Mae e-Ddysgu Sicrhau Ansawdd ac Adolygu Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIAs) Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) ar gael ar wefan Dysgu@Cymru.

Mae hwn yn gwrs am ddim, sydd ar gael i unrhyw un ei gyrchu. Mae wedi’i anelu at y rhai sy’n cynnal HIAs, yn eu hadolygu neu’n defnyddio HIAs fel tystiolaeth yn eu gwaith ac a hoffai ddefnyddio adnodd gwerthuso beirniadol i asesu ansawdd. Mae’r cwrs wedi’i anelu at y rheini sy’n gweithio ar draws y gweithlu iechyd y cyhoedd ehangach a’r sectorau iechyd a pholisi nad ydynt yn ymwneud ag iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r rhain yn cynnwys cyrff cyhoeddus, y Trydydd Sector, cymunedau, comisiynwyr a dinasyddion preifat.

Mae’r cwrs yn cymryd tua awr i’w gwblhau a bydd tystysgrif cwblhau ar gael i’w lawrlwytho ar ôl gorffen y cwrs.

Mae’r cwrs yn cynnwys adrannau ar y canlynol:

  • Diffinio ansawdd a pham mae Sicrhau Ansawdd (QA) yn bwysig yng nghyd-destun HIA?
  • Yr hyn sy’n cael ei sicrhau/adolygu o ran ansawdd
  • Y broses sicrhau ansawdd a’r ystyriaethau – cyflwyno’r fframwaith sicrhau ansawdd
  • Ymarfer ymarferol – cynnal adolygiad byr o HIA

I gael mynediad at y cwrs e-Ddysgu:

  • Os oes gennych gyfrif Dysgu@Cymru eisoes: Mewngofnodwch iwefan Dysgu@Cymru a dewch o hyd i’r cwrs Cyflwyniad i HIA drwy’r tab ‘NHS’ a thrwy glicio ar dudalen ‘UGAEIC Iechyd Cyhoeddus Cymru’. Cysylltwch â [email protected] a byddwn yn anfon e-bost atoch i roi mynediad i chi at y cwrs.
  • Os nad oes gennych gyfrif Dysgu@Cymru: cysylltwch â [email protected] i ofyn am gyfrif a byddwn yn anfon e-bost atoch i roi mynediad i chi at y cwrs.