Canllaw Cynllunio ac Iechyd yng Nghymru

Canllaw byr yw hwn sy’n nodi’r sefydliadau allweddol sy’n ymwneud â chynllunio ac iechyd, eu rolau a’u cyfrifoldebau, sut maent yn gweithio gyda’i gilydd a’r hyn y maent yn ei lunio (polisïau, strategaethau, canllawiau ac ati). Mae hefyd yn tynnu sylw at rai cyhoeddiadau allweddol, ffynonellau data a phecynnau cymorth sy’n cefnogi gwaith sy’n gysylltiedig â chynllunio ac iechyd, a gwybodaeth am wneud lleoedd a phenderfynyddion ehangach.

Traciwr Cynllun Datblygu

Diben y traciwr hwn yw galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i olrhain cynnydd y cynlluniau datblygu yn eu hardal. Gellir mewnbynnu dyddiadau allweddol ar gyfer pob cam o’r cynllun datblygu (pan fyddant yn hysbys) yn y traciwr, a bydd hyn yn galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i fod yn ymwybodol o ba bryd y bydd angen eu mewnbwn nhw. Mae paratoi cynlluniau datblygu yn cymryd sawl blwyddyn, ac mae cyfnodau hollbwysig lle mae angen cynnwys iechyd.

Cymryd rhan mewn Paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)

Mae’r canllaw hwn yn nodi camau’r allweddol wrth baratoi CDLl a’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer mewnbwn ac ymgysylltiad iechyd. Bydd cynllunwyr polisi ym mhob awdurdod cynllunio lleol yn gallu rhoi cyngor ar y dulliau ymgysylltu ar gyfer datblygu eu CDLl. Wrth baratoi’r CDLl a chynllunio gwasanaethau gofal iechyd, dylid ymgysylltu â Byrddau Iechyd fel partneriaid allweddol, a rhaid cael mewnbwn iechyd y cyhoedd i ystyried iechyd a llesiant y boblogaeth bresennol ac yn y dyfodol.

Templed ymateb i geisiadau cynllunio

Er nad yw Byrddau Iechyd Lleol yn ymgynghorai statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio, maent yn gyrff cyhoeddus allweddol y dylid ymgynghori â nhw ar geisiadau penodol, er enghraifft datblygiadau preswyl. Gellir cytuno o ran graddfa a natur y datblygiad yr ymgynghorir yn ei gylch yn lleol h.y. ceisiadau preswyl mawr, neu geisiadau preswyl dros raddfa, cwmpas a maint penodol, unedau manwerthu neu brosiectau seilwaith. Mae hefyd yn bosibl i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud sylwadau ar geisiadau nad ymgynghorir ag ef yn uniongyrchol arnynt, ond ei fod yn credu y byddant yn effeithio ar iechyd y boblogaeth a gwasanaethau gofal iechyd lleol. Gallant sganio rhestrau ceisiadau wythnosol i nodi ceisiadau datblygu allweddol.

Mae’r templed hwn yn rhoi canllaw ynghylch y math o ymateb y gellid ei ddarparu i swyddog cynllunio sy’n ymdrin â chais cynllunio gan Fwrdd Iechyd Lleol. Ni fwriedir i bob rhan ohono gael ei ddefnyddio ar gyfer pob cais ond bydd yn dibynnu ar natur y datblygiad sy’n cael ei gynnig. Mae’n ymdrin â chynllunio strategol ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd ac iechyd y cyhoedd, gan edrych ar benderfynyddion ehangach iechyd ac effaith datblygiad ar iechyd a lles. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgynghorai statudol ar gyfer ceisiadau o safbwynt iechyd yr amgylchedd. Ar lefel genedlaethol, mae hyn drwy Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus yr Amgylchedd. Yn lleol, gall y Byrddau Iechyd Lleol wneud sylwadau iechyd yr amgylchedd hefyd.

Gellir dod o hyd i Ragor o Adnoddau yma: