Dyma’r ail weithdy a gynhaliwyd yn 2018 yn canolbwyntio ar y thema ‘aduno iechyd a chynllunio’, yn benodol i archwilio lefelau ymgysylltu cyfredol rhwng iechyd y cyhoedd ac awdurdodau lleol ac i archwilio cyfleoedd i weithio mewn ffordd fwy cydlynol yn y dyfodol. Cadeiriwyd y diwrnod gan Kate Eden, Cyfarwyddwr Anweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ac roedd cyfanswm o 58 o gyfranogwyr yn bresennol gan gynnwys cynllunwyr tref, swyddogion iechyd yr amgylchedd, llunwyr polisi, academyddion, ymarferwyr iechyd cyhoeddus a Chyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus, yn dod o bob rhan o Gymru.
Roedd cyfres o gyflwyniadau’n amlinellu pwysigrwydd ICC, awdurdodau lleol a llunwyr polisi yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod iechyd a llesiant yn cael eu hintegreiddio ym mhob cam o’r broses o lunio polisïau ac yn parhau drwy gydol cylch bywyd datblygiadau. Wrth wraidd hyn mae grymuso ac ymgysylltu â chymunedau i greu ‘lle’ i bawb. Archwiliodd y gweithdai hyd a lled yr arferion presennol; ymgysylltu â gweithio bob dydd; a pha gyfleoedd sydd yna i feithrin mwy o ymgysylltu rhwng gwahanol sectorau ac ymarferwyr. Amlygwyd rhestr ddymuniadau o amcanion tymor byr, canolig a hir gan gyfranogwyr er mwyn gallu cydweithio’n well yn y dyfodol.
Bydd crynodeb a chamau gweithredu o’r gweithdy yn cael eu cynhyrchu yn y dyfodol agos.
I weld y cyflwyniadau o’r diwrnod, cliciwch ar y lincs isod (ar gael yn Saesneg yn unig).
Shaping a Shared Agenda Between Public Health and Land Use Planning – Dr Gill Richardson
Shaping a Shared Agenda Between Public Health and Land Use Planning – Simon Gilbert
Recognising the Value and Importance of Planning and Public Health System Working – Michael Chang
How Things Have Moved On – World Examples of Good Practice – Dr Laurence Carmichael