Diolch i bawb a gofrestrodd ac a ymunodd â’r weminar ‘Asesu Effaith ar Iechyd (HIA) yn Canolbwyntio ar Gyfranogiad a Thegwch’, a gyflwynwyd gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 5 Mawrth 2020. Roedd gan lawer o bobl ddiddordeb yn y digwyddiad hwn a oedd wedi’i anelu at gynrychiolwyr aelod-wladwriaethau Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am agwedd Cymru tuag at Asesu Effaith ar Iechyd a sut y gellir cymhwyso hyn mewn gwahanol ranbarthau a chyd-destunau. Gwnaeth dros 110 o unigolion o ystod eang o wledydd ledled y byd gofrestru i fod yn bresennol. 

Agorwyd y weminar gan Tatjana Buzeti, Swyddog Polisi ar gyfer Dulliau Aml-sectoraidd ar gyfer Tegwch Iechyd o Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, ar y pwnc ‘Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu’ yn Fenis, yr Eidal, a amlinellodd y cefndir i’r cyflwyniadau dilynol. Ymhlith y cyflwynwyr roedd Liz Green, Nerys Edmonds a Lee Parry-Williams o WHIASU, a roddodd gyflwyniad i ymagwedd Cymru tuag at Asesu Effaith ar Iechyd gan roi enghreifftiau o waith a wnaed gan WHIASU, gan gynnwys trosolwg o’r hyfforddiant a’r adnoddau a ddatblygwyd. Amlinellwyd dwy astudiaeth achos o Asesu Effaith ar Iechyd a gynhaliwyd yng Nghymru, gan gynnwys Asesu Effaith ar Iechyd yn sgil Brexit, gan gynnig cyfle i edrych ar Asesu Effaith ar Iechyd yn ymarferol. Roedd cyfleoedd i’r rhai a oedd yn bresennol ofyn cwestiynau a myfyrio ar yr wybodaeth a gyflwynwyd, gan arwain at drafodaethau diddorol ar y meysydd a drafodwyd yn ystod y weminar. Yn dilyn sesiwn addysgiadol iawn, gwnaeth Tatjana fyfyrio ar y cyflwyniadau, gan gynnig rhai sylwadau i gloi a ddaeth â’r weminar i ben.

I unrhyw un nad oedd yn gallu ymuno ar y diwrnod neu a hoffai wylio’r weminar, gellir gweld y recordiad yma (saesneg yn unig). Gellir gweld agenda y weminar yma (saesneg yn unig) a gellir gweld y sleidiau yma (saesneg yn unig).

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Asesu Effaith ar Iechyd, gan gynnwys offer ac adnoddau, a gwaith WHIASU ar wefan WHIASU. Cysylltwch â ni ([email protected]) os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech roi unrhyw adborth ar y weminar hon.