Mae WHIASU yn cydlynu Rhwydwaith Ymarfer Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), sy’n ceisio cefnogi datblygiad proffesiynol ym maes HIA trwy ddod â phobl ynghyd i ddysgu, rhannu ymarfer, a datblygu gwybodaeth a sgiliau ymhellach. Mae’n fan agored i gydweithwyr yn fewnol ac yn allanol i Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), lle rydym yn annog aelodau i rannu eu gwaith, archwilio heriau a chyfleoedd ym maes HIA a gofyn am gyngor gan eraill yn y maes. Rydym yn cynnal sesiynau bedair gwaith y flwyddyn, gyda’r ffocws yn newid bob tro i weddu i wahanol anghenion.

Cyn bo hir, bydd hefyd yn rhoi cyfle i fynychwyr dderbyn tystysgrif Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) am fynychu’r digwyddiadau hefyd, os yw hynny’n rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi.

Os hoffech ymuno â’r Rhwydwaith, neu os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch Michael Fletcher – [email protected]