Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) yn cynnal ein digwyddiad Rhwydwaith Ymarfer HIA nesaf ar-lein ddydd Iau 4 Medi 2025 rhwng 10.00 a 11.30am Amser Haf Prydain (BST).
Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i’r rheiny sy’n bresennol ddysgu am y gwaith sy’n digwydd yng Nghymru a’r DU mewn perthynas â HIA a masnach, sy’n benderfynydd masnachol allweddol ar iechyd. Bydd nifer o randdeiliaid profiadol yn ymuno â ni a fydd yn cyflwyno ar wahanol feysydd masnach gan gynnwys: effaith tariffau masnach ar iechyd a llesiant; cymhwyso Lens Tegwch Iechyd i Benderfynyddion Masnachol Iechyd; a safbwynt Llywodraeth Cymru ar sut mae polisi masnach ac iechyd a chytundebau masnach yn bwysig yng nghyd-destun Cymru. Bydd amser hefyd i chi ofyn cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd i’r digwyddiad, llenwch y ffurflen Microsoft Forms canlynol a bydd gwahoddiad dyddiadur yn cael ei anfon maes o law.
Os hoffech chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod ymuno â Rhwydwaith Ymarfer HIA, e-bostiwch Michael Fletcher ([email protected]).