Dyddiadau: – TBC
Lleoliad: TBC
Cost Diwrnod 1 yn unig – £95 (aelodau CIEH) £135 (heb fod yn aelodau)
Diwrnodau 1 a 2 – £200 (aelodau CIEH) £260 (heb fod yn aelodau)
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at swyddogion megis gweithwyr addysg iechyd proffesiynol a rheolwyr addysg iechyd, cynllunwyr, swyddogion adfywio a staff eraill y bydd angen iddynt ddeall a gallu cyfrannu at, neu mewn rhai achosion, cynnal HIA cyflym a gwerthfawrogi sut i ddefnyddio’r canfyddiadau’n ymarferol. Bydd cael mwy o oleuni ar HIA yn paratoi swyddogion i ymateb i gyflwyno HIA statudol yng Nghymru ar gyfer cyrff cyhoeddus fel yr amlinellwyd yn Neddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 (amgylchiadau penodol i’w pennu yn y rheoliadau sydd i ddod). Yn ogystal, bydd elfennau o’r cwrs yn cynorthwyo swyddogion perthnasol i ddehongli’r broses o gyflwyno’r cysyniad o ‘iechyd y boblogaeth’ o fewn asesiad o’r effaith amgylcheddol (EIA) yn dilyn Cyfarwyddeb yr UE.
Sut mae’r cwrs yn gweithio?
I gwblhau’r hyfforddiant cymhwysedd llawn, mae angen i’r cynrychiolwyr fynychu ar y 2 ddiwrnod a chyflwyno aseiniad. Bydd cynrychiolwyr llwyddiannus yn derbyn Tystysgrif Cymhwysedd ar gyfer HIA Cyflym. Gall cynrychiolwyr gofrestru ar gyfer Diwrnod 1 yn unig ac ar ôl iddynt fynychu, byddent yn cael Tystysgrif Presenoldeb yn unig. Rhaid gwneud Diwrnod 1 a Diwrnod 2 ar yr un cwrs – ni chaiff cynrychiolwyr newid rhwng carfannau neu leoliadau.
Nod Diwrnod 1 y cwrs yw rhoi cipolwg ar y broses a’r egwyddorion sy’n sail i Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA). Mae’r hyn a ddysgwyd ar Ddiwrnod 1 wedyn yn cael ei gryfhau trwy ymgymryd ag aseiniad HIA Bwrdd Gwaith Cyflym.
Mae’n deilliannau dysgu yn cynnwys:
- Deall diben HIA
- Gwybod y sbardunau polisi sy’n cefnogi’r defnydd o HIA
- Gwybod y manteision a’r canlyniadau y gall HIA eu cyflawni
- Deall proses a dulliau HIA
- Gwybod sut y gellir cymhwyso HIA mewn ystod o gyd- destunau
- Deall yr egwyddorion a’r gwerthoedd moesegol sy’n llywio HIA
- Gwybod beth yw’r gofynion o ran adnoddau, sgiliau a gwybodaeth ar gyfer cwblhau HIA – a lle mae eich set sgiliau yn berthnasol
- Nodi cyfleoedd i ddefnyddio HIA yn ymarferol
- Defnyddio’r hyn a ddysgwyd drwy gynnal HIA Cyflym.
Mae Diwrnod 2 yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr ddangos eu dysgu a myfyrio ar eu profiad o gymhwyso HIA yng nghyd-destun eu gwaith, mae’n cynnwys:
Adolygu’r HIA Cyflym a gyflwynwyd, gan ganolbwyntio ar faterion a nodwyd, · Ennill profiad o’r HIA a gynhaliwyd gan gyfranogwyr eraill, · Caniatáu ar gyfer trafod y system yn fanylach.
Amserlen –
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ganiatáu i aseiniad drafft gael ei gyflwyno a’i asesu er mwyn darparu canllawiau ychwanegol i atgyfnerthu eich dysgu a’ch aseiniad terfynol.
Amlinelliad o’r Amserlen
Diwrnod 1 Presenoldeb am ddiwrnod llawn gan yr holl gynrychiolwyr
4 wythnos Cyn-gyflwyno’r aseiniad
6 wythnos Rhoi adborth a sylwadau gan yr aseswyr a dychwelyd i’r cynrychiolwyr (bydd gan y cyfranogwyr bythefnos i wneud diwygiadau)
8 wythnos Cyflwyno’r aseiniad yn derfynol yn dilyn adolygiadau
10 wythnos Diwrnod 2 adolygu a myfyrio
11-12 wythnos Adborth terfynol a’r canlyniadau’n cael eu hanfon at y cynrychiolwyr
Yr Aseiniad
Bydd yn ofynnol i gynrychiolwyr wneud Asesiad o’r Effaith ar Iechyd bwrdd gwaith cyflym a chyflwyno adroddiad byr amdano. Gall fod ar unrhyw bwnc neu faes pwnc sy’n berthnasol, neu sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’ch ymarfer gwaith. Gall fod yn ôl-syllol, yn gydamserol neu’n arfaethedig (ceir manylion pellach yn y yfarwyddiadau cyn y cwrs) Disgwylir i chi ddefnyddio’r fethodoleg, y fformat a’r offer fel y’u hamlinellir yn ‘Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Canllaw ymarferol’ gan WHIASU (WHIASU, 2012) i gwblhau’r aseiniad hwn. Uchafswm nifer y geiriau ar gyfer yr aseiniad yw 5,000. Mae hyn yn cynnwys prif gorff y testun gan gynnwys penawdau a theitlau. Nid yw’n cynnwys unrhyw dudalen deitl neu dudalen gynnwys, tablau, atodiadau a chyfeiriadau.
Pam HIA?
Mae hwn yn amser da i fod yn datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth mewn HIA gyda phasio Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 sy’n gwneud HIA yn asesiad statudol. Yn ogystal, mae Cyfarwyddeb newydd yr UE ar gyfer AEA sydd wedi ehangu’r ffocws ar iechyd a llesiant i ystyried iechyd y boblogaeth. Mae Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn broses sy’n helpu sefydliadau i asesu canlyniadau posibl eu penderfyniadau ar iechyd a llesiant pobl. Mae’n cael ei gydnabod a’i ddeall fwyfwy bod pob maes polisi yn cael effaith ar ganlyniadau iechyd a llesiant unigolion a chymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar ddull Iechyd ym Mhob Polisi ac mae’n cydnabod HIA fel offeryn allweddol i’w ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth ar draws sectorau ar sut mae polisïau, rhaglenni a gwasanaethau’n effeithio ar iechyd a llesiant. Yng Nghymru, mae HIA yn asesu’r goblygiadau ar gyfer iechyd a llesiant trwy lens eang penderfynyddion ehangach iechyd ac mae’n cyfrannu at leihad mewn anghydraddoldebau iechyd ac annhegwch. Argymhellir a gweithredir HIA ar lefelau strategol a gweithredol ar draws y sectorau defnydd tir, cynllunio, tai, gwastraff, trafnidiaeth, adfywio ac iechyd.
Mae HIA yn darparu fframwaith systematig ond hyblyg ac ymarferol y gellir ei ddefnyddio i ystyried effeithiau ehangach polisïau neu fentrau lleol a chenedlaethol a sut y gallant hwy, yn eu tro, effeithio ar iechyd a llesiant pobl. Mae HIA yn casglu ac yn asesu ystod o dystiolaeth a defnyddir hyn wedyn i ymgorffori mesurau i wneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer iechyd a llesiant, er mwyn lleihau unrhyw risgiau a llywio’r broses o wneud penderfyniadau. Mae hefyd yn darparu ffordd o fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd sy’n parhau o hyd yng Nghymru. Mae’n gwneud hyn drwy gydweithredu a chydgynhyrchu, sy’n rhan o broses HIA.