Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn brysur iawn ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer cyflwyno rheoliadau statudol asesiadau HIA Llywodraeth Cymru, sy’n dilyn ymlaen o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae’n nodi: “Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fydd yn pennu bod rhaid i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd mewn amgylchiadau penodedig.” Nid yw adran HIA y Ddeddf wedi dod i rym eto, ond bydd yn destun cyfnod ymgynghori yn gynnar yn 2024 ac anelir at gael y Rheoliadau HIA yn fyw ar adeg a gaiff ei nodi ar ôl yr ymgynghoriad. Mae hyn wedi rhoi peth amser i WHIASU baratoi ein gwasanaethau a’n hadnoddau er mwyn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus ar weithredu’r Rheoliadau.

Mae’r tîm yn gweithio’n galed i sicrhau y byddwn yn gallu cefnogi cyrff cyhoeddus yn eu dyletswydd newydd i gynnal asesiadau HIA drwy wneud y canlynol:

  • Adolygu ein cyrsiau hyfforddi ar-lein a’r rhai wyneb yn wyneb i sicrhau bod cydweithwyr yn cael amrywiaeth, mynediad hawdd a phrofiad dysgu pleserus mewn HIA.
  • Trosglwyddo ein modiwlau e-Ddysgu presennol i lwyfan mwy hygyrch a hawdd ei ddefnyddio, gan ddefnyddio Articulate 360.
  • Cynnal arolwg gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws cyrff cyhoeddus i roi darlun o brofiad, sgiliau a gwybodaeth mewn perthynas â HIA yng Nghymru.
  • Mae WHIASU yn cynnal cyfweliadau â rhanddeiliaid i drafod eu profiad a’u safbwyntiau nhw, yn ogystal â rhai’r sefydliad, tuag at HIA.  
  • Rydym yn gwneud gwelliannau i wefan WHIASU, fel y gall weithredu fel Hwb llawn gwybodaeth a hawdd ei ddefnyddio ar gyfer WHIASU a chynnwys sy’n gysylltiedig â HIA.
  • Rydym yn y broses o ysgrifennu canllawiau newydd ar gyfer ymarfer HIA yng Nghymru – o dan y rheoliadau ac ar gyfer y rhai sydd am eu cynnal yn wirfoddol.

Mae’r Uned yn diweddaru ac yn moderneiddio ein pecynnau hyfforddi ar-lein i sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cael y gorau o’u dysgu sy’n gysylltiedig ag Asesu Effaith. Mae ffyrdd o weithio wedi esblygu ers pandemig COVID-19, ac felly mae hyfforddiant ar-lein wedi dod yn norm. Er mwyn galluogi WHIASU i barhau i esblygu a gwella ein gwasanaethau, rydym yn buddsoddi mewn meddalwedd newydd i allu creu ein pecynnau e-Ddysgu ein hunain gan ddefnyddio Articulate 360. Drwy symud ein cyrsiau hyfforddi i Articulate, bydd yn rhoi profiad dysgu mwy modern i’n defnyddwyr, trwy ddefnyddio offer dysgu rhyngweithiol a dulliau trochi ar y platfform, a fydd yn codi ein e-Ddysgu i lefel arall. Bydd hyfforddiant wyneb yn wyneb yn dal i gael ei gynnal pan fydd capasiti yn caniatáu hynny gan fod gwerth hyfforddiant wyneb yn wyneb yn hynod fuddiol am ei fod yn rhoi elfen o gysylltiad, ynghyd â thrafodaethau a sgyrsiau arloesol.

Bydd arolwg yn cael ei gynnal, a fydd yn cael ei anfon at randdeiliaid allweddol ar draws cyrff cyhoeddus yng Nghymru i lywio datblygiad gwasanaeth WHIASU a’r dull o feithrin gallu, er mwyn sicrhau y cymhwysir HIA o’r radd flaenaf yn barhaus yng Nghymru. Nod yr arolwg yw darparu dealltwriaeth o lefelau profiad, sgiliau a gwybodaeth unigolion a sefydliadau am HIA yng Nghymru. Bydd hefyd yn ceisio deall y rhwystrau presennol a’r rhai posibl mewn perthynas â defnyddio HIA, ynghyd â gweld a fyddai hyfforddiant yn ddefnyddiol i unigolion a/neu sefydliadau allu cynnal asesiadau HIA yn well, deall y rhesymau dros eu cynnal a’r manteision a ddaw yn eu sgil.   Bydd yr arolwg yn cael ei anfon at randdeiliaid allweddol yn gynnar yn 2024, er mwyn paratoi’r Uned ymhellach ar gyfer cyflwyno’r Rheoliadau HIA.

Mae WHIASU hefyd yn cynnal cyfweliadau â rhanddeiliaid, a fydd yn ein galluogi i gael mewnwelediad i brofiadau a safbwyntiau unigolion a sefydliadau o HIA, ynghyd ag unrhyw fanteision a rhwystrau ymddangosiadol, a lefel ymwybyddiaeth eu sefydliad o HIA. Bydd yn fuddiol iawn i’r Uned, o ran cael barn rhanddeiliaid allweddol ar HIA, a gallai helpu i lywio ein hymateb i’r Rheoliadau HIA, a’r hyn sydd ei angen ar unigolion a sefydliadau a’r hyn y maen nhw am ei gael gennym ni i allu eu cefnogi yn eu hymatebion eu hunain. Gall hefyd fod yn sylfaen dystiolaeth ddefnyddiol i ni o ran eiriol dros y defnydd o HIA, a chael rhanddeiliaid o ystod eang o sefydliadau i gymryd rhan yn yr arolwg a dangos y manteision a all ddod yn ei sgil. Os hoffech gael eich cyfweld, gallwch gysylltu â mi ar [email protected].

Mae gwelliannau wedi’u gwneud, ac yn cael eu gwneud yn barhaus, i wefan WHIASU. Mae hyn wedi cynnwys gwella’r llywio ar y wefan i sicrhau bod gwybodaeth allweddol ar gael yn hawdd i bobl sy’n ymweld â’r wefan, a’u bod yn cael profiad hawdd ei defnyddio. Mae’r Uned wedi gwella a diweddaru cynnwys y wefan fel bod gan ddefnyddwyr wybodaeth gywir a chyfredol; mae’n sicrhau bod y wefan yn cael ei monitro a’i diweddaru’n rheolaidd â newyddion am yr hyn y mae WHIASU yn ei wneud fel bod rhanddeiliaid allweddol yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd.   Mae WHIASU yn cynnal arolwg ar gyfer defnyddwyr y wefan i gael gwell dealltwriaeth o brofiadau a barn defnyddwyr, i weld a yw rhanddeiliaid yn teimlo bod unrhyw gynnwys ar goll, neu a oes unrhyw beth y gellid ei wella am y wefan yn gyffredinol fel ein bod yn gwella ein gwasanaethau a phrofiad defnyddwyr yn barhaus.

Mae’r holl gamau gweithredu hyn yn golygu bod WHIASU yn paratoi’n drylwyr ac yn gwneud amrywiaeth eang o waith er mwyn bod wedi paratoi’n ddigonol ar gyfer cyflwyno’r Rheoliadau HIA. Y gobaith yw y byddant yn cael derbyniad cadarnhaol, ac yn caniatáu i HIA gael ei ddefnyddio’n ehangach, i gael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant ar draws poblogaeth Cymru a lleihau anghydraddoldebau, ac i barhau i gael eu defnyddio’n wirfoddol gan randdeiliaid ledled y wlad i lywio eu polisïau, prosiectau a rhaglenni.

Gobeithiwn fod hyn wedi bod yn ddefnyddiol o ran hysbysu ynghylch gwaith cyfredol yr Uned mewn perthynas â’r Rheoliadau HIA.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn sgil y postiad hwn, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o’r tîm yn [email protected] .uk.

Michael Fletcher

Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd (Polisi ac Asesiad Effaith)

15 Rhagfyr 2023