Ddydd Mawrth 16 Mai pasiwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2016 yn Senedd Cymru.  Ymhlith y cydrannau a gynhwysir ynddo, mae’r gofyniad i’r HIA fod yn broses statudol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Mae rhan 6 o’r Bil yn nodi y bydd HIA eang (sy’n ystyried iechyd a llesiant meddyliol ac anghydraddoldebau) yn dod yn ofyniad statudol yng Nghymru ar gyfer cyrff cyhoeddus h.y. awdurdodau lleol; byrddau iechyd lleol neu Lywodraeth Cymru mewn amgylchiadau penodol. Bydd y Bil yn dod i rym yn ddiweddarach yr haf hwn.

Nid yw’r amgylchiadau na’r rheoliadau penodol wedi’u pennu gan Lywodraeth Cymru (LlC) eto.  Caiff y rhain eu llunio gan Lywodraeth Cymru ac ymgynghorir arnynt ar ddiwedd 2017 a dechrau 2018.  

Mae ffeithlun gan Lywodraeth Cymru ar gael isod sy’n crynhoi’r Bil a’i elfennau craidd. 

 il Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2016 – Ffeithlun Saesneg

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2016 – Ffeithlun Cymraeg

Mae rhagor o fanylion ar gael hefyd yn: http://www.senedd.assembly.wales/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16155.

Ffynhonnell:Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU)

 Rhannu’r erthygl hon