gefnogi'r defnydd o HIA. |
Gweld tudalen we
|
Prif Swyddog Meddygol Cymru |
|
Yn cynnwys astudiaethau achos o HIA wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn darparu mynediad i ddogfennau polisi perthnasol a gwybodaeth am feysydd eraill o waith perthnasol ym maes iechyd cyhoeddus sy'n cael eu cynnal yng Nghymru. |
Gweld tudalen we
|
Prifysgol Llundain Y Frenhines Mary – Grwp Ymchwil Iechyd, Adran Ddaearyddiaeth (Saesneg yn unig) |
|
Yn cynnwys ‘The East London Guide to Health Impact Assessment of Regeneration Projects'. Mae'r gwaith tair cyfrol yn cynnwys adolygiad o lenyddiaeth ar bedwar maes sy'n berthnasol i adfywio a sut maent yn ymwneud ag iechyd. |
Gweld tudalen we
|
Profiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn Asesiad o’r Effaith ar Iechyd Cymru: cysyniadau, theori, technegau a chymwysiadau (Saesneg yn unig) |
Breeze C (2004) yn Kemm J, Parry J a Palmer S (gol) |
Caiff effeithiau ar iechyd yn aml eu hanwybyddu wrth gynllunio prosiectau datblygu yn amrywio o redfeydd newydd ar safleoedd meysydd awyr mawr i ddatblygu systemau cyflenwi d?r i wella glanweithdra. Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA) yw'r asesiad o effeithiau ar iechyd, cadarnhaol neu negyddol, prosiect, rhaglen neu bolisi. Mae'n ymwneud felly ag iechyd poblogaethau ac ymdrechion i ragfynegi canlyniadau penderfyniadau nad ydynt wedi'u gweithredu eto ar gyfer iechyd yn y dyfodol. Mae HIA yn faes newydd sy'n tyfu gyda llawer o linynnau o syniadau a meysydd dadleuol. |
Gweld tudalen we
|
Profion iechyd rhywiol hunan-weinyddol mewn carchar agored yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a dadansoddiad o Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad |
Kathryn Ashton, Aimee Challenger, Andrew Cotter-Roberts, Christie Craddock, Jordan Williams, Liz Green |
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau astudiaeth sy’n ceisio deall yr effeithiau ar iechyd a’r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad gwasanaeth hunan-samplu ar gyfer Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STIs) mewn carchar agored yng Nghymru. Mae’r astudiaeth yn cymhwyso dull arloesol drwy ddefnyddio lens a dull Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), ar y cyd â’r fframwaith Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI). |
Gweld tudalen we
|
Proses ar gyfer cynnwys iechyd y cyhoedd mewn cynllunio datblygu (polisi) (Saesneg yn unig) |
Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a WHIASU |
Mae'r adnodd hwn yn un o atodiadau'r ddogfen 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru'. |
Gweld yr adnodd
|
Proses ar gyfer cynnwys iechyd ym maes rheoli datblygu (ceisiadau cynllunio) (Saesneg yn unig) |
Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a WHIASU |
Mae'r adnodd hwn yn un o atodiadau'r ddogfen 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru'. |
Gweld yr adnodd
|
Rhestr Wirio Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd a Llesiant (2020) |
Uned Cymorth Asesu Effaith Iechyd Cymru (WHIASU) |
Mae’r rhestr wirio hon i’w defnyddio yn ystod Proses Sgrinio ac Arfarnu HIA er mwyn nodi’r grwpiau poblogaeth y gellid cael mwy o effaith arnynt nag eraill drwy bolisi/prosiect/cynnig ac er mwyn ystyried yr effeithiau posibl yng nghyd-destun penderfynyddion ehangach iechyd a llesiant. |
Gweld yr adnodd
|
Rhestr wirio gydag ystyriaethau polisi ar gyfer alinio polisïau datblygu lleol a phenderfyniadau cynllunio gyda pholisi cynllunio Cymru (Saesneg yn unig) |
Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA), WHIASU |
Mae'r rhestr wirio hon yn un o'r atodiadau o 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru' |
Gweld yr adnodd
|
Rhestr Wirio Lles Meddyliol (Saesneg yn unig) |
Cooke, A., Friedli, L., Coggins, T., Edmonds, N., Michaelson, J., O’Hara, K., Snowden, L., Stansfield, J., Steuer, N., Scott-Samuel, A. |
Mae'r rhestr wirio yma yn gweithio fel fframwaith cyflym i helpu pobl meddwl am lles meddyliol mewn fwy o manylder pan yn creu neu darparu polisi, strategaeth neu wasanaeth. |
Gweld yr adnodd
|
Rhestr Wirio Pennu Cwmpas (Saesneg yn unig) |
WHIASU |
Penderfynnu ar y ffocws, y dulliau a'r cynllun gwaith. |
Gweld yr adnodd
|
Rhestr Wirio Sgrinio (Saesneg yn unig) |
WHIASU |
Penderfynnu os mae rhaid gwneud HIA |
Gweld yr adnodd
|
Sefydliad Cenedlaethol er Ragoriaeth Glinigol (NICE) (Saesneg yn unig) |
|
Yn cynnwys crynodebau o adolygiadau ac adroddiadau llawn a gomisiynwyd neu a gynhaliwyd gan NICE, yn ogystal â chysylltiadau â sefydliadau eraill. |
Gweld tudalen we
|
Sefydliad Iechyd Gwledig (IRH) |
|
Yn cynnal ymchwil eang ei chwmpas i faterion sy'n ymwneud ag iechyd a'r amgylchedd gwledig. |
Gweld tudalen we
|
Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg yn unig) |
|
Yn darparu mynediad i astudiaethau achos, offer, ffynonellau tystiolaeth ar y berthynas rhwng penderfynyddion allweddol iechyd a gwybodaeth arall am ddatblygiadau cyfredol. |
Gweld tudalen we
|
Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau (Saesneg yn unig) |
|
Rhan o’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau yn dwyn ynghyd gyngor, dadansoddiad a thystiolaeth arbenigol a datblygu a gweithredu polisi i lunio a sbarduno blaenoriaethau gwella iechyd a chydraddoldeb ar gyfer y llywodraeth. |
Gweld tudalen we
|
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru |
|
Gwefan yn rhoi manylion cronfeydd yr UE yng Nghymru. |
Gweld tudalen we
|
System Arolygu Anafiadau Cymru Gyfan |
|
Mae System Arolygu Anafiadau Cymru Gyfan (AWISS) yn system arolygu anafiadau aml-ffynhonnell sy'n seiliedig ar y boblogaeth ac a gynlluniwyd i fesur cyfraddau a phatrymau anafiadau, er mwyn cefnogi'r broses o ddylunio a gwerthuso mentrau lleihau, ymyriadau a pholisïau anafiadau ledled Cymru. |
Gweld tudalen we
|
Templed / taflen gofnodi Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (2020 – rhyngweithiol) |
Uned Cymorth Asesu Effaith Iechyd Cymru (WHIASU) |
I’w ddefnyddio fel ffurflen electronig yn unig.
Fe'i defnyddir i nodi a chofnodi'r grwpiau poblogaethau a Phenderfynyddion Ehangach effeithiau Iechyd a Lles. |
Gweld yr adnodd
|
Templed cwmpasu – pennu’r trefniadau llywodraethu, y broses, yr amcanion a’r ffocws ar gyfer yr HIA (2020 – rhyngweithiol) |
Uned Asesu Effaith Iechyd Cymru (WHIASU) |
I’w ddefnyddio fel ffurflen electronig yn unig.
Mae cwmpasu yn pennu’r broses o reoli prosiect, llywodraethu, proses, amcanion, ffocws a graddfa’r asesiad sydd i’w gynnal. Bydd yn nodi ystod o elfennau gan gynnwys cylch gorchwyl, rolau a chyfrifoldebau, cynnwys rhanddeiliaid, y raddfa/math o asesiad a’r dystiolaeth sydd ei hangen. |
Gweld yr adnodd
|
Trosolwg o Asesiad yr Effaith ar Iechyd (HIA) (2020) |
Uned Asesu Effaith Iechyd Cymru (WHIASU) |
Mae'n darparu trosolwg ar Asesiad Effaith ar Iechyd (HIA). |
Gweld yr adnodd
|
Uned Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd MRC, Prifysgol Glasgow (Saesneg yn unig) |
|
Nod yr Uned yw 'hyrwyddo iechyd dynol drwy astudio dylanwadau cymdeithasol ac amgylcheddol ar iechyd'. O ddiddordeb arbennig fydd yr adran sy'n gwerthuso effeithiau ymyriadau cymdeithasol ar iechyd. Maent yn canolbwyntio ar feysydd yn y sector nad ydynt yn rhai gofal iechyd megis tai ac adfywio, yn ogystal â chynnal Canolfan ESRC ar gyfer Polisi Iechyd y Cyhoedd Sy'n Seiliedig Ar Dystiolaeth. |
Gweld tudalen we
|
Y broses i gynllunwyr sy’n ymgynghori ag iechyd y cyhoedd (Saesneg yn unig) |
Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a WHIASU |
Mae'r adnodd hwn yn un o atodiadau'r ddogfen 'Cynllunio ar gyfer Gwell Iechyd a Llesiant yng Nghymru'. |
Gweld yr adnodd
|
Y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Polisi (Saesneg yn unig) |
|
Yn rhan o Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y byd, mae'n darparu gweithdai a chyfarfodydd i ddatblygu a lledaenu syniadau ac arfer da ar HIA. |
Gweld tudalen we
|
Y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Asesu Effaith (Saesneg yn unig) |
|
Yn darparu cefnogaeth a fforwm ar gyfer trafodaeth a syniadau ar gyfer unigolion a sefydliadau sy'n ymwneud â gwahanol fathau o asesu effaith. |
Gweld tudalen we
|
Y Sefydliad Ewropeaidd er Gwella Amodau Byw a Gweithio (Saesneg yn unig) |
|
Mae'n disgrifio'i hun fel corff teiran yr Undeb Ewropeaidd a sefydlwyd i gyfrannu at y gwaith o gynllunio a sefydlu amodau byw a gweithio gwell. Yn darparu gwybodaeth am y cysylltiadau rhwng amodau cyflogaeth ac iechyd. |
Gweld tudalen we
|
Yn llwyddo i greu’r amodau ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru: astudiaeth achos. Yn: Impact Assessment Outlook Journal Volume 21: Gorffennaf 2024. Impact Assessment Frontiers Part 2: People, Health and Equality. Darnau meddwl o ymarfer yn y DU a Rhyngwladol (Saesneg yn unig) |
Kathryn Ashton, Liz Green |
Myfyrdodau gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru. |
Gweld yr adnodd
|
Yr hyn sy’n gweithio i Lesiant (Saesneg yn unig) |
|
BETA banc gwybodaeth tystiolaeth. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae'r Ganolfan wedi cwblhau 16 o adolygiadau systematig ar lesiant a diwylliant a chwaraeon, gwaith a dysgu a llesiant cymunedol. Y 'banc gwybodaeth' yw cam cynnar iawn y ganolfan i ddod â'r holl brif ganfyddiadau, y datganiadau tystiolaeth a'r bylchau o'r adolygiadau hyn at ei gilydd i mewn i un daenlen Excel chwiliadwy. Y bwriad yw gwneud y data mor hygyrch a defnyddiol â phosibl. |
Gweld tudalen we
|