Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ac Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi – Cipio effeithiau iechyd a gwerth cymdeithasol iechyd y cyhoedd
 
Dydd Mercher, 28 Awst 2024, 10:00 – 11:00
 
Bydd y weminar nesaf hon yng nghyfres o ddigwyddiadau rhwydwaith HIA WHIASU yn archwilio’r cysyniad o werth cymdeithasol a’i berthynas ag Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA). Byddwn yn edrych ar sut y gellir defnyddio Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) ochr yn ochr â HIA i gasglu a mesur effeithiau ar iechyd a gwerth cymdeithasol a rhoi cyfle i gymheiriaid drafod sut y gellid cymhwyso hyn at ein gwaith ymarferol. 
 
Os ydych yn gwybod am unrhyw un arall a allai fod â diddordeb mewn mynychu, a fyddech cystal ag anfon manylion y gweminar ymlaen, diolch.
 
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd i’r weminar, gallwch gofrestru YMA.
 
DYDDIAD I’CH DYDDIADUR: Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru yn 20
 
Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024, 10:00 – 12:00
 
Bydd hwn yn ddathliad o 20 mlynedd o Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), a fydd yn cynnwys cyhoeddi ffeithlun o gerrig milltir allweddol WHIASU ac Asesu’r Effaith ar Iechyd yn gyffredinol yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Bydd yn cynnwys siaradwyr sydd wedi arwain a chyfrannu at y cerrig milltir hyn, ac yn rhoi cyfle i’r rhai fydd yn bresennol glywed am hanes HIA yng Nghymru, ac edrych i’r dyfodol.
 
Bydd rhagor o fanylion a gwahoddiadau i’r gweminar yn cael eu hanfon maes o law.
 
Chwefror 2025 (I’w gadarnhau): Digwyddiad Cynllunio Gofodol ac Iechyd