Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd i gefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i ddylunio, cynllunio a chreu lleoedd sy’n galluogi pobl i fyw bywydau iachach a hapusach.

Mae’r canllawiau Cynllunio Lleoedd Iach yn amlinellu sut y gellir gwreiddio iechyd ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), sef y fframwaith cynllunio hirdymor sy’n nodi ble a sut y bydd tai, cyflogaeth, cyfleusterau, cysylltiadau trafnidiaeth, mannau gwyrdd a gwasanaethau cymunedol newydd yn cael eu lleoli.

Mae gan yr amgylchedd adeiledig a naturiol ddylanwad sylweddol ar ein hiechyd a’n llesiant a gall helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd. Mae mynediad at fannau gwyrdd, tai o ansawdd da, lleoedd diogel ar gyfer cerdded a beicio, a chyfleoedd i gysylltu ag eraill i gyd yn cael eu llywio gan benderfyniadau cynllunio a dylunio.

Nod y canllawiau yw helpu gweithwyr proffesiynol ym maes cynllunio ac iechyd i gydweithio’n agosach er mwyn sicrhau bod yr ystyriaethau iechyd hyn yn cael eu rhoi wrth wraidd datblygiadau yn y dyfodol ledled Cymru.