18 Gorffennaf 2023

Adroddiad newydd: Newid Hinsawdd yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd

Mae’r asesiad hwn o’r effaith ar iechyd (HIA) yn arfarniad strategol a chynhwysfawr o oblygiadau posibl newid hinsawdd yn y dyfodol agos i’r hirdymor ar iechyd poblogaeth Cymru. Mae’n darparu tystiolaeth gadarn i hysbysu cyrff cyhoeddus, asiantaethau a sefydliadau yn eu paratoadau ar gyfer newid hinsawdd a digwyddiadau newid hinsawdd a’u hymatebion iddynt. Ei nod […]

11 Gorffennaf 2023

Adroddiad newydd: Effaith Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o ganfyddiadau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel ar Gymru. Mae’r adroddiad hwn yn drosolwg strategol lefel uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n crynhoi’r prif effeithiau ar iechyd, llesiant a thegwch a allai ddigwydd yn y tymor byr a’r tymor […]

14 Ebrill 2023

Mae cytundeb masnach Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) yn fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd ac mae’n gwarantu asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA)

Mae papur newyddiadurol newydd yn y BMJ, a gafodd ei gyhoeddi a’i gyd-awduro gan aelodau o dîm Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), yn ystyried goblygiadau iechyd penderfyniad y DU i ymuno ag un o gytundebau masnach rydd mwyaf y byd, sef Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) Mae’r papur yn […]

12 Gorffennaf 2022

Adroddiad newydd: Diogelu lles meddwl cenedlaethau’r dyfodol: dysgu o COVID-19 ar gyfer y tymor hir. Dull Asesu Effaith Lles Meddyliol.

Mae’r Asesiad cynhwysfawr hwn o’r Effaith ar Les Meddwl (MWIA) wedi’i gynnal gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru i nodi effeithiau pandemig COVID-19, ac ymatebion polisi cysylltiedig, ar les meddwl pobl ifanc 10-24 oed yng Nghymru. Nod yr adroddiad yw darparu tystiolaeth a dysgu i lywio polisi ac arfer traws-sector sydd wedi’i gyfeirio […]

7 Mai 2019

WHIASU yn ymddangos mewn e-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r e-fwletin yma o Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canolbwyntio ar y Dyfodol ac Iechyd yn dilyn cynhadledd lwyddiannus iawn o’r enw ‘Ffurfio Ein Dyfodol yng Nghymru: Dyfodol ar gyfer Gwneuthurwyr Penderfyniadau yn y Sector Cyhoeddus’. Yn yr e-fwletin mae erthygl ar y Brexit HIA. Mae Liz Green o WHIASU, hefyd wedi creu podcast. I clywed y […]

30 Ionawr 2019

WHIASU yn Cyhoeddi Cylchlythyr Gaeaf 2018/19

Mae’r Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi cyhoeddi ei cylchlythyr Gaeaf 2018/19. Mae’r rhifyn diweddaraf yn cynnwys erthyglon ar y Ganolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer ‘Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’, diweddariad ar y waith Cydgordio Iechyd y Cyhoedd a Chynllunio Defnydd o Dir, a syniadau ar gyfer adnoddau a […]

21 Ionawr 2019

Adroddiad Cenedlaethol newydd yn trafod sut y gall Brexit effeithio ar iechyd a llesiant pobl ledled Cymru

Wedi’i gyhoeddi heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd Brexit yn trafod effeithiau posibl Brexit ar iechyd tymor byr, canolig a hirdymor pobl sy’n byw yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw at sut y mae’n rhaid i iechyd corfforol a meddyliol y tlotaf, y rhai â chymwysterau addysgol is, y rhai sy’n […]

9 Ionawr 2019

Cyflwyniad WHIASU yn Cynhadledd Bioamrywiaeth Cymru

Yn yr Hydref wnaeth Nerys Edmonds, Uwch Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus yn WHIASU, cyflwyno ar “Identifying the Health and Wellbeing Impacts of Environmental Programmes using Health Impact Assessment: Case Studies from Wales”yn cynhadledd ‘Wales Biodiversity’. Mae cyflwyniad Nerys ar gael yma, ac mae pob cyflwyniad o’r cynhadledd ar gael yma.

29 Hydref 2018

Iechyd yn Asesiadau Cynlluniadau

 Yn y rhifyn diweddaraf o Planning in London, darparodd Michael Chang (Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref), Liz Green (WHIASU) a Jenny Dunwoody (Arup) drosolwg o gyfleoedd i integreiddio ystyriaethau iechyd mewn ystod o asesiadau yn y broses gynllunio. Mae’r rhain yn cynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd. […]