Cyhoeddodd Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Canolfan Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ‘Asesiad o’r Effaith ar Iechyd y ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ yng Nghymru mewn ymateb i bandemig COVID-19. Crynodeb Gweithredol‘ ar 22 Mehefin 2020.

Yn dilyn o hyn, mae’r adroddiad ar y Prif Ganfyddiadau a’r adroddiad ar yr Wybodaeth Atodol wedi’u cyhoeddi heddiw, sy’n darparu arfarniad cynhwysfawr o bolisi ‘Aros Gartref’ Llywodraeth Cymru ar iechyd a llesiant pobl Cymru a’r dystiolaeth a ddefnyddiwyd i gefnogi’r canfyddiadau. Mae’r ddau adroddiad hyn yn cwblhau’r adrodd ar gyfer yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a gynhaliwyd.

Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn rhoi trosolwg o effeithiau posibl iechyd a llesiant y Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol (y cyfeirir ato’n gyffredin fel ‘Cyfyngiadau Symud’) ar boblogaeth Cymru yn y tymor byr, tymor canolig a’r tymor hir. Mae’n defnyddio dysgu o dystiolaeth ryngwladol, y data a’r wybodaeth ddiweddaraf a barn rhanddeiliaid arbenigol.

Yn ôl yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, mae polisi ‘Aros Gartref’ Llywodraeth Cymru wedi lleihau lledaeniad coronafeirws, ond mae hefyd wedi cael effeithiau cadarnhaol a negyddol eraill ar lesiant cymdeithas Cymru, gan effeithio ar bron pob agwedd ar fywyd yng Nghymru.

Mae effeithiau cadarnhaol y polisi yn cynnwys lefelau uwch o wirfoddoli, cymunedau’n dod at ei gilydd i amddiffyn y rhai sy’n fwy agored i niwed, a gostyngiad mewn traffig cerbydau sy’n arwain at lai o lygredd a gwell ansawdd aer. O ran effeithiau negyddol, mae’r dirywiad economaidd wedi lleihau incwm a chynyddu diweithdra, ac mae aelwydydd incwm isel yn cael eu heffeithio fwyaf; mae hyn er gwaethaf mesurau cymorth cenedlaethol megis rhoi gweithwyr ar ffyrlo.

Nod yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yw helpu i hysbysu sefydliadau yn eu hymateb i’r pandemig trwy nodi lle mae angen gweithredu i liniaru yn erbyn effeithiau negyddol a gwella effeithiau cadarnhaol. Mae hefyd yn anelu at lywio strategaethau adfer ar ôl y pandemig, gyda’r nod cyffredinol o wella iechyd a llesiant y boblogaeth a lleihau annhegwch.

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd y Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol yng Nghymru mewn ymateb i bandemig COVID-19: Crynodeb Gweithredol

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd y Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol yng Nghymru mewn ymateb i bandemig COVID-19: Adroddiad ar y Prif Ganfyddiadau

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd y Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol yng Nghymru mewn ymateb i bandemig COVID-19: Gwybodaeth Atodol (Saesneg yn unig)