Mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) wedi cyhoeddi dau ganllaw ymarferol i gynorthwyo:

  1. cyrff cyhoeddus wrth iddynt gynnal Asesiadau statudol o’r Effaith ar Iechyd (HIAs)  yng Nghymru, a’r
  2. rhai sy’n dymuno cynnal HIAs gwirfoddol a thynnu sylw at arferion gorau i gefnogi ac ategu’r canllaw statudol.

Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu proses strwythuredig sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi’i chynllunio i gefnogi arferion HIA cyson ac effeithiol. Mae pob canllaw yn cynnwys templedi, rhestrau gwirio, a dolenni i adnoddau ychwanegol i hwyluso’r broses HIA.

Mae’r Canllaw i Gyrff Cyhoeddus yn darparu canllawiau cam wrth gam i gyrff cyhoeddus y mae’n ofynnol iddynt gynnal HIAs o dan y Rheoliadau Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru. Ochr yn ochr â’r canllaw, mae animeiddiad hefyd wedi’i ddatblygu i amlinellu’r gofynion allweddol ar gyfer cyrff cyhoeddus.

Mae’r Canllaw Gwirfoddol yn disodli’r ddogfen flaenorol, sef:Asesu’r Effaith ar Iechyd: Canllaw Ymarferol, a gynhyrchwyd gan UGAEIC yn 2012, ac mae’n amlinellu camau arferion gorau ar gyfer cynnal HIAs gwirfoddol.

Mae ein hadnoddau i gefnogi’r camau yn y broses HIA hefyd wedi cael eu hadnewyddu. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

Gellir defnyddio’r holl adnoddau uchod ochr yn ochr â’n cwrs e-ddysgu wedi’i ddiweddaru, ‘Y Broses Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA): ‘HIAs Gwirfoddol ac Arferion Gorau’, i gefnogi’r gwaith o gwblhau HIAs effeithiol o ansawdd uchel. Mae’r cwrs diwygiedig hwn yn cyflwyno dysgwyr i asesu’r effaith ar iechyd yng Nghymru, gan gynnwys y mathau o HIAs, eu hamseru a’u hegwyddorion, yr agweddau iechyd a llesiant arnynt, y broses HIA a’r offer cysylltiedig, yn ogystal â darllen pellach ac enghreifftiau o astudiaethau achos. Fe’i cynlluniwyd i ategu’r Canllaw HIA Gwirfoddol. ‑Bydd cwrs e-Ddysgu ychwanegol i ategu’r Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus yn cael ei lansio yn hydref 2026.

I gael mynediad at y cwrs e-Ddysgu:

  • Os oes gennych chi gyfrif Dysgu@Cymru: Mewngofnodwch i wefan Dysgu@Wales a dewch o hyd i’r cwrs Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Gwirfoddol ac Arfer Gorau – Cwrs E-ddysgu Cyflwyniad i’r Proses HIA drwy’r tab ‘GIG’ a thrwy glicio ar dudalen ‘WHIASU Iechyd Cyhoeddus Cymru’. Cysylltwch â [email protected] a byddwn yn anfon e-bost atoch i roi mynediad i chi at y cwrs.
  • Os nad oes gennych gyfrif Dysgu@Cymru: cysylltwch â [email protected] i ofyn am gyfrif, a byddwn yn anfon e-bost atoch i roi mynediad i chi.