27 Tachwedd 2024

Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru yn nodi 20 mlynedd o ‘lunio Cymru iachach’

Mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) wedi nodi 20 mlynedd o helpu i “lunio Cymru iachach a thecach”. Dathlodd yr uned, sy’n darparu arweiniad, hyfforddiant, adnoddau a gwybodaeth mewn perthynas â chynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd, y garreg filltir ar 14 Tachwedd drwy gynnal gweminar mewn partneriaeth â Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn […]

31 Hydref 2024

Digwyddiad Rhwydwaith Ymarfer Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA)

Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru yn dathlu 20 mlynedd: 14 Tachwedd 2024 13:00 – 15:00 Mae’r dirwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) wedi newid yn aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi bod yn rhan ganolog o HIA ers sefydlu’r uned yn 2004. Bydd […]

5 Gorffennaf 2024

Digwyddiadau Rhwydwaith Ymarfer HIA sydd ar ddod

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ac Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi – Cipio effeithiau iechyd a gwerth cymdeithasol iechyd y cyhoedd Dydd Mercher, 28 Awst 2024, 10:00 – 11:00 Bydd y weminar nesaf hon yng nghyfres o ddigwyddiadau rhwydwaith HIA WHIASU yn archwilio’r cysyniad o werth cymdeithasol a’i berthynas ag Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA). Byddwn yn edrych ar […]

16 Mai 2024

Asesu goblygiadau cytundebau masnach rydd ar iechyd y cyhoedd: Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel

Yn 2016, pleidleisiodd y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, a oedd wedi creu ansicrwydd gwleidyddol a chymdeithasol. Mae’r Deyrnas Unedig bellach yn negodi ei chytundebau masnach ei hun, ac ym mis Mawrth 2023, cytunodd i ymuno â Chytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP). Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) […]

2 Mai 2024

Pennu Effaith Newid Hinsawdd ar Iechyd y Cyhoedd: Astudiaeth Genedlaethol sy’n Defnyddio Dull Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru

Cydnabyddir mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i iechyd byd-eang yn yr 21ain ganrif ac mae’n effeithio ar iechyd a llesiant trwy amrywiaeth o ffactorau. Oherwydd hyn, mae’r angen i gymryd camau i ddiogelu iechyd a llesiant y boblogaeth yn dod yn fwyfwy brys. Yn 2019, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Asesiad o’r Effaith ar Iechyd […]

19 Chwefror 2024

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Cwestiynau Cyffredin

Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi creu’r ddogfen hon sy’n ceisio ateb eich cwestiynau am Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan gynnwys edrych ar y manteision, yr hyn y mae’n ei olygu a phryd y dylid cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, ynghyd â chwestiynau eraill. Ochr yn ochr â’n hadnoddau […]

20 Rhagfyr 2023

Sut mae WHIASU yn paratoi ar gyfer cyflwyno Rheoliadau Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA)

Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn brysur iawn ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer cyflwyno rheoliadau statudol asesiadau HIA Llywodraeth Cymru, sy’n dilyn ymlaen o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae’n nodi: “Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fydd yn pennu […]

18 Rhagfyr 2023

Adroddiad newydd: Effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd 

Mae’r ffeithlun yn crynhoi’r canfyddiadau, gan edrych ar y Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd yr effeithiwyd arnynt, ynghyd â’r ystadegau allweddol, y camau lliniaru a’r meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol. Mae’r Nodyn Esboniadol yn manylu ymhellach ar yr uchod, ac mae’n rhoi dadansoddiad o’r dystiolaeth a lywiodd ein canfyddiadau cadarnhaol a negyddol ar fenywod, […]

12 Hydref 2023

Digwyddiad: Diogelu iechyd a lles yn yr argyfwng hinsawdd

Ydych chi’n ymwneud â chynllunio asesiad lleol am risg hinsawdd? Hoffech chi ddysgu mwy am sut mae pobl a chymunedau yng Nghymru yn agored i newid yn yr hinsawdd? Ymunwch â ni ar gyfer ein cynhadledd ar-lein nesaf. Bydd y gynhadledd hon yn cefnogi pobl sy’n gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) neu Gyrff Cyhoeddus […]