Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o ganfyddiadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel ar Gymru. Mae’r adroddiad hwn yn drosolwg strategol lefel uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n crynhoi’r prif effeithiau ar iechyd, llesiant a thegwch a allai ddigwydd yn y tymor byr a’r tymor hwy yn dilyn derbyniad y DU i’r CPTPP.

Gellir gweld yr adroddiad llawn YMA.

Ar 13 Gorffennaf 2023, byddwn yn cynnal gweminar lle bydd canfyddiadau HIA CPTPP yn cael eu cyflwyno a’u trafod. Gallwch ddarganfod mwy a chofrestru YMA.