Ar 6 Medi, llwyddodd Liz Green, Cyfarwyddwr Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), i amddiffyn ei thesis PhD, “Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) fel adnodd i roi Iechyd ym Mhob Polisi ar waith”, ym Mhrifysgol Maastricht ac mae wedi ennill ei Doethuriaeth. Dyma’r tro cyntaf erioed i HIA fod yn ffocws penodol i PhD.

Hoffai cydweithwyr yn WHIASU longyfarch Liz ar ei chyflawniad gwych!

Os hoffech chi wylio Liz yn amddiffyn ei thesis, gallwch ei wylio YMA (Saesneg yn unig).