Derbynnir Consensws Gothenburg Canolfan Polisi Iechyd Ewrop (1999) yn gyffredinol fel y diffiniad arloesol o Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ac mae’n ei ddiffinio fel:
‘Cyfuniad o weithdrefnau, dulliau ac offer y gellir eu defnyddio i farnu effeithiau posibl polisi, rhaglen neu brosiect ar iechyd poblogaeth, a dosbarthiad yr effeithiau hynny yn y boblogaeth honno.’
Fodd bynnag, mae diffiniadau eraill wedi’u cynnig yn ddiweddar (Elliott ac eraill 2010) wrth i’r arfer o ddefnyddio HIA ddatblygu:
‘… proses lle mae tystiolaeth (o wahanol fathau), diddordebau, gwerthoedd ac ystyron yn cael eu dwyn i ddeialog rhwng rhanddeiliaid perthnasol (gwleidyddion, pobl broffesiynol a dinasyddion) er mwyn deall a rhagweld yn ddychmygus effeithiau newid ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd mewn poblogaeth benodol’.
Mae asesu’r effaith ar iechyd yn darparu fframwaith systematig ond hyblyg ac ymarferol y gellir ei ddefnyddio i ystyried effeithiau ehangach polisïau neu fentrau lleol a chenedlaethol a sut y gallen nhw, yn eu tro, effeithio ar iechyd pobl. Mae asesu’r effaith ar iechyd yn gweithio orau pan fydd yn cynnwys pobl a sefydliadau sy’n gallu cyfrannu gwahanol fathau o wybodaeth a safbwyntiau perthnasol. Mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio i gynnwys mesurau sy’n cyflwyno’r cyfleoedd gorau ar gyfer iechyd a chyn lleied o beryglon â phosib. Mae hefyd yn cynnig ffordd o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy’n parhau i fodoli yng Nghymru.
Mae tri phrif fath o HIA:
Darpar HIA – ar ddechrau datblygiad prosiect, cynnig neu gynllun.
HIA Cyfredol – a gynhelir wrth i’r prosiect (neu bolisi) gael ei gyflwyno.
HIA Ôl-weithredol – sy’n asesu effaith prosiect neu bolisi presennol a gellir ei ddefnyddio fel dull gwerthuso. Gellir cynnal asesiadau ôl-weithredol hefyd o ddigwyddiadau dirybudd, fel ffordd o ddysgu gwersi ar gyfer digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
Gellir cynnal unrhyw un o’r HIA uchod mewn un o dri dull gwahanol, yn ôl y ffocws a’r amser ac adnoddau sydd ar gael:
Gall ymarfer HIA Pen Desg gymryd oriau neu ddiwrnod i’w gwblhau a gall ymgorffori nifer fach o gyfranogwyr o amgylch bwrdd gan ddefnyddio gwybodaeth a thystiolaeth bresennol i asesu cynnig, polisi neu gynllun.
Gall gymryd dyddiau neu wythnosau i gynnal HIA Cyflym ac fel arfer mae’n cynnwys sefydlu grŵp llywio bychan ac mae’n aml yn defnyddio gweithdy cyfranogol i randdeiliaid – mae fel arfer yn cynnwys ymchwiliad byr o’r effeithiau ar iechyd, gan gynnwys adolygiad llenyddiaeth byr o dystiolaeth feintiol ac ansoddol a chasglu gwybodaeth a thystiolaeth bellach gan nifer o randdeiliaid lleol.
Mae HIA Cynhwysfawr yn fwy manwl a gall gymryd misoedd i’w cwblhau. Gallant fod yn llafurus o ran amser, yn gostus iawn, mae’n bosibl y bydd angen chwiliadau helaeth drwy lenyddiaeth a chasglu data sylfaenol. Mae’r math hwn o HIA yn fwy addas ar gyfer cynigion mwy cymhleth.
I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ‘HIA: Canllaw ymarferol’.
Ffynonellau:
Elliott E, Harrop E, a Williams GH (2010) Contesting the science: public health knowledge and action in controversial land-use developments, yn P. Bennett, K Calman, S Curtis a D Fischbacher-Smith (gol) Risk Communication and Public Health (ail argraffiad), Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.
Canolfan Polisi Iechyd Ewrop (1999) Health Impact Assessment: Main concepts and suggested approach (Gothenburg Consensus), Brwsel: Canolfan Polisi Iechyd Ewrop.