Ydych chi’n ymwneud â chynllunio asesiad lleol am risg hinsawdd? Hoffech chi ddysgu mwy am sut mae pobl a chymunedau yng Nghymru yn agored i newid yn yr hinsawdd? Ymunwch â ni ar gyfer ein cynhadledd ar-lein nesaf.

Bydd y gynhadledd hon yn cefnogi pobl sy’n gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) neu Gyrff Cyhoeddus sy’n cynllunio neu’n dechrau eu hasesiadau risg hinsawdd lleol. Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniad i’r canllawiau ar asesiadau risg hinsawdd lleol sy’n cael eu cynhyrchu gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer BGCau. Bydd y rheiny sy’n bresennol yn clywed mewnwelediadau allweddol o’r Asesiad diweddar o’r Effaith ar Iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar berygl newid yn yr hinsawdd i bobl a chymunedau yng Nghymru. Bydd cyfle i rannu dysgu a mewnwelediadau o’r gwaith addasu hinsawdd lleol presennol yng Nghymru.

Bydd newid yn yr hinsawdd yn cael effaith fawr ar iechyd, lles ac anghydraddoldebau yng Nghymru ac mae cynllunio ac addasu i newid yn yr hinsawdd yn fater i bawb. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i gynllunio ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Ymunwch â ni i fod yn rhan o’r sgwrs.

Deilliannau dysgu:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o sut y bydd yr argyfwng hinsawdd yn effeithio ar iechyd a lles pobl a chymunedau yng Nghymru
  • Rhoi cyflwyniad i’r broses a’r canllawiau asesu risg hinsawdd lleol
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o rai ystyriaethau allweddol wrth gynllunio addasu i’r hinsawdd yn lleol.

Os hoffech gofrestru i ymuno â’r digwyddiad ar 21 Tachwedd 2023, cliciwch ar y ddolen YMA.