Rydym yn gyffrous i’ch gwahodd i siarad am eich gwaith HIA a’ch profiadau yn ein digwyddiad Rhwydwaith HIA nesaf ddydd Mercher 24 Mehefin, rhwng 10:00 a 12:00. Byddai’n gyfle gwych i roi llwyfan i aelodau ein Rhwydwaith gyflwyno darn o waith sy’n gysylltiedig ag HIA y maent wedi’i gwblhau neu wrthi’n ei gwblhau. Bydd yn gyfle i gael adborth a barn gan eich cyfoedion a chan gydweithwyr o dîm UGAEIC. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cyflwyniad, anfonwch neges at Michael Fletcher ([email protected]). Cysylltwch hefyd os oes gennych syniadau eraill ar gyfer cynnwys yr ydych chi’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol neu’n ddiddorol i’w drafod. Bydd gwybodaeth am sut i gofrestru yn cael ei hanfon maes o law.