Heddiw, mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ‘Byd pandemig COVID-19 a thu hwnt: Effaith Gweithio Gartref ac Ystwyth ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru’. Mae wedi dod i’r amlwg fod gweithio gartref wedi cael effaith sylweddol ar lawer o’r boblogaeth o ganlyniad i fesurau diweddar a roddwyd ar waith mewn ymateb i bandemig COVID-19 (Coronafeirws). Nod y gwaith oedd nodi pwy sydd wedi cael eu heffeithio’n arbennig gan y newid yn y dull o weithio a sut, ac i nodi unrhyw anghydraddoldebau y mae angen mynd i’r afael â nhw.

Mae’n darparu trosolwg o effeithiau posibl iechyd a llesiant gweithio gartref a gweithio hyblyg ar boblogaeth Cymru yn y tymor byr, y tymor canolig ac yn yr hirdymor.  Fe’i cynhaliwyd yn gyflym mewn amser real ac mae’n defnyddio’r hyn a ddysgwyd gan dystiolaeth ryngwladol, y data a’r wybodaeth ddiweddaraf a barn rhanddeiliaid arbenigol.

Mae’r adroddiad yn cynnwys:

Gobeithiwn y bydd yr adroddiad yn hysbysu sefydliadau wrth iddynt ymateb i’r pandemig trwy nodi lle mae angen gweithredu i liniaru’r effeithiau negyddol ac i wella’r effeithiau cadarnhaol. Mae’r cyhoeddiad yn nodi meysydd ar gyfer gwneud rhagor o ymchwil a’r meysydd hynny lle nad oes digon o dystiolaeth yn bodoli. Mae’r adroddiad hefyd yn anelu at lywio strategaethau adfer ar ôl y pandemig, gyda’r nod cyffredinol o wella iechyd a lles y boblogaeth a lleihau annhegwch.  Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thim WHIASU drwy anfon e-bost at [email protected]